Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

THE EDUCATION QUESTION IN…

CYMRY Y "T AIR TREF."

News
Cite
Share

CYMRY Y "T AIR TREF." Am adeg hir mae Cymry Plymouth, Devon- port, a Stonehouse wedi bod heb oedfaon yn yr hen iaith. Yn awr, fel canlyniad i'w llwyddiant ynglyn a chadw Gwyl Dewi Sant, y maent yn dechreu cyfres o oedfaon Cymraeg. Trwy garedigrwydd y Parch T. Davies yn rhoddi benthyg ei Neuadd Genhadol, cawsant gyfarfod pregethu nos Sul diweddaf. Gwasanaethwyd gan y Parch. Rhys Harries, gweinidog llwyddiannus gyda'r Annibynwyr yn Plymouth, a'r Parch. Maurice Jones, Caplan Arolygol i'r Fyddin yn y Gorllewinbarth, yr hwn a bregethodd yn hyawdl. Mr. Afanfryn Hill, canwr poblogaidd iawn ymysg y Saeson yn Nyfnaint a Chernyw, oedd wrth yr offeryn, ac hefyd canodd "0 Rhowch i Mi Bregeth Gymraeg" yn briodol o ran mater ac yn ardderchog o ran dull. Yr oedd tua cant yn bresennol, a gobeithir cael oedfa syml gyffelyb yr ail Sul ym mhob mis o hyn allan. Y mae'r mudiad yn nwylaw y pwyllgor a ganlyn Y Parchn. Maurice Jones a Rhys Harries, Dr. W. Hunter Richards, Mri. A. Hill, Ephraim Lewis, A. Stroud, a S. R. John (ysgrifenydd mygedol).

Advertising