Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EISTEDDFOD YR ALBERT HALL.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD YR ALBERT HALL. Testun y Gadair: Pryddest—"Ben Bowen." Beirniadaeth. Cystadleuaeth dda iawn ydyw hon. Ceir yn y pryddestau hyn lawer o feddyliau disglair yn pefrio yma a thraw; gresyn fod yr iaith mor fynych yn fratiog a'r cynllun mor ddidrefn. Lied gyffrediri ydyw pryddest "Taliesin." Y mae ol brys ami, ac y mae'r tudalennau olaf wedi eu hysgrifenu a phwyntl blwm. Dyma ychydig linellau a ddengys yn deg natur y cyfan- soddiad hwn 'Rol gwaith y dydd fe garai yr encilion, Tangnefedd myfyr suddai yn ei galon; Hyd hanner nos ei Jyfr tfrydiai'n llawen, i. Ac engyl Duw yn dawnsio ar bob dalen. Deffrodd mewn ymwybyddiaeth o'i fwriadau I ganu'n anfonedig yr awenau. Y mae'r tor mesur mynych a geir yn y bryddest yn atgas dros ben. Beth a wneir o gwpled fel hyn ? Coelcerth yn llosgi ar fynydd cyfagos A'i fflam yn difa aden wen y lwydnos. Fel hyn y dechreua De Profundis Pam yr wylaf heddyw ? Etyb ywen ddu Ar fy nhafod i Farw-farw Ben Pam mae dagrau teulu Fel cwynfanus nant Mewn hydrefol bant ? Farw-farw brawd. Os yw odl yn dda yng nghanol y pennill, pam y rhaid i'r Ilinell olaf, yn anad un, fod, yn ben- ryddp Ag yntau'n odli cyn lleied, paham y boddlonai'r bardd ag odl fel "ddu" ac "i" ar y tarawiad cyntaf? Pa ystyr sy mewn "ywen ddu" ar "dafod?" Y mae "farw—farw" yn iawn yn y pennill cyntaf ar ol etyb," ond marw neu am farw" ddylai fod yn yr ail, yn nechreu brawddeg, wrth ateb y cwestiwn. Gyda chymaint o ryddid ag a gymer yr ym- geisydd hwn, dylasai o leiaf gadw at ryw fath o fesur; ond pa beth a wneir o'r ail linell yn hwn? Cofiaf am Olyddan Wefreiddiai'i oes Wrth delvnau'r groes Dyna deulu Ben. Yn fuan blina'r ymgeisydd ar bob ymgais at odl, a chan fel hyn :— Ar grib y foel A Chymru fu A noethwyd gan Gadwgan Yn eco yn y mynydd A'i fwyell hen Delynau aur Y safaf yn alarus A dorwyd o'u bythynod Yn gwrando awen oesau Gwellt-hen a gwyn, Yn trin y bedd A Chymru sydd, etc., etc. Gellir nyddu rhyw rimyn fel hyn wrth y Hath; ac y mae angen mwy o athrylith nag a fedd De Profundis i'w gadw rhag mynd yn dalcen 'slip. Pa beth yw torri telyn o fwthyn ? Pa fath fwthyn yw un gwellt? Gwelais fwthyn to gwellt—a pha fodd y torrir telynau aur o fwthynod gwellt hen a gwyn ? Eto :— Ieuanc fydd telynwyr Y telynau hyn Wyn ym mhranc y bryn, Dyna urdd y beirdd. Pa fodd y can oen delyn ? A hynny dan brancio? Nid yw'r gyffelybiaeth yn y ddwy hnell olaf yn hapus nac urddasol, ac ni ddiylch y beirdd i'r awdwr am dani. Unwaith eto:- Plethu gwair Yn delyn aur I Yw gorchest bardd y nef. welais blethu morhesg yn fatiau, ond plethu igwair yn delyn aur Pa un wrthunaf