Hide Articles List

1 article on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. CHWITH gennym gofnodi marwolaeth y Parch. T. Mortimer Green, Cofrestrydd Prifysgol Aber ystwyth, yr hyn a gymerodd le ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Brodor o Aberaeon, sir Aberteifi, ydoedd yr ymadawedig, a gedy wraig a chwech o blant-dwy ferch a phedwar mab-- i alaru ar ei ol. Graddiodd Mr. Green ym Mhrifysgol Llundain wedi hynny bu am ysbaid yn ben ar Ysgol Golegawl Caerau Park, ac yn ysgrifenydd Athrofa Trevecca. Ym mhen amser rhoddodd ei wasanaeth yn gyfangwbl i'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn bugeilio un o eglwysi yr Hen Gorph yng Nghaerfyrddin. Yn 1892 dewiswyd ef yn Gofrestrydd y Brifysgol yn Aberystwyth. BVDD gan un baban bach yn Rhosllanerch- rugog achos i gofio, os nad i fendithio, y Di- wygiad. Y dydd o'r blaen aed ag ef at Dr. Davies i gael "cowpog." Yn ol yr hen arferiad, gofynodd y meddyg beth oedd enw yr un bach yr atebiad a gafodd ydoedd, Revivalist Hughes. AMLWG yw fod gorchwyl caled yn aros y Dirprwywyr sydd i benderfynu y man, neu y manau, goreu i leoli y Lyfrgell a'r Amgueddfa Gymreig. Yn ychwanegol at Gaernarfon, Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd, y mae Llanelli, Llangollen a Chorwen yn bwriadu ymgeisio am un o'r sefydliadau. AR y trydydd cynyg, llwyddodd y Prif Weinidog i lenwi esgobaeth Llandaf, ac ni fu raid iddo fyned oddiallan i gylch yr esgobaeth i gael gwr cyfaddas ym mherson y Parch. Joshua Pritchard Hughes, Ficer Llantrisant, a mab y diweddar Esgob Joshua Hughes, Llanelwy. Ganwyd yr Esgob newydd yn Llanymddyfri ) n y flwyddyn 1847, a choffheir hynny yn ei ail enw "Pritchard." UCHELGAIS ami i fachgen ieuanc ydyw bod yn siaradwr da a pharod. Ynddo ei hun peth digon diniwaid yw hyn, ond profodd yn dram- gwydd i John Dent Johns, o Dreherbert. Syrthiodd y gwr ieuanc mewn cariad a Miss Mary Ann Rogers, un o rianod teg Abertawe. Ar ddiwrnod pen blwydd y ferch ieuanc, mewn "parti" a roddwyd i ddathlu yr amgylchiad, daeth ysfa siarad dros John, ac yn ystod ei araith dywedodd y byddai ef a'i gariad yn wr a gwraig ac yn byw yn eu ty eu hunan ym mhen blwyddyn. Pan ddaeth y flwyddyn i ben, profwyd fod John yn well siaradwr na phrophwyd. Gwaeth na'r cwbl, cymerodd y gwr ieuanc ferch arall iddo ei hun yn wraig. Mewn canlyniad dygwyd cynghaws yn ei erbyn am dorri amod priodas. Erbyn heddyw y mae Miss Rogers yn well allan o gan' punt, a Mr. Johns yn barotach i wrando nag i lefaru. YR wythnos ddiweddaf bu farw Alltud Eifion, y bardd hynaf yng Nghymru, a'r cymeriad mwyaf adnabyddus, yn nesaf at Hwfa Mon, yn y cylch eisteddfodol. Robert Isaac Jones ydoedd ei enw priodol, a fferyllydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Trigiannodd yn Nhremadog am dros driugain mlynedd ac yr oedd yn 91 mlwydd oed pan y bu farw. Yn yr hen fardd cafwyd cyfuniad na welir ei debyg yn ami yr oedd yn Eglwyswr selog, yn Geidwadwr pybyr, ac yn Genedlaetholwr i'r earn. Bydd chwith gan lawer ei golli. EDRYCHIR gyda chryn betrusder yng Ngogledd Cymru ar fwriad y Llywodraeth i ad-drefnu yr etholaethau. Ofnir y bydd i fwrdeisdrefi Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn golli eu hawlfraint i anfon cynrychiolwyr i'r Senedd, ac y mae Clwb Ceidwadol -y Gweithwyr, Wrecsam, wedi anfon at Mr. Balfour i erfyn arno wneyd ei oreu i arbed bwrdeisdrefi Dinbych. Sibrydir fod Mr. Clem Edwards yn barod i ddweyd amen i'r weddi hon. TEIMLIR yn bryderus ym