Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
FOR YOU- I" Will be paid to any of I our readers who obtain 50 NEW SUBSCRIBERS to the "London Welshman for 3 months. tf%l Will be paid for 100 NEW iPfr A*Jlm SUBSCRIBERS. Subscription for 3 months, is. 8d., post free. GET TO WORK AT ONCE. BEAR IN MIND.—The only condition we enforce is that your Name and Address must appear on the Order when the Subscription is sent in. Subscriptions should be sent to the Manager, "LONDON WELSHMAN," 45, St. Martin's Lane, London, W.C. EIN CYSTADLEUAETH. Blin genym orfod gohirio canlyniad ein cystadleuaeth enwi y "Deuddeg Cymro Enwocaf" am wythnos arall. Mae diwedd y llafur enfawr o fynd drwy y "coupons" yn awr yn y golwg, a bydd y canlyniad yn dra dyddorol, gan y gwyddom y bydd galw mawr am y rhifyn nesaf i weled pwy sy'n enwog. Archeber copiau yn ddioed. Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau, The Editor" pob llysbysiad, The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, "71le Manager. a'r oll i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Marun1 s Lane, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwynio i ddychwelyd ysgrifau gwrtlzod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and the address must also be given, not necessarily for publication,, but as a guarantee of good faith. Nodia Golygyddol.
dau Golygyddol.
News
Cite
Share
CENEDL A PHLAID. YR ydym wedi cael ein hunain yn gofyn droion yn ddiweddar, Pa un ai pynciau cenedl neu bynciau plaid yw y pynciau sydd yn cyffroi Cymru heddyw ? Yn ol cwrs naturiol pethau daw yr etholiad cyffredinol cyn pen hir iawn, a chredwn ei bod yn bur bwysig i Gymru ddeall yn weddol glir pa safle a gymer yr adeg honno. Hyd yn hyn prin y gellir dweyd fod cenedlaeth- oldeb wedi cael nemawr o sylw ar adegau felly. Ymrestrai yr etholwyr o dan faner un o'r ddwy blaid yn Nhy y Cyffredin, a galwent eu hunain yn ddilynwyr i'r naill neu y llall o arweinwyr y pleidiau hynny. Buwydyn son droion am Blaid Gymreig Annibynol yn y Senedd, ond nid aeth y peth yn ddim pellach na son. Fel Rhyddfryd- wyr neu Undebwyr y dychwelwyd yr holl aelodau o Gymru, a disgwylid iddynt ufuddhau i alwadau eu plaid. Gwir fod pynciau yn dal perthynas a Chymru wedi eu trin a'u trafod, ond fel pynciau plaid yn fwy nag fel pynciau cenedl yr edrychid arnynt bron i gyd. Nid un blaid yn unig sydd wedi rhoddi i'n gwlad a'n cenedl y mesurau a'r sefydliadau a gawsom; o'u cydymgais hwy i ennill ffafr ac ychwanegu cefnogwyr, yr ydym ninnau wedi elwa cryn dipyn. Ond nid yw gwrando ar lais Cymru fel Cymru wedi ei wneyd hyd yma yn amod cefnogaeth ein cynrychiolwyr i unrhyw un o'r pleidiau. Gwnaed ymgais i osod amod felly i lawr ryw ddeuddeg mlynedd yn ol, ond ni bu yn Uwyddianus, ac er hynny nid oes fawr o son wedi bod am amod o'r fath. Sut y mae i fod yn y dyfodol ? A yw cynrychiolwyr Cymru i gael eu hethol i'r Senedd oblegid eu bod yn cydsynio a rhaglen Mr. Balfour neu a rhaglen Syr Henry Campbell-Bannerman, neu a ydynt i gael eu hanfon yno yn gyntaf ac yn benaf i ddadleu hawliau Cymru yn nglyn a'i phynciau arbenig hi ei hun, ac i gefnogi unrhyw arweinydd gwleid- yddol a ymgymer a deddfu ar y pynci iu hynny yn unol a dymuniad ac a llais y genedl ? Y Cymry eu hunain sydd i ateb y ( westlwn, a goreu po gyntaf iddynt wneyd eu meddyliau i fynu yn ei gylch. Ymddengys i ni y byddai yn