Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
LLANDUDNO. Important to those in quest of Hotels, to Speculators and others. MESSRS. W. DEW and SON beg to announce that they have been instructed to offer for Sale by Public Auction, on the Premises, on Monday, April 3, 1905, at Seven o'clock in the evening, that well-built and modern FREEHOLD and FULLY- LLCENSED HOTEL, known as THE CLARENCE HOTEL, standing with a fine frontage of over 100 ft., and the main entrance to Gloddaeth Street, and covering an area of 1,081 square yards, or thereabouts. The internal accommodation is very convenient, and all the rooms are of good size and lofty. It is supplied with electric light, and is fitted in modern style. The premises are well-built and in good order, and the position is one of the best in this most favourite of Welsh seaside resorts. Further particulars in future advertisements, and the particulars of sale (which are in course of preparation), when ready, may be obtained of Messrs. Chamberlain and Johnson, Solicitors, of Llandudno and Llanrwst; or of the Auctioneers, at their Offices,, at Bangor,' Llandudno, and Carnarvon.
CYFARFOD TERFYNOL YR UNDEB.
News
Cite
Share
CYFARFOD TERFYNOL YR UNDEB. Anerchiadau gan Ellis J. Griffith, Ysw., a Major Seely. Cwrdd mawr oedd cwrdd terfynol Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol eleni. Yr oedd pawb yn disgwyl cynnulliad mwy nag arferol am fod Mr. Winston Churchill wedi addaw dod i draddodi araith ar eu dyledswyddau i Gymry ieuainc y ddinas; ac er i'r Cymry gyflawni eu dyledswyddau am y tro trwy droi i fynu wrth y cannoedd, fe anghofiodd Winston ei gyhoeddiad, ac fel ami i bregethwr mawr bu raid iddo gael rhyw oleuad Hai i ddysgleirio ger bron y dorf am y noson. Dechreuodd y dorf ymgynnull yn gynnar, a chan fod cwpanaid o de blasus wedi ei addaw gan yr Undeb tyrrai y bobl ieuainc yno yn llu cyn saith o'r gloch. Llanwyd y neuadd yn fuan, a bu awdurdodau y capel mor garedig a chaniatau benthyg yr adeilad uwchben, gan fod mwy nag a feddyliwyd wedi dod ynghyd. Ar ol agor y capel gwelwyd ar unwaith fod hwnnw yn ddigon bychan, a llanwyd y llawr ar oriel erbyn adeg dechreu y cwrdd cyhoeddus am wyth o'r gloch. Pobl ieuainc y Cymdeithasau oedd mwyafrif mawr y cynnulliad. Ychydig iawn o arweinwyr y bywyd Cymreig oeddent yn bresennol. Y Cynghorwr T. H. W. Idris, Y.H., oedd yr unig un o gyn-lywyddion yr Undeb a welsom yn bresennol, a'r Parch. Thomas Jones a Mr. Arthur Griffith yr unig rai o is-lywyddion y Gymdeithas, a'r Parchn. J. E. Davies, M.A., ac F. Knoyle oeddynt yn cynrychioli y gwemi- dogion yno. Areithio a chanu oedd addewid y rhaglen, a chaed gwledd ragorol o'r naill a'r Hall. Y dad- ganwyr oeddent Miss Margaret Lewys a Mr. Dewi Evans, ac 'roedd eu detholiadau yn chwaethus iawn a'r canu yn benigamp. Yr oedd dadganiad Miss Lewys o For all Eternity" yn llawn dal am y tocyn i'r cwrdd, ac nid syndod oedd clywed Major Seeley yn rhoddi'r fath ganmoliaeth iddi. Yn