Mhorthmadog ynghylch tynged y llong "Alpha." Hwyliodd o Dublin am Amlwch ar y 27am o Chwefror. Ofnir y gwaethaf, oherwydd golchwyd i fyny ar ran o draeth Mon ddarn o bren yn dwyn yr enw Alpha." Rhifa y criw bedwar, yr oil o Borth- madog. Eu henwau ydynt J. Jones (cadben), R. Williams (mate), W. Anderson, ac R. Evans. Y MAE'R Diwygiad yn effeithio hyd yn nod ar y trefydd mwyaf Seisnigaidd yng Ngogledd Cymru. Yn Llandudno, yr wythnos ddiweddaf, dywedodd y Parch. Bryn Davies, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, fod ei eglwys ef wedi ychwanegu pedwar-ugain-a-deg at nifer ei haelodau er dechreuad y symudiad yn y dref honno. AR y dydd olaf o'r flwyddyn 1904, yn addoldy y Bedyddwyr, Lower Circular Road, Calcutta, unwyd mewn glan briodas ddau o blant alltud Cymru. Yr hyn sydd yn gwneyd y digwyddiad yn ddyddorol ydyw fod yr holl wasanaeth o'i ddechreu i'w ddiwedd wedi ei ddwyn ym mlaen mewn Cymraeg glan gloyw. Y priodfab ydoedd Mr. Henry Davies Evans, brodor o Portisbach, Blaenconin, sir Benfro, a chymerodd iddo ei hun yn wraig ferch i'r diweddar Cadben James Williams Hill, Llanyfferi, sir Gaerfyrddin. CYNYGIA Miss Gee, merch y diweddar Thomas Gee, Dinbych, drwy Bwyllgor Gweithiol Cyngh- rair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, bum' bathodyn i aelodau hynaf a mwyaf ffyddlon yr Ysgol Sabbothol yng Nghymru. Rhaid i bob ymgeisydd fod dros driugain mlwydd oed. MAE rhagolwg am dysteb sylweddol i'r Parch. Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn. Y mae eisoes dros chwe' ugain punt, mewn symiau o ddau swllt i ugain punt, wedi dod i law. Yn rhestr y tanysgrifiadau nid oes ond un enw o'r Brifddinas. Bydd y drysoryddes, Mrs. Joshua Powell, Cawdor Terrace, Castellnewydd Emlyn, yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau a anfonir i law o hyn hyd y dydd cyntaf o Fai. "DEWCH hen ac ieuanc, dewch," gwahodda'r hen emyn, ac nid yn oter y dyddiau hyn. Y mae'r plant mewn Ilawer man yn cynnal cyfar- fodydd gweddio a'r dydd o'r blaen, yn eglwys y Bedyddwyr, Bethania, Aberteifi, bedyddiwyd un henafgwr 92 mlwydd oed. MAE lie i gredu mai yr ymgeisydd Ceidwadol yn erbyn Mr. Llewelyn Williams a Mr. Alfred Davies ym Mwrdeisdrefi Caerfyrddin fydd y Cadben Hughes-Morgan, Bank House, Aber- honddu. Un o blant Llanymddyfri ydyw, a dywedir ei fod yn Gymro trwyadl. Nid yw eto wedi rhoddi atebiad pendant i'r gwahoddiad, ond hyderir, oddiwrth y modd y derbyniodd efe y ddirprwyaeth, yr etyb yn gadarnhaol. PE bae i gant Gladstone a chant Lloyd- George sefyll yn fy erbyn," meddai Mr. Alfred Davies, yn Llanelli, yr wyf yn benderfynol i fyned ym mlaen. Yr wyf yn barod i farw ar faes y gad." Ai ni fuasai yn fwy o galondid i ganlynwyr Mr. Davies wybod ei fod yn pen- derfynu byw, yn hytrach na marw, ar faes y gad? MEWN arholiad yn un o ysgolion Llanelli gofynwyd i'r plant ysgrifenu enwau y tri milwr, y tri bardd, a'r tri pregethwr enwocaf yng nghyfnod y Frenhines Victoria. Dyma farn un o'r plant (r) y Cadfridog Buller, y Cadfridog Baden Powell, a W. T. Davies (ennillydd y Queen's Prize"); (2) Shakespeare, Tennyson, a Hwfa Mon (3) Archesgob Caergaint, Dr. Gomer Lewis, ac Evan Roberts. AR ol ystyriaeth bwyllog y mae Syr Edward Reed wedi cydsynio a chais y Ceidwadwyr i sefyll fel eu hymgeisydd yng Nghaerdydd pan ddel yr etholiad cyfifredinol. Y mae Syr Edward ar fin cyrhaedd ei 75 mlwydd oed—yn ddigon hen, ym meddwl rhai, i wybod yn well. Y MAE Mr. William Jones, A.S., wedi bod ar ymweliad