Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

PobI a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

PobI a Phethau yn Nghymru. YM mhlith enwau hen gartrefi Cymru nid oes un a adwaenir yn well, nag un a anwylir yn fwy, na Chynlas, felly y mae dyddordeb neillduol yn perthyn i'r hyn a ddigwyddodd yno ar y 7fed o'r mis hwn, pryd y dathlwyd hanner can' mlwyddiant priodas Mr. a Mrs. Thomas Ellis, tad a mam ni raid dweyd pwy. Diau mai ychydig feddyliai y ddeuddyn hyn yn y flwyddyn 1855 yr esgorai eu priodas ar gan- lyniadau mor gyrhaeddbell ac mor ddaionus i'w gwlad enedigol. Bu Mrs. Ellis yn wael ei hiechyd yn ddiweddar, ond y mae'n awr yn gwella, ac yr oedd yn abl i ddod i lawr o'i hystafell wely ar y 7fed. Ym mhen deufis byddant yn ymadael a Chynlas ac yn sefydlu yn eu cartref newydd yn ymyl Llyn Tegid. Y PWNC sydd ar fin tafod pawb yng Nghymru ydyw sefyllfa iechyd Evan Roberts, ac y mae gwaith adran o'r wasg Seisnig yn gor-fanylu ar ,ei ymadroddion ac ar ei ddull o dreulio ei ddyddiau yn peri llawer o boen a blinder. Teimlir hefyd fod gormod 0 duedd hyd yn nod yn y pulpud Cymreig i feirniadu y Diwygiwr; oherwydd hyn y mae llawer yn barod i erfyn gyda'r bardd Cadrawd :— Gadewch Evan Roberts yn llonydd, Pa raid ei feirniadu'n ddibaid 0, codwn, esgynwn i'r mynydd, Pa achos trybaeddu'n y llaid. Erys Mr. Roberts ar hyn o bryd gyda'r Parch. Evan Phillips, yng Nghastellnewydd Emlyn. YN y Drysorfa am fis Mawrth ymddengys ysgrif, yn ymdrin a'r Diwygiad, oddiwrth y Parch. Evan Phillips, ac y mae ynddi ddesgrif- iad dyddorol o Evan Roberts yn yr ysgol. "Gwelem ynddo," medd Mr. Phillips, "ddyn ieuanc newydd—gwahanol i bawb oedd o'i gwmpas. Edrychai yn wahanol i bawb, a chwarddai yn dra gwahanol i eraill. Yr oedd rhyw dryloewder yn ei wyneb, yn enwedig ar droion, a'n temtiai i feddwl y gallem weled iddo, ac hyd yn nod trwyddo. Ond ar y pryd ni feddyliem ddim ond ei fod felly. Yr oedd yn weddiwr oedd yn peri fod pawb yn siarad am ,dano. Yr unig gasgliad a dynem oedd ei fod yn fachgen oedd yn meddu ar allu a chrefydd dda iawn." Y MAE o leiaf un dref yn y Gogledd yn amharod i blygu glin i'r "almighty dollar." Yn ddiweddar bu Ymddiriedolwyr Porthladd Caer- narfon yn trafod y cwestiwn o redeg agerlongau ar y Sul i'r dref. Sylwodd un aelod y dylid dweyd yn bendant mai am chwe' niwrnod y caniateid i'r agerlongau redeg i'r dref. Dylid rhoddi ystyriaeth i bobl y dref, ac yr oedd y mwyafrifo honynt yn erbyn rhedeg yr agerlongau ar y Sul. Ar ymraniad, drwy ddeuddeg yn erbyn naw, penderfynwyd nad oedd yr ager- longau i lanio eu teithwyr ar y Sul. Y MAE David Jones, masnachydd glo, Dinbych, yn dlotach mewn eiddo ond yn gy- foethocach mewn profiad erbyn heddyw. Ym mrawdlys Caerlleon yr wythnos ddiweddaf dygwyd cynghaws yn ei erbyn am dorri amod priodas, a dyfarnwyd fod iddo dalu £275 o iawn ac i ddwyn y costau. Gan mai gwraig weddw a Saesnes ydoedd. yr achwynyddes, hwyrach fod y gollyngdod yn rhad am yr arian. FEL arweinydd eisteddfodol yr adwaenir Llew Tegid oreu, ond, pan rydd ei fryd ar hynny, medr brydyddu yn ogystal a'r un o honynt. 0 dan ysbrydoliaeth y Diwygiad breuddwydiodd iddo un diwrnod lanio mewn paradwysaidd wlad, ac edrydd ei freuddwyd Iwrth y plant. Wele rai o'r pennillion :— PARADWYS GYMREIG. Nis gwn i ble yr aethum, and glanio, rywbryd, wnaethum Ar gyrau hyfryd wlad 'Roedd blodau hyd y meusydd Ac adar ar y coedydd, A'r lie yn llawn mwynhad. 