adroddiad blynyddol yr Ysgrifenydd (Mr. Arthur E. Rowlands), dywedai fod Ilwyddiant amlwg y tymhor diweddaf i'w briodoli yn bennaf i weithgarwch a dyddordeb Mr. Ellis J. Griffith yn ngwaith yr Undeb. Er ein bod wedi cael rhes rhagorol o gynlywyddion, nid y lleiaf o honynt oedd yr aelod tros Fon. Mae'r Undeb bellach wedi ei ffurfio ers 14 mlynedd, a pher- thyn iddi 23 o Gymdeithasau Llenyddol ar hyn o bryd, a hydera y gellir ychwanegu y nifer erbyn diwedd y tymhor nesaf. Amcan pennaf yr Undeb oedd trefnu cyfarfodydd rhwng y naill Gymdeithas a'r llall a sefydlu Cymdeithasau eraill lie nad oedd rhai eisoes, ac ond iddynt gael cydweithrediad yr eglwysi credai y deuai mwy o lewyrch ar yr Undeb nag oeddent wedi fwynhau hyd yn awr. Rhoddwyd derbyniad cynnes iawn i'r Llywydd pan gododd i draddodi ei araeth derfynol) a chan fod Major Seely yn y cwrdd gofynodd am iddynt faddeu iddo am draethu ei genadwri yn Saesneg. Yr oedd yn llawen ganddo weled fod yr Undeb yn gwneyd y fath waith daionus yn y ddinas a'u bod trwy y gwahanol gym- deithasau llenyddol yn cadw i fynu yr hen nodweddion cenedlaethol gan ei gwneyd yn gynorthwy sylweddol a byw i'r gwahanol eglwysi oeddent yn gyssylltiedig a hwy. Yr oedd yn nodweddiadol o honom nad oeddem yn suddo i'r byd Seisnig fel ag i ymgolli yn ein cenedlaeth- oldeb, a chredai ef fod pob Sais synwyrgall yn ein canmol am gadw ein harbenigion fel pobl hefyd. Credaf fod cyfarfod fel hwn yn tystio yn lied groyw fod yna fywyd gwahanol yn perthyn i ni i'r hyn sy'n dyddori'r Sais. Oes, mae genym ein gwahaniaethau ieithyddol a chenedl- aethol, ac mae Cymru yn bur fyw heddyw hefyd ar lawr Ty'r Cyffredin yn ceisio dysgu hynny i'r Sais. Gofynir i ni weithiau, Ond beth ydych chwi Gymry wedi wneyd ? Wel, yn un peth yr ydym wedi byzv, ac mae'r genedl a all fyw yn llewyrchus a dadblygu ei nodweddion tra'n trigiannu am ganrifoedd ochr yn ochr ag un o alluoedd pennaf Ewrop ac a'r genedl sy'n eaftgu ei gallu, a'i hiaith, a'i dylanwad i bob gwlad ar wyneb daear, yn beth y gallwn gyda phob parch ymffrostio ynddo. Yr ydym oil yn caru ein cenedl a'n tiriogaethau anwyl yn ngwlad ein maboed, eto nid ydym yn llai teyrngar i'r Ymherodraeth drwy hynny. Rwyf fi'n credu mai'r gwr sy'n caru ei sir a'i blwyf oreu yw'r dinesydd goreu yn y pen draw, ac nad yw yn anghysson a phrofiad mai'r gwr hwnnw hefyd sy'n ymfalchio bennaf yn llwyddiant yr Ymherodraeth yn mhob rhan o'r ddaear. 'Does genyf ond syniad isel o'r Cymro hwnnw a el am rhyw dri mis i Loegr ac a ddaw yn ol i Gymru a llediaith ronc arno. Dyna oedd yr arferiad gan lawer rhyw ugain mlynedd a rhagor yn ol. Yr oedd yn fath o gompliment byn- heddig i'r Sais. Ond erbyn heddyw y gwr a fawrygir genym yw hwnnw a geidw ei iaith a nodweddion ei genedl, oherwydd gwyddom mai yn hwnnw mae defnyddau goreu y dinesydd a'r gwladgarwr. Yr ydym wedi cadw ein hiaith, ac mae'r Cym- deithasau llenyddol yma yn feithrinfa iddi pan ym mhell o gartref. Nis amcanwn at rhyw orchestwaith