Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Colofn y Gan.
News
Cite
Share
Colofn y Gan. WILTON SQUARE. -Caed cyfarfod cystadleuol llwyddianus iawn mewn cysylltiad a'r Eglwys hon nos Iau y Isfed cyfisol. Yr oedd y cystadlu yn yr adran gerddorol o safon uchel, a dyddorol ydoedd gweled y plant yn gwneyd eu rhan mor rhagorol. Credwn mai yng nghystadleuaeth yr unawd baritone yr oedd y dyddordeb mwyaf, pan y rhowd y flaenoriaeth i Llew Caron, ond yr oedd J. Tudor Evans yn dyn ar ei sodlau. CWRDD TERFYNOL.—Heno (nos Sadwrn), cynhelir cyfarfod pen tymhor Undeb y Cym- deithasau Diwylliadol Cymreig yn neuadd capel Jewin. Dadgenir caneuon yn ystod y cyfarfod gan Miss Margaret Lewys a Mr. David Evans. SHIRLAND ROAD.—Nos Iau nesaf cynhelir Eisteddfod ynglyn a'r lie hwn ac mae argoelion y ceir gwyl go dda. Bydd yno gystadleuaeth i gorau cymysg, a hyderwn y ceir yno ganu a chystadlu mewn dull a drydd yn fanteisiol i'r gelfyddyd gerddorol. Y MAE'N dda 'genym fod pwyllgorau y man eisteddfodau hyn yn rhoddi lie i gyfansoddiadau Cymreig ar eu rhagleni. Hon yw y drydedd eisteddfod yn ein mysg y tymhor hwn, i ddewis fel testyn y brif gystadleuaeth gorawl, Cain beroriaeth gwyna'n brudd (J. H. Roberts). Ond nid ydym hyd yn hyn wedi cael dadganiad boddhaol o'r darn, ac hwyrach y ceir ei glywed i well mantais nos Iau nesaf.
DEUDDEG CYMRO ENWOCA'R DYDD.
News
Cite
Share
DEUDDEG CYMRO ENWOCA'R DYDD. Canlyniad Ein Cystadleuaeth. Pan y cynygiasom ein gwobrau am restr o'r deuddeg Cymro enwocaf, ni feddyliasom y cymerasai y fath nifer o gystadleuwyr ran ynddi. Ofnwn fod rhai o honynt yn dechreu colli eu hamynedd wrth ddisgwyl y canlyniad, ond pe rhoisid iddynt y gwaith o fyned drwy y fath doraeth o COUPOJlS ac a roed i ni, yr ydym yn sicr y buasai eu hamynedd wedi rhedeg i'r pen ymhell cyn hyn. Cawsom lafur caled, ond cawsom lawer o hyfrydwch, a thipyn o syndod difyr hefyd. Byddem bob amser mewn pen- bleth pan yn ceisio penderfynu beth a roddai hawl i ddyn gael ei alw yn enwog, ond yn ddios bydd ein penbleth yn fwy o hyn allan. Mae syniad llawer o'r cystadleuwyr hyn am y pwnc yn bur wreiddiol. Ni feddyliasom fod cymaint o enwogion Cymreig ag y sydd, a bron na thybiem y gwridai mwy nag un sydd a'i enw wedi ei roddi i mewn pe mynegid hynny iddo. Wrth benderfynu tynged y cystadleuwyr dilynasom y cynllun a ddilynir yn gyffredin mewn cystadleuaeth o'r fath. Aethom drwy yr holl restrau i weled pwy a enwid, a phwy a enwid amlaf. Mewn geiriau eraill, pwy gafodd fwyaf o bleidleisiau. Dyma fel y safant:—Mr. D. Lloyd-George, A.S., Mr. Evan Roberts, y Parch. H. Elfed Lewis, Mr. O. M. Edwards, y Prifathraw John Rhys, Mr. Ben Davies, Mabon, y Parch. E. Rees (Dyfed), y Parch. R. Williams (Hwfa Mon), Syr Lewis Morris, y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., Syr John Williams. Yr oedd mwyafrif dirfawr o'r coupons yn cynwys enwau y tri blaenaf, ond yr oedd tipyn o fwlch cydrhyngddynt hwy a'r rhai a'i dilynant. Ac ni chafodd y rhai isaf o'r deuddeg fwyafrif clir o'r pleidleisiau a fwriwyd i mewn. Teg hefyd yw dywedyd nad yw y rhai olaf o'r deuddeg lawer ar y blaen i rai na chyrhaeddasant y cedyrn cyntaf. Y pwnc nesaf oedd ceisio gwybod pa gystad- leuydd neu gystadleuwyr oedd wedi dod agosaf at farn y mwyafrif. Ac yr oedd gwneyd hyn allan yn fwy o drafferth byth. Nid oes yr un restr a anfonwyd i mewn yn cyfateb i'r rhestr uchod, o ran enwau heb son dim am drefn. Mae amryw restrau ac wyth neu naw o'r enwau ym mlaenaf arnynt, ac yn bur agos i'r drefn uchod hefyd; ond y tri neu bedwar enw arall yn wahanol. Y peth cyntaf yr edrychwn am dano oedd yr oil, neu y nifer liosocaf, o'r deuddeg uchod mewn rhyw restr, ac