'Doedd yno neb yn ffraeo, Nac unrhyw blant yn crio, Na neb yn dweyd Na, na "— nac un gair drwg. 'Doedd yno neb yn rhegi, Nac undyn byth yn meddwi, Na neb yn poeri mwg. Pa le mae'r wlad, debygech chwi, A'r bobl dda a welais i ? A fyddai modd troi Cymru ni Yn wlad fwy tebyg iddi hi ? Fe fedrem ni, y plant cyn hir, Wneyd i fy mreuddwyd fod yn wir. RHAID mai brodor o Llandilo ydyw John Shirgar Jones, Ph.D. Yng nghyfarfod diweddaf Cynghor Dosbarth y dref honno, derbyniwyd ceisiadau Abertawe a Chaerdydd am gefnog- aeth y Cynghor gyda chwerthin mawr, ac ni chymerwyd ychwaneg sylw o honynt. CYRHAEDDODD Mr. Davies, Plas Llandinam, ei gartref yr wythnos ddiweddaf, wedi iddo fod yn teithio amgylch ogylch y byd am wyth mis. Mewn atebiad i awgrym ar iddo ddilyn llwybrau ei daid, a cheisio cynrychioli un o etholaethau Cymru yn y Senedd, dywedodd Mr. Davies nad oedd ar hyn o bryd yn foddlawn gwneyd hynny. Un o ganlyniadau cyntaf ei ddychweliad gartref ydoedd yr amlygiad ei fod ef, a'i fam, a'i chwiorydd yn barod i gyfrannu dwy fil o burinau tuagat y Lyfrgell Genedlaethol os lleolid hi yn Aberystwyth. Y MAE argoelion y bydd y frwydr etholiadol nesaf yn y Gogledd yn un gyffredinol, gan fod y Ceidwadwyr wedi penderfynu dyfod ag ym- geiswyr allan ym mhob cynrychiolaeth. Yn sir Fon gwrthwynebir Mr. Ellis Jones Griffith gan Mr. J. E. J. Cremlyn, bargyfreithiwr. Yn sir Gaernarfon, fel mae'n wybyddus, gwrthwynebir Mr. Lloyd-George gan Sais o'r enw Mr. R. A. Naylor; Mr. William Jones gan Sais arall o'r enw Mr. T. J. Bennett. Yn sir Fflint, bydd Mr. J. Eldon Bankes yn ymgeisio; ac yn sir Dre- faldwyn Mr. W. R. Wynne. Nid yw'r ymgeis- wyr eraill wedi eu dewis eto. LLONGYFARCHWN y Ceidwadwyr ar eu pen- derfyniad, nid am fod llwyddiant yn aros eu hymdrechion, ond am fod perygl i rai etholwyr anghofio fod ganddynt bleidleisiau. Ac er calonogi y blaid fawr "Undebol" i fyned ymlaen, awn allan o'n flordd i alw ei sylw at hysbysiad sy'n ymddangos ar gefn Home Notes, cyhoeddiad swyddogol y Central Conservative Association IF YOU WANT A knotty political question solved a Radical argument answered or information on any political question, WRITE TO The Conservative Central Office. Every effort will be made to supply your wants. Y mae'r linell olaf yn od o gysurus, a diau y bydd ein cyfeillion yn y Gogledd yn ddiolchgar am i ni alw eu sylw ati. HWVLIODD Syr W. H. Preece am Jamaica yr wythnos, hon. Nid er ei fwyn ei hun y mor- dwya Syr William, ond er mwyn ei fab, yr hwn sydd yn dioddef oddiwrth gystudd blin. Y MAE Mr. Alfred Davies a'i gefnogwyr wedi ffurfio cymdeithas newydd o dan yr enw "Cynghor Radicalaidd Llanelli." Y mae ymgais diflino yn cael ei wneyd i ennill y dosbarth gweithiol yn gefnogwyr i Mr. Alfred Davies. "1- Y MAE dau le o addoliad yng Nghymru lie na oddefir i feibion a merched gyd-eistedd. Un ydyw yr Eglwys Sefydledig yn Tregaron, a'r llall ydyw capel yr Hen Gorph yn Salem, Felinfoel. Yn yr addoldai hyn rhaid i'r merched eistedd ar un ochr a'r meibion ar yr ochr arall. DRO yn ol bu cryn helynt rhwng y Parch. John Morris, rector Llanelidan, ger Rhuthyn, a William Charles Williams, ysgolfeistr y plwyf. Anfonodd y rector lythyr i'r Bwrdd Addysg yn cynnwys amryw gyhuddiadau yn erbyn yr ysgolfeistr, yn eu plith ei fod yn arfer iaith anweddus, ei fod yn rhedeg i ddyled, a'i fod yn trin y Gair Dwyfol yn wawdus. Ar archiad y Bwrdd Addysg gwnaed ymchwiliad cyhoeddus i'r