llenyddol fel cymdeithasau dysgedig o fath y Cymmrodorion, eithr yn unig i fod yn fath o.gartrelfe i gadw'r ieuanc allan o beryglon dinesig, ac yn fy marn i does gan yr eglwysi Cymreig unrhyw sefydliad sydd fwy o werth a chynorthwy iddynt yn eu cenhadaeth er dyrchafu dynoliaeth na'r cymdeithasau hyn. Ein haelodau Seneddol, yn ol y criticyddion, ydynt gynrychiolwyr cyffredin Cymr-u, ond dylem oil gofio fod pob un sydd yn dod c Gymru-yn fab neu ferch-yn gynrychiolydd o gymeriad a bywyd y wlad honno. I'r byd oddiallan drwy ein hymarweddiad ni a'n cymeriad ni y bernir y genedl gyfan, ac mae hyn yn gosod cyfrifoldeb arbenig ar bob un o honom, a hyderaf y gall pawb ddweyd am danom ni yn Llundain, trwy ddylanwad y cymdeithasau hyn, ein bod yn ddinasyddion cywir ac yn gynrychiolwyr teilwng o genedl sydd yn meddu y fath freintiau a thra- ddodiau a Chymru. MAJOR SEELY, A.S. Rhoddwyd croesaw hollol Gymreig i'r aelod tros Ynys Wyth pan gododd i roddi ei araith, a dywedai mai am ei fod yn hanner Cymro, feallai, y rhoddwyd y gwahoddiad iddo. Diolchai am y fraint o gael anerch y fath, dorf o Gymry ieuanc, pe ond i ddynoethi gwegi yr honiad a wnaed gan Arglwydd Hugh Cecil yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen, nad oedd y fath beth a chenedlaetholdeb. Credai ef pe gallai y gwr ieuanc hwnnw dalu ymweliad a'r Gymdeithas hon a'i chyfarfodydd, y gwelai ar unwaith ei fod wedi gwneyd camsyniad dybryd. Ond feallai mai am ei fod yn Sais trwyadl y gwnaeth yr honiad—- (llais, "Nid Sais yw"). 0, ydyw yntau yn Gymro hefyd? ("Ydyw," a chwerthin mawr). Yr ydych chwi, oherwydd eich hoffder at eich gwlad, yn medru cyfarfod fel hyn. Y mae neill- duolion arbenig yn perthyn i chwi-mewn iaith, mewn can, mewn hanes, ac mewn traddodiadau, ac mae unrhyw bobl sy'n meddu y gwahaniaethau hyn yn genedl arbenig yn ystyr fanylaf y gair. Mae Cymru wedi gwneyd llawer yn ddiweddar ynglyn a hawlio ei safle arbenig yn nhrefniant gwaith yr Ymherodraeth hon, ac mae unrhyw genedl neu barti a fedda hyawdledd Mr. Lloyd- George neu Ellis Griffith' yn sicr o hawlio ar- benigrwydd mewn unrhyw gynulliad lie y rhoddir pwys ar hyawdledd. Mae cenhedloedd bychain pan yn meddu cariad at eu gwlad fel hyn yn abl i gyflawni gwrhydri lawer, a chawsom engraifft nodedig o hyny yn y rhyfel ofnadwy a gaed yn Neheudir Affrica. Y mae eich hanes chwithau yn Nghymru yn profi eich bod wedi gwneyd llawer dros amddiffyn eich hawliau cenedlaethol, a'r dydd o'r blaen gwelais fod eich hen feirdd yn canu am undeb a chydweithrediad, ac ond i chwi ddal y pethau hyn ar eich baner, yna ni fydd raid i chwi ddigaloni yn y frwydr am oruch- afiaeth a chydnabyddiaeth amserol o'ch bod- olaeth fel cenedl ac fel pobl wladgarol. Ar ddiwedd ei araith rhoddwyd y diolchiadau arferol i'r Major ar gynygiad Mr. T. H. W. Idris, L.C.C., ac eiliad y Parch. Thomas Jones, ac yn ddilynol talwyd yr un warogaeth 1 r Llywydd ar gynygiad y Parch. J. E. Davies. M.A., ac eiliad Mr. D. R. Hughes.
