Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EISTEDDFOD ALBERT HALL.

Advertising

YR HYBARCH DAVID PHILLIPS,…

Advertising

EISTEDDFOD ALBERT HALL.

News
Cite
Share

Y mae yn ennill nerth drachefn yn y rhan olaf. Ac felly y teimlwn y bryddest hon-pryddest gref ar rai ystyron-yn anwastad Deigryn Cenedl.-Bu hwn, i ddechreu, yn ffodus yn ei fesur-mesur In Memoriam Tennyson, gan mwyaf. Weithiau meglir ef ychydig gan y mesur hyn o engrhaifft :— A gwelodd ei anfarwol em Yn gloywi mevm glofiiol ddrain. Yn haul barddonol gwlad ar goedd. Rhyddieithol iawn yw honna. Ni hoffwn chwaith mo hyn :— Bu cystudd droion ar ei rudd Yn dweud athroniaeth Bod a Byw. na hyn chwaith Ym medydd yr Addysgol ddydd. Ond gydag ychydig fan eithriadau, deil y bryddest brydferth hon yn ei gloywder o'r dechreu i'r diwedd. Cadivgan.—Cerdded yn arafaidd wna hwn. Symlrwydd sy'n nodweddu ei arddull, gydag ambell gyffroad hapus fel hwn yn darlunio'r bardd ieuangc yn myned i Affrica, a'i genedl yn ei gynhorthwyo :— Gyda'i dagrau ar ei delyn, a'i helusen yn ei law. Gwyn fyd na ddeuent yn amlach. Ymgad- wed y bardd rhag ymadroddion estronol o fath hwn :— A blanna gusan ar ei arwaf groes. Y mae'r efelychiad yn y pennill ar ddiwedd rhan III. yn anhapus-i feirniad. Diwygiwr Moel Cadw gan.—Pryddest feddyl- gar; ond nad yw y bardd hwn, fwy nag eraill yma, yn gallu ymryddhau oddiwrth y brofedig- aeth o wneud nodiadau rhyddieithol fel ar ymyl y ddalen :— Rhyfedd fel mae amgylchiadau'n troi yn erbyn plant athrylith, Rhyfedd fel y medrant hwythau droi eu° hanhawsderau'n fendith. Digon gwir, wrth gwrs a gwnai'r tro mewn anerchiad, ond mewn pryddest dylasai gael ffurf arall, decach. Etc :— 0 dan ddylanwad yr ysprydion hyn A ffurfiant ei gymeriad viewnol ef. Nid yw'r ffaith fod y llinellau hyn yn 10 sill yr un yn eu gwaredu rhag bod yn ddim ond rhyddiaith. Taliesin.—Methwn wneud fawr o hon, gan mor gymysglyd yw o ran meddwl ac arddull. Yr ydym fel yn y niwl yn cael cipdrem ar olygfa dlos, ond yn ei cholli cyn cael golwg glir ami. Buaswn yn teimlo cryn anhawster i benderfynu rhwng dau neu dri o'r cystadleuwyr hyn, oni bai fod yma un sydd yn fy moddio'n well, fel na raid ymboeni. Y mae gwaith da yn y rhan fwyaf o'r pryddestau ond y bryddest loywaf, fwyaf. awenyddol, fwyaf byw o'r dechreu i'r diwedd yw eiddo Deigryn Cenedl," ac iddo ef y mae'r clod a'r wobr. ELFED.