cyhuddiadau, ac yn yr ymchwiliad profwyd fod haeriadau y rector yn ddisail. Mewn canlyniad dygodd yr ysgolfeistr gynghaws yn erbyn y rector am athrod, a dygwyd ef i brawf ym mrawdlys Caerlleon yr wythnos ddiweddaf. Yno drachefn ennillodd yr ysgolfeistr y dydd, a gorfu i'r rector dalu can' punt o iawn. MR. HARRY EVANS ydoedd y beirniad cerddorol mewn cyfarfod cystadleuol yng Nghaerfyrddin ychydig ddyddiau yn ol, a phan ddaeth i feirniadu y champion solo cafwyd sylwadau llym a gwir amserol ganddo ar y niwaid a wneir i gerddoriaeth Cymru drwy y fath gystadleu- aethau. Dywedodd yn bendant nad ymgymerai efe byth mwyach a'r gorchwyl o gloriannu cystadleuwyr lie yr oedd rhyddid i bob un i ddewis ei gan ei hun. Yr oedd effeithiau y cyfryw gystadleuaethau yn hynod niweidiol, drwy fod yr un cystadleuwyr yn myned o gwmpas y wlad flwyddyn ar ol blwyddyn ac yn canu yr un caneuon ym mhob man; a goreu po gyntaf y gwnelid i ffwrdd a hwynt. ANRHEG briodasol Mr. S. T. Evans oddiwrth ei etholaeth ydoedd cwpan arian hardd, yn addurnedig a dwy glust; er mwyn hwylusdod, mae'n debyg. Beth ddywed golygydd y Goleuad ynghylch hyn, tybed ? 0 GAM i gam y mae y trefniadau gogyfer a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn myned ym mlaen yn hwylus. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cerddorol yr wythnos ddiweddaf penderfynwyd mai Miss Agnes Nicholls sydd i fod y brif soprano a Miss Edna Thornton y brif gontralto. Y mae y Pwyllgor Llenyddol wedi rhoddi estyniad amser i anfon i mewn y cynyrchion llenyddol o'r cyntaf o Fai hyd y cyntaf o Fehefin. 0 FERRYSIDE daw y newydd am farwolaeth gwr tra adnabyddus i Gymry Llundain ym mherson Mr. Owen Lewis (Owain Dyfed). Daeth Mr. Lewis o Gaerdydd i'r Brifddinas flynyddoedd lawer yn ol, a chymerodd ran flaenllaw mewn llawer symudiad Cymreig. Bu yn aelod o Gynghor Cymdeithas y Cym- mrodorion, a gwasanaethodd hefyd ar bwyllgor Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyn- lluniwr adeiladau (architect) ydoedd wrth ei alwedigaeth, a cheir engraifft o'i waith yn y Brifddinas yng nghapel Bedyddiol Heol-y Castell. Rhoddwyd ei weddillion i orphwys ym mynwent Salem, Ferryside, ddydd Iau diweddaf. Ysgrifena Luna atom fel y canlyn ynghylch y sylw a wnaed ar yr englyn i Lloyd-George yr wythnos ddiweddaf Gan nad yw y LONDON WELSHMAN wedi cyrhaedd awdwr yr englyn mewn pryd i allu rhoddi esboniad i chwi ar yr "haul" sydd yn yr englyn, ac hefyd i roddi gwybod i chwi ym mha ran o'r flurfafen y saif Mr. Bryn Roberts, awgrymaf sylw bach ar ymyl y ffordd hyd nes cewch eglurhad cyflawn gydag ef yn y rhifyn nesaf. Hyn o awgrymiadau :—1, Yr ydych yn ys- grifenu fel hanesydd ac nid fel bardd. 2, Caiff seryddiaeth eich sylw yn fwy na barddoniaeth. 3, Gweld y ffurfafen anianol ydych, ac nid y wleidyddol. 4, Cofiwch Carlyle, 'All visible things are emblems.' 5, Os carech wybod safle seryddol-wleidyddol Mr. Bryn Roberts, rhoddwch wobr i feirdd y LONDON- WELSHMAN am yr englyn goreu iddo." DYDD Llun, hebryngwyd i fynwent Towyn weddillion marwol Mr. J. E. Roberts, yr hwn fu am 33 mlynedd yn ben ar ysgol adna- byddus Towyn. Ym mhlith y rhai y bu Mr. Davies yn hyfforddi ym mhen eu ffordd gellir enwi y Parchn. D. Lincoln Jones a J. D. Jones, gweinidogion gyda'r Annibynwyr yn Bournemouth yr Henadur Haydn Jones, ys- grifenydd Pwyllgor Addysg Meirion a Mr. E. Maengwyn Davies, arweinydd y gan yng nghapel y Wesleyaid, City Road, Llundain.