Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

CWMNI'R PRUDENTIAL.

I..Colofn y Gan.

News
Cite
Share

I Colofn y Gan. EISTEDDFOD EGLWYS SANT PADARN. Y mae'n ofidus genym oherwydd ddarfod i ni yn ein rhifyn diweddaf wneyd camgymeriad ynglyn a dyddiad yr Eisteddfod uchod. Nos Iau nesaf (Mawrth 23am) ei cynhelir, yn Myddelton Hall, Upper Street, Islington. Hyderwn yr aiff llu o'n cydwladwyr yno er gwneyd yr Eisteddfod yn llwyddiant ymhob ystyr. Y mae ymdrechion a wneir gan v cyfeillion ynglyn ag Eglwys St. Padarn yn haeddu ein cefnogaeth. CYNGHERDD.—Ar yr un noson (sef nos Iau) fe gynhelir cyngherdd mewn cysylltiad ag Ysgol Sul (Gymreig) Camden Town, yn y Public Hall, Prince of Wales Road Baths. Y mae nifer o gantorion rhagorol i gymeryd rhan, megis Madame Eleanor Jones, Madame Juanita Jones, Mr. Thomas Thomas, Mr. Ivor Foster, Mr. Eli Hudson. FEL y gwelir yn ein colofnau hysbysiadol y mae amryw o gyfarfodydd a chyngherddau cystadleuol gerllaw, yn y lleoedd canlynol Battersea Town Hall, Sibley Grove (East Ham), Clapham Junction, &c. Cawn fanylu ar y cyrddau hyn maes o law. BUDD GYNGHERDD.—Yr ydym yn deall y bydd y cyngherdd a gynhelir yn yr Holborn Town Hall ar y 18fed o'r mis nesaf, er budd gweddw a phlant y diweddar Mr. Robert Griffith, yn un uwchraddol. Y mae'n ymddangos fod y cantorion goreu i gymeryd rhan ynddo. Hysbysir ni hefyd y bydd yno gor enwog. Hyderwn y gwna'r Cymry brynu tocynau i'r cyngherdd hwn gyda'r un parodrwydd a phe bae gyngherdd ynglyn a'n Heglwysi Cymreig. Y mae rhai pobl yn barod iawn i brynu tocynau ynglyn a'u capelau hwy eu hunain, ond yn amharod iawn i brynu unrhyw docyn yn dwyn cysylltiad a dim oddiallan i'w cylch. Mewn achos fel yr un presenol bydded i ni roddi ein dwylaw yn ein llogellau.

LONDON WOMEN'S TEMPERANCE…

THE GREAT WHEAT CENTRE OF…

Advertising