Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ADGOFION AM DR. JOSEPH PARRY.

LORD JUSTICE VAUGHAN WILLIAMS…

Advertising

HENRY BOWN, Photographic Artist,

News
Cite
Share

Ossian Davies. Mae y brwdfrydedd Cymreig fel ffwrnes yn ei natur, ac er treulio mwy nag ugain mlynedd yn Lloegr oer parha i gynneu yn fflam angerddol o hyd. Nid yn y pulpud ac ar y llwyfan yn unig y mae "Ossian" yn boblogaidd. Anwylir ef gan bawb ddaw i gyffyrddiad ag ef. Mae rhywbeth yn ei wynebpryd sy'n ennill ymdiriedaeth ac yn deffro serch yn y fan. Calon Gymreig yn ystyr oreu y gair sy'n euro yn ei fynwes dyner, deimladwy, garedig. Amheuwn a fedd elyn ar wyneb y ddaear. Gwyddom fod ganddo lu aneirif o gyfellion a ddymunant ac a weddiunt am iddo gael adferiad buan i gyflawn iechyd a nerth. Mae achos daioni, ac achos Cymru yn arbenig, yn wanach oblegid ei osod ef o'r neilldu.