ai'r twyll odl ai'r drwg ddychymyg, nid hawdd dirnad, nd y mae'r naill yn burion gwisg i'r llall; y ■j^aent yn leuo'n g.ymharus. Y mae ar y bardd wn angen llawer mwy o ddisgyblaeth rheol cyn trhyfygu ei thaflu i'r gwynt. Y mae orgraff Si Wylofus Lafur" yn fynych wallus; ysgrifenna "cwrteithia," "chwarai," n ^ythai," "yng ng/^wanwyn oes," "yng /ig^wydd y nef." Dyry sillgoll ar ol cydsain— *ynd 'nol" • gedy "i" allan lie dylai fod^- .fod°f^yd lawr" a dyry hi j mewn lie nad yw i ;tod, feI:- Cyn i'th haul i fynd j lawr. Er iddo i gael nesu yno. Y ^es *'r §an droi. ymivf611 i'r gwall anhyfryd hwn gael ei RwAk ° ^yfansoddiadau eisteddfodol. Dodir 1 redydd y berf-enw yn briodol gydag "i" o'i flaen neu gydag "o" ar ei ol, fel hyn:— "Cyn z'th haul fynd" neu "Cyn mynd o'th haul." Nid oes eisiau "i" o flaen "mynd," canys y mae "mynd" yn wrthrych union- gyrchol i'r arddodiad "cyn"; fel hyn, "cyn mynd" nid "cyn/fynd"; yr un modd, "cyn (i'th haul) fynd" nid "cyn (i'th haul) i fynd," a "cyn mynd (o'th haul)" nid "cyn i fynd (o'th haul)." Dyma enghraifft deg o waith yr ymgeisydd hwn:- Darllenai Virgil yn ei iaith ei hun, Ac ymbleserai i nofio'i foroedd gwin Fe welodd ofid Orpheus uwch ei briod Pan oedd yn llithro llethrau'r pwll diwaelod Y brudd olygfa rwygai ei deimladau Nes llifai dagrau calon dros ei ruddiau. Bu Hegel iddo yn belydryn claer Ac un o'i gwmni hyd y nefol gaer. 'Roedd rhif a mesur iddo yn gyfeillion A mynnodd holl fwynderau eu cyfrinion. Dechreua Iaith fy Nghalon fel hyn :— Rhyw ddarn o nef yw mab y gwir o hyd, A chylch ei genadwri'n fwy na'r byd Cymeriad fel gwirionedd a barha- 'Does gan y byd un bedd i enw da. Tebyg fod yr ymgeisydd yn ystyried y llinell olaf yn un lied gampus, canys fe'i dyry'n fyrdwn i dri phennill fel "yr uchod. Nid oes dim i'w ddywedyd yn ei herbyn ond ei bod yn rhy lac a chyffredin ei hymadroddiad i ddal y pwysig- rwydd diarhebol a rydd yr awdwr arni. Ni saif i'w chymharu am foment ag un o'r rhai mwyaf diymhongar o'r hen linellau a gofir, megis Nid a rhinwedd i'r bedd byth." Peth arall, nid hawdd ei hodli; gorfu i'r awdwr roi ha! i mewn er mwyn yr odl yn yr ail bennill:— Er cuddio tegwch dyn mewn beddrod, Ha 'Does gan y byd un bedd i enw da, Y mae ganddo ddihareb arall:— Gwyn yw pob mynydd nes cyrhaedd ei ben," Yn y pellder o hyd mae'r goron Gwyn ydyw breuddwyd dy fywyd, Ben, Ond gwynnach oedd lliw dy galon. Pa gysylltiad sy rhwng y llinell olaf a'r rhelyw o'r pennill ? A pha synwyr sy mewn dywedyd mai gwyn oedd lliw calon Ben ? Pe dywedasai hynny am ei enaid, ni chwynid am y ffigyr. Y mae hon yn un o'r pryddestau gwannaf yn y gystadleuaeth. Y mae llawer o feddyliau Diwygiwr Moel Cadwgan yn dlysion a barddonol, ond y mae ei iaith