yn ail y drefn ymha un y gosodwyd hwy. Fel y dywedwyd, nid oes un restr yn cynwys y deuddeg mae yma un, a dim ond un, yn cynwys un-ar-ddeg o honynt. Eiddo Gwilym Teifi" yw honno. Ond y mae ei drefn yntau dipyn yn wahanol i'r drefn honno. Dyma ei restr ef:—Syr Lewis Morris, Evan Roberts, Ben Davies, Hwfa Mon, Dyfed, Elfed, O. M. Edwards, Prifathraw Owen Prys, Cynddylan Jones, Lloyd-George, John Rhys, Mabon. Gwelir ei fod wedi gadael Syr John Williams allan a dwyn y Prifathraw Prys i mewn. Mae yma gryn nifer wedi enwi deg o'r deuddeg, ac nid oedd genym ond cymeryd trefn y lleoliad i ystyriaeth wrth benderfynu cydrhynddynt hwy. Mae un wedi lleoli pump o'r enwau yn eu gradd briodol, ac felly efe sydd i gael yr ail wobr. Ei enw yw Cymro o'r De." Mae ef wedi dwyn Mr. Llewelyn Williams a Syr John Puleston i mewn i blith y deuddeg, ac wedi gadael Mabon a Dr. Cynddylan Jones allan. Dyma fel y trefna efe ei enwogion :—Evan Roberts, Lloyd-George, W. Llewelyn Williams, Owen M Edwards, John Rhys, Hwfa Mon, Elfed, Dyfed, Ben Davies, Syr Lewis Morris, Syr John Puleston, Syr John Williams. Anfoned "Gwilym Teifi" a "Cymro o'r De eu henwau priodol i ni, a hwy a dder- byniant eu gwobrwyon.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ADVERTISE ■■■ IN "THE LONDON WELSHMAN." pr- It will Pay You.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
o Gymru, ac fel rheol y mae gan bob aelod ei farn addfed ei hun ar y pwnc, fel nad oes bosibl cael undeb ar unwaith ynglyn a'r fath achos. Mae Eglwys Castle Street yn chwilio allan am wr addas i gymeryd at fugeiliaeth y lie, a nos .Sul diweddaf buwyd yn pleidleisio ar bersonau, ond ni chafodd yr un gweinidog ddigon o fwy- afrif fel ag i gyfiawnhau yr eglwys i roddi gal wad iddo. YMRANIADAU EGLWYSIG.—Rhyw droion fel dewisiad gweinidog neu benodiad blaenoriaid sydd fynychaf wrth wraidd gwahanol ymraniadau eglwysig. Ar bynciau o'r fath cyll pobl gall eu hamynedd, oherwydd rhyw un neu ddau o gyn- hyrfwyr sydd fel rheol wrth wraidd pob rhyw anghydwelediad, a'r unig ffordd i osgoi unrhyw ymraniad yw i'r aelodau feithrin y gras o frawd- garwch, ac os digwydd iddynt fod yn y lleiafrif i geisio gwneyd y goreu er cefnogi y mwyafrif, yn enwedig os bydd y mwyafrif yn gweithredu yn unol a lles a dyfodol yr eglwys. Mewn mater o chwaeth ynglyn a gallu y naill bregethwr neu'r llall, credwn nas dylai yr un aelod fod yn ben- gam yn ei opiniwn. Hyderwn y llwydda yr eglwys yn Castle Street i gael undeb barn y tro nesaf y ceisiant CROMWELL A CHYMRU.—O flaen Cymdeithas Cymry Caergrawnt traddodwyd darlith nos Wener yr wythnos ddiweddaf ar Ymddygiadau Cymru tuag at Oliver Cromwell." Y darlithydd oedd Mr. J. H. Davies, M.A., yr hwn sydd ar hyn o br) d yn parotoi ail gyfrol o weithiau a hanes Morgan Llwyd i'r wasg. Mae Mr. Davies yn efrydydd cyson o'r cyfnod dan sylw, a gwyr lawer iawn am hanes yr hen Biwritaniaid. Hyderwn y caiff y ddarlith a'i syniadau ar Gromwell weled goleu dydd trwy yr argraffwasg cyn bo hir. GWLEIDYDDOL. — Cyfarfodydd gwleidyddol sy'n cael llawer o sylw'r cyhoedd y dyddiau hyn, a bob yn ail nos ceir hwyl fawr gan y Rhydd- frydwyr a'r Radicaliaid with gondemnio y Weinyddiaeth bresenol. Un o'r gwyr sydd a mwyaf o alw am ei wasanaeth yw Mr. Lloyd- George, a nos lau yr wythnos ddiweddaf caed noson hwyliog wrth ei wrando yn ardal High- bury yn curo ar Jo ai' blaid. Dangosodd ei fod yn llawn cymaint o feistr ar ffigyrau ein masnach ag unrhyw siaradwr cyhoeddus heddyw ac 'roedd y gwyr a fuont yn ceisio ei amheu yn cael curfa dost ganddo yn ei atebion ffraeth a chywir.. Nid yn fuan yr anghofir ei araeth gan ardalwyr y rhanbarth Doriaidd o Islington. CYNGHERDD Y TABERNACL.