Hide Articles List

4 articles on this Page

ADGOFION AM DR. JOSEPH PARRY.

News
Cite
Share

ADGOFION AM DR. JOSEPH PARRY. YN Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865 y gwelais Dr. Joseph Parry gyntaf, Tanymarian, arweinydd yr Eisteddfod, a'r Gohebydd, yn ei gyflwyno i'r gynulleidfa. Yr oedd ei enw yn adnabyddus er's dwy neu dair blynedd fel Joseph Parry, Pennsylvania. Gan- wyd ef yn Merthyr, a byddai yn canu alto yn hogyn gyda chor Bethesda; ond symudodd ei rieni i'r America pan oedd ef yn lied ieuanc, yn y flwyddyn 1854 (os wyf yn cofio yn iawn). Aeth y Gohebydd i'r America am dro, ac aeth i Pennsylvania i chwilio am y cyfansoddwr ieuanc addawol oedd wedi ennill y rhan fwyaf o'r gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Abertawe a Llandudno. Cafodd afael arno Yn y Gweithiau Haiarn, ""a pherswadiodd ef i ddyfod trosodd i'r wlad hon. Yr oedd Joseph Parry wedi anfon amryw gyfansoddiadau i Eisteddfod Aberyst- wyth, ond aethant ar goll yn rhywle, ac ni ddaethant byth i'r amlwg. Yr oedd hynny yn siomedigaeth chwerw iawn iddo. Cafodd y fath dderbyniad siriol a chroesawgar yn y wlad hon, fel y penderfynodd fynd drosodd i mofyn ei deulu. Daeth i Lundain i'r Royal Academy, a chan fod y fath dalent gerddorol ynddo cariai bobpeth o'i flaen, ac yr oedd ei athrawon yn meddwl y byd o hono. Bu ei hen gyfaill, y Gohebydd, yn ftyddlawn iawn iddo, a chafodd nifer o Gymry yn bwyllgor i'w helpu i drefnu cyngherddau iddo-Mri. Hugh Owen (pryd hyny) Stephen Evans B. Rees; W. Williams, Devonshire-st. Jenkins, Gwalia, Llandrindod John Adams, Abermaw; T. Davies, London- road R. P. Evans, Old Ford, ac eraill. Ar ei ddyfodiad i Lundain ymaelododd yn Fetter Lane (King's Cross, yn bresenol), lie 'roedd y Parch. R. Williams (Hwfa Mon), Archdder- wydd Cymru, yn weinidog. Cafwyd Offeryn i'r Capel, a bu yntau yn ei chwareutrayn Llundain, a chododd y canu i enwogrwydd mawr yno. Cododd yno nifer o gantoresau campus, Miss Lizzie Evans, Miss Jones, Farringdon, Miss Lloyd, y Misses Roberts, Bishopsgate, ac eraill. Byddem yn mynd o'r hen gapel yn Aldersgate ar ol yr oedfa i Fetter Lane erbyn y cyfarfod canu, a chawsom lawer o addysg a hyfforddiant ganddo. Erbyn iddo orphen ei amser yn y coleg yr oedd y Brifysgol wedi ei sefydlu yn Aberystwyth, a phenodwyd ef yn Athraw Cerddorol yno, a bu yn llwyddianus iawn. Yr oedd lluaws mawr o'n cantorion Cymreig yn dal ar y cyfle ac yn mynd dan ei addysg. Ond rywfodd yn sydyn ac annisgwyliadwy, ac am ryw reswm sydd byth yn ddirgelwch, ymadaw- odd oddiyno. Sefydlodd ysgol gerddorol yn Abertawe, a bu nifer liosog o gantorion gydag ef yno. Pan sefydlwyd y Brifysgol yn Nghaer- dydd cafodd ei benodi yn Athraw Cerddorol yno, lie y bu hyd ddiwedd ei oes. Dr. Parry fel Datganwr, Pan yn, Llundain, ac am flynyddau ar ol hyny, bu yn dra phoblogaidd fel datganwr. Yr oedd yn feddianol ar lais baritone da, a byddai bob amser yn cyfeilio iddo ei hun, a'r rhan fynychaf canai ei ganeuon ei hun, a byddai yn cymeryd rhan mewn cyngherddau pwysig, a phob amser yn dderbyniol. Fel Beirniad safai yn uchel, er feallai nad oedd mor cool a hunanfeddianol a rhai o'n prif feirniaid, ond gwnelai ei waith yn gydwybodol, a rhoddai resymau paham y gwobrwyai un mwy na'r llall. Fel arweinydd safai yn rheng flaenaf arwein- yddion Cymru; arweiniai ynfynych gymanfaoedd ei enwad ei hun, a chyda enwadau eraill hefyd. Bu yn arwain dwy gymanfa i Undeb Ysgolion Annibynwyr Cymreig Llundain, un yn y City Temple, a'r llall yn King's Cross, ychydig flynyddau yn ol. Fel Cyfansoddwr yr oedd ar ei ben ei hun. Ni chafwyd y fath awen gynyrchiol yn hanes ein cenedl ymhob dosbarth o gyfansoddiadau. Meddai ar allu uwchraddol a thalent naturiol anghyffredin, ac wedi cael addysg a disgyblaeth dda. Fe allai mai yr "Emmanuel" a Blodwen yw y gweithiau mwyaf poblogaidd o'i eiddo. Cafodd "Blodwen" ei pherfformio yn yr Alexandra Palace, gan Gor Rees Evans, Aberdare, ond o dan arweiniad Dr. Parry ei hun. Perfformiwydyr "Emmanuel hefyd gan y London Welsh Choir dan ei arweiniad, yn St. James' Hall, ac yn ddiwedd- arach cafwyd gwyl gerddorol o'i weithiau yn y Crystal Palace. Mae ei Anthemau a'i Glees yn lliosog, ynghyda darnau i gorau meibion, a'i ganeuon sydd bron yn ddirifedi, a llawer o honynt yn rhagorol, ond credwn mai Ei Donau Cynulleidfaol a geidw ei enw yn fwy na dim wnaeth. Byddant mewn bri tra pery yr hen Gymraeg. Dies Irae (yr oreu ohonynt i gyd), Aberystwyth, Porthmadog, Caernarfon, a genir gyda bias lie bynag y ceir Cymro, y maent wedi dod yn eiddo cenedlaethol. Torwyd ef i lawr yn sydyn ac anisgwyliadwy ynghanol ei gynlluniau ac pr ganol cyfansoddi gwaith pwysig. Bu raid iddo ei adael ar ei hanner, Yr oedd ei eisiau yn y nef." MEIRIONFAB.

LORD JUSTICE VAUGHAN WILLIAMS…

Advertising

HENRY BOWN, Photographic Artist,