yn gywilyddus o ddrwg. Ysgrifenna "canfyddodd yn lie "canfu," fel pe dywedasai seed yn lie saw yn Saesneg. Llunia bob trydydd person presennol ag a, megis gosoda yn lie gesyd," "rhodda" yn He "rhydd," llosga" yn lie "llysg," "canfydda" yn lie "cenfydd," "cana," "esgyna;" "dylyna," "myna" yn lie "can," "esgyn," "dilyn," "myn." Dar- Ilenned ei Feibl; ni wel rodda na "gosoda yno. Gallesid meddwl y buasai greddf len- yddol dyn, pe nad astudiasai ramadeg Cymraeg erioed, yn ddigon i'w gadw rhag y gwrthuni hwn. Ni oddefai fy rhieni i mi ddywedyd "rhoith am "rhydd na torrith am tyr ac yr wyf yn dechreu alaru ar waith ymgeis- wyr eisteddfodol yn treiglo'u berfau fel plantos. Rhaid pasio heibio bethau fel "uwcha" am "uchaf," ac "allan 'n nawr" am "allan yn awr," a sylwi ar gystrawen yr ymgeisydd hwn. Dyma un o'i frawddegau,—"pan oedd ef ond chwe mlwydd oed." Dyma wall plentynaidd eto; oni wyr pawb yn ei oed fod eisiau ni neu na o flaen ond pan olyga only ? "Ni bydd y gan ond dechreu." Pan nad oedd ef ond chwech." Drachefn "chwe mlwydd." Cawn "ddwy mlwydd" a "thair mlwydd nesaf, mae'n debyg. Chwe Mlwydd," os gwelwch yn dda, fel tair blwydd" a "phedair blwydd," eithr "pum mlwydd," "saith mlwydd," "can mlwydd." Un enghraifft arall: "Ai ym mhebyll siomiant genir salmau," yn lie "y cenir salmau," Y mae ei ffigyrau 'n gymysglyd hefyd; er enghraifft Rhaid cael ysgol nos a gwersi o athrylith y cyndadau, Rhaid cael tawel gymdeithasu ag angylion o feddyliau Sy'n poblogi awyr Cymru, er fod pebyll yr angylion Yn eu beddau er ys oesau wedi'u hysu yn falurion. Meddyliau yn angylion, yr angylion yn meddu pebyll, a'r pebyll mewn beddau Gwaeth na hyn, ceir ef yn difetha darlun prydferth Ben Bowen o flodeuyn llygad y dydd, gan lusgo i mewn er mwyn odl yr hen ymadrodd gau disynwyr "blodau blydd," y tybiem ei fod bell ach ymhell ar ei ffordd i ddifancoll:— Gwelais flodeuyn Llygad y Dydd Fel deial aur rhwng y blodau blydd. Dyna ddisgyniad o'r deial aur rhwng dail arian Rhyfedd fod gan un sy'n euog o bethau fel hyn lawer o feddyliau cryfion a da; pe na bai pebyll ei feddyliau" mor garpiog, fe safasai'n uwch yn y gystadleuaeth. Y mae Cadwgan" drachefn yn euog o'r un beiau. Ceir ganddo "tora," "dyga," "cana," "edrycha," "gofyna," "canfydda," yn lie "tyr," "dwg," "cân," "edrych," "gofyn," "cenfydd." Ysgrifenna "troiai" am "froai" neu "troi," canfyddaist" am "canfuost," "i'm" to my yn lie "im" to me. Pa reswm ar y ddae-ir sy dros ysgrifennu "seren glos," "lloergan glos," drosodd a throsodd? Onid yw'r ffurf gywir "seren dlos" yn dlysach? Nid yw cys- trawen hwn mor fynych ar fai; ond ceir ganddo "yn fyw mae ef'yn lie byw yw ef." Ni chlywais erioed ond plantos yn dywedyd "yri fawr mae hwn." Rhaid