Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

[No title]

--Y DYFODOL,,

THE NEW LORD OF THE ADMIRALTY.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

iddo afradloni ei dda mewn modd di-esgeulus a gwastraffu ei amser mewn ffolineb a gwagedd, ni wnaeth ddrwg i undyn byw ond iddo ei hun. Er gwaethaf y gwawd a'r dirmyg a daflwyd arno gan adran o'r wasg Seisnig, daliodd ei afael yn serchiadau llu mawr o'r rhai a'i hadwaenant oreu. Nid rhyfedd felly clywed ami i lais yn datgan nad aeth erioed i bridd galon gynhesach. Y MAE etholwyr Arfon newydd roddi prawf diamheuol o'u boddlonrwydd yn eu cynrych- iolydd Seneddol, Mr. William Jones. Er pan y penderfynodd Rhyddfrydwyr y bwrdeisdrefi ddwyn holl dreuliau etholiadol Mr. Lloyd- George, y mae'r teimlad wedi cynyddu y dylid gwneuthur yr un gymwynas i Mr. Jones. Y mae ysgrifenydd y Gymdeithas Ryddfrydol wedi bod mewn gohebiaetb a Mr. Herbert Gladstone ynghylch y pwnc, ac wedi derbyn sicrwydd oddiwrtho fod gwasanaeth Mr. Jones i'r blaid Ryddfrydol yn cael ei werthfawrogi gymaint fel na raid pryderu dim ynghylch ei dreuliadau yn yr etholiad nesaf. Os bydd angen, bydd cist y blaid yn agored iddynt. MEWN cyfarfod dirwestol yn Pontypridd dywedodd Mr. W. Lewes Daniel, Merthyr, yr Official Receiver dros y rhanbarth honno o'r wlad, fod rhai tafarndai bron wedi eu cau, a bod y fasnach mewn diodydd meddwol wedi lleihau yn fawr o herwydd y Diwygiad presennol. Gwyddai am rai yn arfer derbyn ugain punt ar nos Sadyrnau, ond yr oedd eu derbyniadau erbyn hyn wedi syrthio i lawr i u;rain swllt. Pan y deuai tafarnwyr ger ei fron ef i Lys y Meth- dalwyr y rheswm a roddent dros eu methiant ydoedd y Diwygiad. I'R Western Mail yr ydym i ddiolch am y dyfyniad a ganlyn :—" William James, an Ull- tnteltigent-lookmg youth, was charged at Cardiff Police Court with stealing a parcel of Western Mail newspapers from the Rhymney Goods Station in Adam Street." Nid yn ami y ceir engraifft fwy tarawiadol o achos ac effaith. NiD yw pobl Llandrindod yn credu yn gryf iawn yn y cynghor ysgrythyrol i beidio gofalu dros drannoeth. Yng nghyfarfod y Cynghor Plwyfol nos Wener diweddaf darllenwyd llythyrau o Gaerdydd, yn ogystal ag o Abertawe, yn erfyn cefnogaeth y Cynghor gyda golwg ar leoliaeth yr Amgueddfa a'r Lyfrgell Genedlaethol. Pen- derfynwyd, gan fod llawer o'r ddwy dref yn mynychu Llandrindod yn ystod yr haf, mai gwell fyddai i'r Cynghor fod yn amhleidiol. Bu cyfreithio caled yn Mrawdlys Meirionydd flynyddau yn ol yn nghylch hawl i fyned a chychod i fynu cainc o'r Fawddach heb fod yn mhell o'r Abermaw. Dygwyd i'r llys niter fawr o hen bobl i dystio yr arferid myned a chychod IIawn o fawn o fawnog Arthog i fynu y gainc- afon hono gynt yn ddiwarafun. Mr. Morgan Lloyd a groesholai ar ran y gwr a hawliai mai efe oedd pia yr afon. Ac ebai, drwy y cyfieithydd, wrth hen Gymro syml pedwar ugain oed a dystiai ei fod ef ei hun wedi dwyn mawn drosodd lawer gwaith pan yn ieuanc. '• Gofynwch iddo, sut y byddai yn myn'd a'r mawn o'r cwch i'r lan ? Mewn cawell ar fy nghefn, yr un fath yn union ag y byddai yntau yn cario mawn yn Nhrawsfynydd stalwm," oedd yr ateb ffraeth.