fantais aruthrol pe codid pynciau Cymreig allan o awyr- gylch plaid yn gyfangwbl, a phe cymerai yr aelodau Cymreig safle annibynol. Ni olygwn iddynt fod yn ddifater ynghylch pynciau a berthynai i'r holl Deyrnas ac i'r Ymherodraeth. Dyna gamsyniad mwyafrif cynrychiolwyr y Werddon. Ond paham y rhaid i syniadau dyn ynghylch Masnach Rydd neu Wleidyddiaeth Dramor neu Hawliau Llafur benderfynu pa fodd y pleidleisia yn Nhy y Cyffredin ynglyn a mesurau yn ymdrin ac Addysg, neu yr Eglwys Sefydledig, neu gau y Tafarnau yng Nghymru ? Gallwn ddeall paham i ryw fesur yn achos yr Undebwyr sydd yn wrthwynebol i ddeddfwriaeth arbenig ar gyfer unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol, ond yn ein byw y medrwn ei ddeall yn achos y rhai a gredant y dylid cydnabod gwahaniaethau cenhedlaethol cyn y gellir deddfu yn uniawn a Uwyddianus. Y prif bwnc sydd yn cyffroi Cymru heddyw yw pwnc Addysg. Hwn yn ddiau fydd pwnc penaf yr etholiad yn y Dywysogaeth oni ddeuir i ryw gyd-ddealltwriaeth cyn hynny. Ai fel pwnc cenedl neu fel pwnc plaid yr ydys yn edrych arno ac yn bwriadu ei drin ? Yn ol ein barn ni, y mae plaid wedi bod yn rhy amlwg yh hanes pob trafodaeth arno hyd yma. Mae un dosbarth wedi edrych arno o safbwynt Caer- gaint; mae y dosbarth arall wedi edrych arno o safbwyni: y Memorial Hall. Onicl allai yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr yng Nghymru droi Caergaint a'r Memorial Hall o'r neilldu, a chytuno i'w ystyried o safbwynt Cymreig ? Ynglyn a hyn eto yr ydym yn awyddus i sicrhau sylw gwrthwynebwyr Deddf Addysg 1902. Gwrthwynebwyd y Ddeddf honno yn etholiadau y Cynghorau Sir nid o safbwynt Ymneillduol', ond o safbwynt cenedlaethol, a llwyddwyd drwy hynny i sicrhau cydweithrediad lliaws o Eglwyswyr a Cheidwadwyr. Dadganwyd yn glir yn y Gynadledd Genedlaethol yng Nghaerfyrddin mai p Jisi cenedlaethol, ac nid polisi Ymneillduol, ydoedd y pclisi a fabwysiadwyd. Ac yr oeddym yn cyd- fyned yn hollol ar dadganiad hwnnw. Ond rhaid i ni ddweyd, os mai ar linellau cenedl- aethol y bwriedir i'r pwnc gael ei benderfynu fod braidd ormod o amlygrwydd wedi ei roddi iddo yng nghynadledd yr Eglwysi Rhyddion yn Man- chester yr wythnos diweddaf. Nis gall y Saeson, pa un bynnag ai i Eglwysi Rhyddion neu Eglwysi Sefydledig y perthynant byth ddeall y teimlad Cymreig yn iawn, nag amgyffred ychwaith y dyheuadau sydd yn cymhell egnion ein cenedl. Nid yr un yw Ymneillduaeth yn Lloegr ag yng Nghymru. Mae'r mwyafrif o ymneillduwyr yng Nghymru yn ddigon mawr, sut bynag y rhifid, i alw'r genedl yn genedl ymneillduol, nid oes unrhyw gyfrif posibl yn cyfiawnhau galw'r Saeson yn genedl felly. A gallwn yn hawdd dybied cytundeb a fyddai ) n ddigon teg yn y naill achos yn eithafol o anheg yn yr achos arall. Yr ydym yn teimlo yn hollol yr un fath gyda golwg ar Ddadgysylltiad hefyd, eithr nid oes ofod i ymhelaethu ar hynny yn awr. Ond dymunwn gyflwyno i sylw arbenig Cymru yn yr argyfwng pwysig presenoi, oni fyddai o fantais iddi wneyd ei meddwl i fynu ar ba linellau y gellir penderfynu pwnc Addysg yn fwyaf man teisiol iddi hi heb ymholi gormod beth feddylia unrhyw adran o Saeson o'r llinellau hynny. Oblegid wedi'r cwbl y mae perthynas agosach cydrhwng Ymneillduwr ac Eglwyswr Cymreig a'u gilydd am eu bod ill dau o'r un genedl nag sydd rhwng y -mill na'r llall o honynt ag unrhyw blaid Seisnig, boed Eglwysig neu wleidyddol.
