Hide Articles List

4 articles on this Page

PENNODAU YN HANES1, METHODISTIAETH…

News
Cite
Share

PENNODAU YN HANES 1, METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. GOFIDIAU A HELBULON. Yr oedd gan y pregethwr Jenkins ddwy ferch oeddynt heb eu derbyn yn gyflawn aelodau. Ymbriododd y merched hyn a dau frawd o'r enw Thomas, y rhai oeddynt yn gyflawn aelodau yn Wilderness Row. Crogi oedd y gosp yr adeg honno am liaws o droseddau yn erbyn cyfraith Lloegr,—am ladrata dafad yn gystal ag am lofruddiaeth; ac yn unol ag ysbryd yr oes, fe ddiarddelwyd y ddau frawd yn ddiymdroi, ac Edward Jones a roddodd y ddedfryd arnynt. Digiodd y ddau frawd yn arw, yng nghyda'r ddau bregethwr Jenkins a Thomas, ac ymadawsant o'r Cyfundeb. Troisant yr achos yn Gravel Lane, yr hwn oedd gan mwyaf dan eu gofal, yn achos annibynol ar y fam eglwys.-a dyna ddechreuad, meddir, achos yr Annibynwyr Cymreig yn Llundain. Yn, neu oddeutu, y flwyddyn 1799, fe ddechreuodd gwr ieuanc o'r enw Griffith Jones, genedigol o Feddgelert, bregethu yma, a disgwylid llawer oddiwrtho. Ond adfeiliodd ei iechyd, a gorfu iddo gilio i Gymru-nid i wella, ond i farw. Rai blynydd- oedd cyn hynny yr oedd Edward Jones wedi taro wrth wr o'r Deheudir o'r enw Francis, yr hwn a breswyliai mewn ty yn ymyl Palas yr Archesgob, yn Lambeth, ac fe allai mai hwn oedd y lie yr aethai Edward Charles iddo. Arferai Francis bregethu-heb bennodiad neb, mae'n debyg. Ond buan y cafwyd allan nad oedd ymarweddiad y gwr hwn yn deilwng o'r Efengyl a bregethai, a thorrodd Edward Jones bob cysylltiad ag ef. Parhaodd i bregethu, pa fodd bynag, i ryw ddyrnaid o ddilynwyr hyd ddiwedd ei oes. Helynt Carwriaethol Edward Jones. Yr oedd Ilywyddiaeth yr achos yn Cock Lane ac wedi hynny yn Wilderness Row, yn gorphwys yn bennaf ar ysgwyddau Edward Jones ond amgylchiadau, yn hytrach na chymwysderau neillduol at y gwaith, a'i gosodasai yn "y fath le pwysig. Trwy hir brofiad daeth yn hoff iawn o flaenori, ac o ddangos i bawb mai efe oedd y meistr. Parasai y naws arglwyddaidd hwn effeithiau drwg yn llawer cynt nag y gwnaeth, onibai y dylanwad bendithiol a feddai ei wraig arno. Un o Sir Ddinbych oedd y wraig synwyrol a chrefyddol hon a gallai arwain ei gwr, meddir, yn ddiarwybod iddo, ac felly yr oedd hi o wasanaeth dirfawr i'r achos, fel y gall pob gwraig dda fod. Ond oddeutu y flwyddyn 1796 bu y wraig rinweddol hon farw, a chladdwyd hi yn ol ei dymuniad yng Nghapel Wilderness Row. Collodd Edward Jones, druan, ei arweinyddes ddiogei, a buan y daeth gwedd ddilewyrch ar yr achos dan ei lywodraethiad. Dirywiodd ei hun, hefyd, yn ei ysbryd ac yn ei rodiad. Yr oedd yn perthyn i'r eglwys yr adeg yma ferch ieuanc o Sir Gaerfyrddin o'r enw Gwen Prydderch, yr hon ar y pryd oedd yn umbrella maker," er yn perthyn i deulu pendefigaidd, ond wedi syrthio yn ei hamgylchiadau. A'r ferch ieuanc—dan bump-ar-hutiain oed--syrthiodd Edward Jt nes, ac yntau yn ddeg-a-thriugain, mewn cariad dros ei ben. Elai a hi i Ffair Barnet, ac ymrwymodd i'w phriodi hi ar ol dychwelyd o Gymru yn haf y flwyddyn 1800. Gwnaed pob darpariaeth angenrheiciiol ar gyfer hynny. I Gymru yr aeth ond, ar ei daith yno,

Advertising

Advertising

PENNODAU YN HANES1, METHODISTIAETH…