—Yr un noson ag y caed araeth gan Mr. Lloyd-George, yr oedd cyngherdd blynyddol y Tabernacl yn cael ei gynhal. Hwyrach mai hynny oedd un o'r rhesymau nad oedd y cynulliad i fynu a'r dis- gwyliad, ond eto yr oedd torf fawr wedi dod ynghyd. Blaenorid y cyngherdd gyda'r te arferol, ac 'roedd honno yn llawn mynd fel yr haeddai. Am y cyngherdd ei hun yr unig arbenigrwydd am y noson oedd ymddangosiad yr organydd newydd am y tro cyntaf, a chaed amryw ddarnau ganddo ar yr offeryn er mawr foddhad ac edmygedd y dorf. Cadeiriwyd gan y Meddyg Evan Jones yn dra deheuig. YN nghystadleuaeth y seindyrf pres, a gyn- haliwyd yn y Crystal Palace, dydd Sadwrn diweddaf, bu Battersea Borough Band yn drydydd yn yr adran gyntaf, a Bromley yn ail yn yr ail adran. Arweinydd y ddwy seindorf oedd Mr. Tom Morgan, gynt o'r Coldstream .Guards Band. Brodor o Lanelli ydyw Mr. Morgan. EAST HAM.—" The Songs of Wales," with vocal illustrations, was the subject of a very in- teresting lecture delivered before the members of the East Ham Welsh Debating Society on Thursday evening, March 16th, by Mr. Lloyd Edwards, assisted by Misses Thomas and M. Evans and Messrs. Dan and J. D. Evans, both members of the above society. The chair was filled by the Rev. Llewelyn Bowyer, who in a short speech introduced the speaker to the audience. Mr. Edwards gave a very vivid history of the "Songs of Wales," and the short sketches of the lives of their authors were greatly appreciated by the members. A very interesting part of the lecture was the vocal illus- trations by the friends above mentioned, and they, by their splendid rendering of the different songs, evoked continuous encores from the delighted audience. Great praise is due to Mr. Edwards and his party for their great sacrifice in making the meeting such a successful one, and as the same lecture is to be again delivered at the East Ham Town Hall on April ioth, efforts should be made by everyone to be present that night. A hearty vote of thanks to Mr. Edwards and his party, proposed by Mr. J. R. Jones and seconded by Mr. J. L. John, brought a very enjoyable evening to a close. MORLEY HALL.-Nos Iau, Mawrth gfed, cynhaliodd cangen ysgol y lie uchod ei chyfar- fod cystadleuol blynyddol yn y Lecture Hall, New Jewin. Cymerwyd y gadair gan Mr. Hughes, Cambridge Road. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn Unawd plant dan i6eg, Plenty n y Meddwyn," Miss Mary Morgan, Jewin; unawd soprano, Chwifio'r Cadach Gwyn," Miss Mary Thomas, Morley Hall; unawd tenor, Gwlad y Delyn," Mr. B. D. Jones, King's Cross unawd baritone, "Y Glowr," Mr. D. Jones, Mile End; deuawd tenor a bass, Lie Treigla'r Caferi," Mri. Ted Thomas a John Hughes; pedwarawd, Seren Anwyl," Misses Lila a Mary a Mri. Ted a John Thomas, Morley Hall; unawd unrhyw lais (i rai nad enillasant dros bum swllt o'r blaen), Mr. R. O. Owen, City Road. Daeth dau barti ymlaen i gystadlu ar y rhangan, Pluen Wen o Eira Glan" (D. Jenkins), sef parti Eglwys Gymreig Camberwell a parti Morley Hall. Goreu, parti Morley Hall. Ffraetheb (wit), Mr. D. Davies, Morley Hall, Miss Edwards, Jewin, a chwaer'o Camberwell yn gydradd oreu. Cafwyd cyfarfod rhagorol, yr ystafell yn orlawn, a diau y ceir elw sylweddol. Beirniad yr adroddiadau ydoedd Mr. Tom Jenkins, a'r gerddoriaeth Mri. R. O. Jones, Wilton Square, a J. B. Sackville Evans, y rhai hefyd a ddang- osasant eu cydymdeimlad a'r ysgol fechan hon trwy roddi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Wedi talu y diolchiadau arferol, ac i Mr. David Rees, Morley Hall, ganu "Hen Wlad fy Nhadau," ymwahanodd pawb wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf.—UN OEDD YNO.