i hwn eto gael difetha gwaith Ben Bowen Ond dysgi fi mai tymor plethu emyn Yw awr fy ing i fod." Gwel pawb a chlust at farddoniaeth Gymraeg mai A thymor plethu emyn a ysgrifenwyd gan y bardd, ac oni chyneuir ei ddigofaint at y creadur di-glust, di-deimlad, a all ddinistrio cynghanedd y bardd fel hyn mewn gwaed oer ? Ar wahan i'r pethau hyn a'u cyffelyb, pryddest lied dda yw hon, a cheir ynddi rai darnau telyn- egol prydferth. Dewisodd Deigryn Cenedl fesur In Memo- riam i ganu arno. Egyr ei bryddest fel hyn— 0 dan yr yw mae Cymru dlos, A gwlithyn galar ar ei gwedd Mae'n hoffi eistedd wrth y bedd Mae'n caru canu yn y nos. Ni fu y fynwent brudd erioed Heb Gymru'n canu ynddi hi; A rhwng ei meini llwyd diri Ceir gwel'd ei dagrau'n ol ei throed. Hi wylodd lawer caniad blin Ar unig feddau meibion can A heddyw mewn galarwisg lan Ceir emyn hiraeth ar ei min. Fy ngwlad heb wylo nis gall fyw Bu fyw ym Mabel yn rhy hir A'i cherddi sydd uwch adgof dir Fel colomenod yn yr yw. Gwelir fod gwaith glan ar y bryddest hon ond nid yw'n berffaith chwaith. Anhyfryd yw'r dyhead, Ni fu y," yn nechreu'r ail bennill; mor hawdd y gellid dywedyd "Ac ni bu'r." Yn yr un pennill cawn ei" yn golygu'r fynwent yn y drydedd llinell, ac yn troi i olygu Cymru yn y bedwaredd heb air o rybudd. Drachefn y mae unig yn Gymraeg, fel seul yn Ffrangeg, yn meddwl only o flaen gair, a lonely ar ol y gair; unig fedd y bardd," the bard's only grave; bedd unig y bardd," the bard's solitary grave. Ac eto, er y ddeddf hon, sy'n hysbys i bawb, dyna'r bardd yn ysgrifennu unig feddau yn lie beddau unig." Ond nid yw'r brychau hyn ond dibwys wrth feiau'r pryddestau eraill. Eithr mesur lied annodd canu arno yn Gymraeg yw hwn, a gwelir yr ymgeisydd weithiau megis yn rhoi cam gwag. Newidia'r mesur ddwywaith. Nid wyf yn sicr a ellir cyfiawnhau hyn y mae'r darnau yn y mesur dieithr yn edrych braidd fel clytiau o batrwm arall ar frethyn prydferth gwisg y gerdd, heb ddim yn y toriad yn galw am danynt. Eto, y mae'r bardd yn canu yn dlws ar y mesur hwn hefyd, ac ni chlywaf arnaf feio llawer arno. Nid wyf yn sicr nad yw'r darn am feirniaid Ben yn rhy gwerylgar i weddu i alargerdd, ond er hyn y mae'r bryddest hon nid yn unig yn lanach o ran ei gwisg, ond yn fwy awenyddol o ran ei mater na'r un o'r lleill. Soniais fwy am feiau'r pryddestau nag am eu rhagoriaethau, nid am fy mod yn ddall i'w teilyngdod, ond am fy mod yn tybied mai mwy buddiol ac angenrheidiol yw ceisio cael gwared o'r beiau sy'n eu hanafu. Dywedais ar y dechreu mai cystadleuaeth dda oedd hon, a dyna oèdd yr argraff a wnai darllen y pryddestau ar fy meddwl. Nid oes un amheuaeth pa un yw'r oreu. "Deigryn Cenedl" biau'r gadair 'r anrhydedd. J. MORRIS JOXFS.