a'r Deheudir, lie y bu yn agor Ysgolion newydd Alltwen, Pontardawe. Ar yr achlysur, anrhegwyd ef ag agoriad aur. Yn ystod ei arosiad yn y lie, siaradodd mewn pedair iaith, sef yn y Gymraeg, y Seisnaeg, yr Ellmynaeg, a'r Ffrancaeg. YNG nghyfarfod diweddaf Cynghor Trefol Aberystwyth, darllenwyd llythyr oddiwrth drysorydd Mr. Carnegie yn hysbysu ei fod wedi cael ei awdurdodi i dalu i'r Cynghor y swm o ^,3,000 a addawodd Mr. Carnegie tuagat y n 11 Llyfrgell Rydd. Trosglwyddir yr arian mewn chwe cyfran o £500. DRINGO i lawr ddarfu Pwyllgor Addysg Aberdar wedi'r cwbl. Cofir i'r athrawon roddi mis o rybudd i derfynu eu hymrwymiad oherwydd y penderfyniad a basiwyd gan y Pwyllgor yn gwahardd yr is-athrawon i gosbi y plant. Yn eu cyfarfod diweddaf, cyfnewidiwyd ffurf y penderfyniad cyntaf drwy roddi gallu i'r ysgol- feistri i drosglwyddo i'r is-athrawon eu hawl i gosbi. Profodd y cyfnewidiad yn foddhaol i'r is-athrawon, a thynnasant eu rhybuddion yn ol. MR. LLOYD-GEORGE ydoedd testyn dau englyn yn Eisteddfod Senni ychydig amser yn. ol. Fel hyn y cleciodd y buddugwr— Hyglod, aiddig wleidyddwr-ydyw Lloyd,— Hyawdl, hyf arc ithiwr Cawr ein haddysg,gwir noddwr Gwalia-ei theg haul a'i thwr. Gwron addyg rinweddol,—ac arwr Gwerin Cymru foesol; ■ ■ Clo ar wegi clerigol Yw'r hyawdl Lwyd wr di-lol Os yw y gwrthddrych yn "wr di-lol," rhaid addef nad yw yr englyn cyntaf felly. Mr. George fuasai y cyntaf i ddweyd mae "lol" afiach ydyw ei al w yn Haul Gwalia." Dyddorol fyddai cael gwybod gan yr awdwr, fel seryddwr, nid fel bardd, ym mha ran o'r ffurfafen y gesyd—dyweder—Mr. Bryn Roberts. BVDD yn ddrwg gan gyfeillion Addysg glywed fod y Proffeswr D. E. Jones, cadeirydd Pwyllgor Addysg Caerfyrddin, oherwydd afiechyd a rhai rhesymau eraill, wedi rhoddi ei swydd i fyny.. Er nad oedd y Proffeswr Jones yn gweled lygad yn llygad a'r mwyafrif o'i gydgenedl ar y cwestiwn sy'n awr yn cynhyrfu y wlad, cydnabyddai pawb o'i wrthwynebwyr ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd. Hyderir y caiff wellhad buan 0'1 anhwyldeb, ac y dychwel eto gyda nerth ychwanegol i wasanaethu ei wlad a'i genedl. YN yr ymraniad ar benderfyniad Mr. Winston Churchill nid oedd ond pump o'r aelodau. Cymreig yn absennol. O'r pump, llethwyd Mr. Humphreys Owen a Mr. Charles Morley gan afiechyd. Teithiodd Mr. Samuel Moss a Mr. Ellis Jones Griffith yn ol a blaen o Gaerlleon yn unig er mwyn cofnodi eu pleidleisiau. Yn yr ymraniad nos Lun, pan nad oedd mwyafrif y Llywodraeth ond 23, yr oedd deuddeg o'r aelodau Cymreig yn absennol. YM Mhwyllgor. Unol Sir Forganwg galwodd y Barnwr Gwilym Williams sylw at ffigyrau'r prif-gwnstabl am y chwarter diweddaf, y rhai a ddangosent leihad o 1,364 yn rhif y troseddwyr a ddygwyd o flaen yr ynadon. Llongyfarchai y Barnwr y pwyllgor a'r sir ar y sefyllfa addawol presennol. Yr oedd rhywun wedi llysenwi y sir yn Forganwg Ddu," ac yr oedd yn falch ei gweled yn gwynnu yn gyflym yn ol ffigyrau yr heddgeidwaid. Nid oedd un amheuaeth yn ei eddwl nad oedd y clod am hynny yn ddyledus i Evan Roberts a'i gyd-efengylwyr. Nis gallai gymeradwyo gwaith y rhai hynny a feirniadant ddull Evan Roberts. Iddo ef, nid oedd y dull yn ddim yr oedd yr effeithiau yn bobpeth, a dangosai y lleihad yn rhif y troseddwyr yn Morganwg fod yr hen sir yn ymlanhau ac yn ymdrwsio i gymeryd ei lie fel brenhines siroedd Cymru. PARODD y newydd am farwolaeth Ardalydd Mon gryn ofid ym Mangor a'r cyffiniau, lie yr oedd y pendefig ieuanc yn bur boblogaidd. Er