Enwogion Cymreig.-XXVI. Mr.…
News
Cite
Share
ond ar Mr. Ellis Jones Griffith y syrthiodd eu coelbren hwy. Bron gyda bod y dewisiad hwnnw drosodd gwnaeth Mr. W. Rathbone yn hysbys ei fod ef yn ymneillduo o gynrychioli Arfon, a dygwyd enw Mr. William Jones ger bron pwyllgor Rhyddfrydol gan gynrychiolwyr yr adran fwyaf gwerinol o'r etholwyr. Dygwyd enw boneddwr arall ger bron gan adran arall, a phenderfynwyd gadael i Ryddfrydwyr yr etholaeth benderfynu pa un o'r ddau a fynnent drwy brawf-dugel (test-ballot). Yn y prawf hwnnw cafodd Mr. William Jones dros chwech cant o fwyafrif, fel y gwnaed yn gwbl eglur mai efe ydoedd dewis ddyn y bobl. Etholwyd ef i'r Senedd yn Etholiad 1895 gyda mwyafrif o bron 1,700 ar ei wrthwynebydd Toriaidd, ac ni ddaeth neb allan i'w erbyn yn yr etholiad diweddaf. Nid yw yn debyg yr aflon- yddir arno mwy, ond pe gwnelid mae yn rhy ddwfn yn ffafr yr etholwyr yn gyffredinol i neb obeithio medru dwyn ei sedd oddiarno. Ni feddwn ofod i fanylu ar ei wasanaeth mawr ac amrywiol i'w wlad a'i genedl yn ystod y bron ddeng mlynedd y mae wedi bod yn Nhý y Cyffredin. Digon yw dweyd ei fod wedi profi ei hun yn weithiwr difefl, yn areithiwr hyawdl, yn gwbl ffyddlon i'w blaid, ac yn enwedig i achos gwerin Cymru. Cofir yn hir am ei areithiau grymus ac effeithiol ym mhlaid Dad- gysylltiad ac ym mhlaid Chwarelwyr y Penrhyn -areithiau a dynasant y ganmoliaeth uchaf oddiwrth ei wrthwynebwyr mwyaf pybyr. Cymer- odd ran amlwg yn yr ymdrechion i wella Deddf yr lawn i Weithwyr, ac i ddwyn i ben, wedi gwaith rhagorol Syr Alfred Thomas a Mr. Herbert Lewis, y cynllun i gael gan y Cyfrin- gyngor gymeryd i fynu bwnc Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol i Gymru—cynllun y gellir disgwyl ei weled wedi ei gwblhau yn fuan bellach. Fel y gallesid yn naturiol ddisgwyl i hen ysgolfeistr wneyd, parha i gymeryd y dydd- ordeb dyfnaf ymhob agwedd ar bwnc Addysg, nid yng Nghymru yn unig, ond ym mhob rhan arall o'r deyrnas yn ogystal. Rhoes ei holl ddy- lanwad o blaid agor y drws i Ysgolorion y Brenhin gael mynediad i mewn i golegau Prifysgolion modd y caent well disgyblaeth a phrofiad eangach nag oedd yn ddichonadwy yn y Colegau Hyffordd- iadol Trigianol. Gwnaeth gymaint a neb hefyd i argyhoeddi Swyddfa Addysg fod swm y grant a ganiateid tuag at gynhaliaeth yr ysgolorion hyn yn rhy fychan, ac y dylid ei ychwanegu. Cred yn gryf mewn cyfundrefn o addysg gwbl genedl- aethol, o dan reolaeth werinol, ac heb ei llyffetheirio gan na chredo na phlaid. Am ei fod yn credu felly y cefnogodd sefydlu Prifysgol arall yn y Werddon, ac y traddododd yr araith nerthol a gamddeallwyd yn hollol gan lawer o bobl. Yr oedd yn gynrychiolydd Pwyllgor o Seneddwyr sy'n gweithio dros Addysg ar y Commissiwn a gymerodd Mr. Mosely drosodd i'r Unol Daleithau, a gellir disgwyl ei lyfr, yn yr hwn y ceir ffrwyth yr ymweliad, o'r wasg yn fuan bellach. Mae ei gydymdeimlad dyfnaf gyda phob mudiad gwerinol a dyngarol, a dadleua hawliau pob achos felly yn y Ty ac allan o hono gyda medr a brwdfrydedd sydd yn ennill clust a Jhalon pob dyn diragfarn a'i gwrandawo.