Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Colofn y Gan.

News
Cite
Share

Colofn y Gan. GWELWN fod Miss Ellis (enillydd y Car- melite Solo") yn yr Albert Hall eisoes wedi ei sicrhau i ganu mewn cyngherdd yn ein plith yn dwyn cysylltiad a chapel Clapham Junction. DEALLWN y cynhelir cyngherdd mawreddog gan gor Mr. Merlin Morgan yn y Queen's Hall rywbryd yng nghorph y mis nesaf. CYNHELIR cyngherdd yn Holborn Town Hall tua dechreu y mis nesaf er budd gweddw a phlant y diweddar Mr. Robert Griffith. Y mae cantorion o fri i gymeryd rhan, a hyderwn y rhydd ein cydwladwyr gefnogaeth galonog i'r achos. EISTEDDFOD Shirland Road fydd un o'r digwyddiadau nesaf yn ein mysg, yr hon a gynhelir ar y 30am o'r mis hwn. Mae argoel- ion y ceir cystadleuaeth ar y prif ddarn. Ein cydwladwr a'r cerddor, Pedr Alaw, fydd yn beirniadu. CAED gwledd ragorol yn yr Alhambra y Sul diweddaf, pryd y canwyd yn rhagorol gan ein cydwladwyr Mr. Thomas Thomas a Mr. Ivor Foster. CYNHALIA cyfeillion Eglwys St. Padarn eu Heisteddfod Flynyddol yr wythnos gyntaf o'r mis nesaf. Bydd yn ddyddorol clywed cystad- leuaeth ar y dernyn i barti meibion" Moon- light (Mr. Vincent Davies). Ymhen ychydig ddyddiau wedi'r wyl hon cynhelir un arall mewn cysylltiad ag Eglwys Camberwell. I YR oedd y canu yng Ngwyl Dewi Sant Paul eleni yn rhagori ar y flwyddyn ddiweddaf. Canwyd y Salmau gyda'r dawn a'r deall; ac er fod y seindorf filwrol yn dda, gwell fuasai genym glywed y cor yn canu heb gynorthwy y seindorf. Y mae'r organ nerthol sydd yno yn llawia digon o gyfeiliant. Prin y clywid y lleisiau mewn rhai manau gan mor nerthol yr organ a'r seindorf. HYSBYSIR ni fod y canu yn y City Temple yn wresog iawn yng Ngwyl Dewi yr Ymneill- duwyr. Ond y gwyn yn awr yw y dylid gwneyd mwy yn yr ystyr gerddol ynglyn a'r cyfarfod blynyddol hwn, ac mai noson o ganu cysegredig ddylai Nos Gwyl Dewi fod. CREDWN i bawb gael eu digoni a chan yn yr Albert Hall yr wythnos ddiweddaf. Ond cipiwyd y gwobrau i gyd oddiar Gymry Llun- dain. Teg yw dweyd i ni gael cystadleuwyr da o blith ein cydwladwyr Llundeinig yn y pre- lim," a diau y buasai rhai o honynt wedi ym- ddangos ar lwyfan yr Eisteddfod pe bai amser wedi caniatau. Ar y ddeuawd i denor a bass, er engraifft, yr oedd Chelsea Boy" a Llew Caron yn drydydd da. Derbyniasom y sylwadau canlynol oddiwrth Critic" yr wythnos ddi- weddaf :— Cystadleuaeth y Corau Meibion. Fe gydwel pawb a ni, yn ddiau, wrth ddweyd mai cystadleuaeth ardderchog gafwyd; ac yn sicr yr ydym oil yn teimlo yn bur falch o D. C. Williams am gyfansoddi Homeward Bound (y dernyn cystadleuol), yr hwn sydd ddarn maith, llafurfawr, yn cynwys oddeutu wyth o symudiadau. Teimlem wrth glywed corau Manchester a'r Eryri ein bod yn cael portread byw o beth ddylai cynghanedd fod. Yr oedd eu lleisiau yn bur iawn, ac yn ymdoddi yn eu gilydd yn dda odiaethol. Teimlem hefyd mai'r ddau gor yma oeddynt yr unig rai a geisiasant wneuthur defn- ydd o'r frawddeg sydd yn agor y darn. Clywir y frawddeg amryw weithiau yn y symudiad cyntaf, ac onibae fod yna amcan iddi ni fuasai yr awdwr wedi ei gweithio i mewn. Pe buasai y ddau gor hyn -wedi canu yr allegro moderato a'r "allegro yn fwy byw buasent yn gorau per- yglus iawn yn y gystadleuaeth. Yr oedd corau Mid-Rhondda a Resolven yn dioddef oddiwrth y gelyn cystadleuol, y blaenaf yn neillduol felly. Agorwyd y rhan gyntaf yn brydferth iawn gan Mid-Rhondda, ond buan yr aeth y donyddiaeth i ddioddef, a dyna oedd eu hanes drwy'r darn. Yr oedd gan gor Resolven rai symudiadau effeithiol iawn, ond daeth anffawd i'w cyfarfod hwythau. Cor o leisiau rhagorol ydoedd y" London Welsh," ond er cystal oeddynt yr oedd lie i ddiwyllio. Yr oedd eu basses yn hynod bur, a dyma lie y gorweddai gogoniant y cor. Yr oeddem yn teimlo tipyn o anystwythder yn y "slur" ar y gair ''air," Credwn hefyd y gallasent fod yn well yn niwedd yr ail sym- udiad pan yn dal yr un nodau mewn wythawd. Pe buasent wedi canu rhai o'r symudiadau ychydig yn gyflymach, buasai rhan y tenoriaid yn llawer hwylusach, ac yn ddiddadl y cawsem dynu garw rhyngddynt a'r cor budd- ugol am y llawryf. Y mae'n llawen genym feddwl fod cor Cymry Llundain wedi rhoddi cownt mor rhagorol o honynt eu hunain. Daethant yn ail da, a dymunwn longyfarch yr arweinydd ar ei lwyddiant, Hyderwn y deil y cor wrth eu gilydd. Cor o leisiau rhagorol hefyd ydoedd y cor buddugol (Aberdar), ac yr oeddynt yn hollol dan law yr arweinydd. Yr oedd yr attack" yn rhagorol. Teimlid y gwahaniaeth rhyngddynt a'r corau eraill yn y symudiad con spirito lie mae'r bass cyntaf yn canu'r unawd. Nid oedd gan y corau eraill y fath benderfyniad a'r cor hwn ar y geiriau Home we go," "hearts aglow." Ond yn y symudiadau canlynol yr oedd y cor yn rhagori, sef yr allegro moderato a'r allegro con brio." Y mae lie i arweinydd ddangos ei allu yn y symudiad olaf, ac fe ymdaflodd y cor ag yntau i'w gilydd er rhoddi desgrifiad byw o'r cyfryw. Yr oedd yr effaith ar Lightnings flash" yr ail waith mewn cyweirnod uwch yn rhagorol. Ar ol y fath ddarn cynhyrfus, rhoddasant yr Emyn Fawl mewn ysbryd priodol iawn. Yr oeddynt yn wir deilwng o'r wobr, a rhoddodd y feirniad- aeth foddlonrwydd cyffredinol. CRITIC.

Advertising