Notes of the Week.
News
Cite
Share
Notes of the Week. The New Bishop of Llandaff.- YV e desire to present our most sincere and hearty congratu- lations to the Rev. J. Pritchard Hughes, the vicar of Llantrisant, upon his elevation to the See of Llandaff. Whether the rumours that the appointment was offered to two or three others and refused by them be true or not we cannot say, all we know is that nobody thought of the Rev. Pritchard Hughes as a possible bishop. But that is no reason for supposing that he may not be better qualified for the office than any of those named. Bishop Hughes will have the best wishes of all Welshmen, were it only for the sake of his late father, Bishop Josuah Hughes, of St. Asaph, the firs: Welsh-speaking bishop of modern times, and a man who possessed a broad evangelical mind and spirit. If the son possesses the good qualities of the father, and we have every reason to believe he does, the Prime Minister has been very fortunate in his choice. The Bishop-elect has lived within the diocese since he took Orders, and ought to understand its needs and requirements well. He has identified himself with no section in the Church, nor has he taken any prominent part in the political disputes of recent years. He is, moreover, an ardent Welshman, a man who can address the people in their own tongue, and this in itself is an essential qualification to a successful and happy career. We find that some English newspapers are hinting that better men were put aside because they were ignorant of the Welsh tongue. All depends upon what is the exact meaning of the word" better." Those men referred to might make better bishops to suit an English See, but they would not suit Wales at all. The days when any alien could be hoisted upon the people of the Principality because of some greatness which did not help a bit to serve and edify them are past and gone for ever. We congratulate the Prime Minister upon his courage in this matter, and only wish he exercised similar courage in all public affairs. From Congratulating to Sympathising.—Oydach Vale is only a few miles from Llandaff, and fewer still from Llantrisant. This dis- trict in the South Wales coalfield became last Friday the scene of a terrible disaster, and it is to-day hidden in the gloomiest darkness. It is yet impossible to state with certainty the full extent of the disaster, but it is known that at least twenty-six men are either dead or missing, and several of those rescued alive have been so fearfully injured that it is quite possible the death-roll will be added to. All the twenty-six men, except seven, were married, and more than fifty children at least have been made orphans in a moment. To these widows and fatherless children we give our heartfelt sympathy. To add to the frightfulness of the sad occurrence fire has broken out in the pit, and many of the bodies may be turned into ashes before they can be recovered. But it seems that the disaster, had it occurred a quarter of an hour earlier or a quarter of an hour later, would have been much more terrible. The explosion took place at 5.15, and the day men, numbering 400, had just left the pit, whilst the night shift was not due to descend until a quarter to six, so that this difference of fifteen minutes, has probably saved the explosion
Advertising
Advertising
Cite
Share
Richard H.Thomas Tailor, 2, SHERWOOD PLACE, SHERWOOD STREET, PICCADILLY, W. SPECIAL OFFER of SPRING SUITS in Latest West End Cut and Style. Price 45/ Will stand 2 years' wear. This offer is EXCEPTIONAL, and CANNOT be beaten. Welshmen are kindly invited to give me a trial and support. TERMS CASH.