Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. MAE Owen Rboscomyl wedi darganfod yr holl fanylion am Dewi Sant. Nid cymeriad dychmygol mo hono medd ef, eithr hen Gymro gwirioneddol a flodeuai yn yr oesau boreu. Ar ol hyn dylai'n prif siaradwyr yn ein gwleddoedd blynyddol ofalu peidio taflu amheuaeth am fodol- aeth hen nawdd Sant y Cymry. GAN fod Rhyddfrydwyr Caerdydd wedi dewis Tori i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol adeg yr etholiad nesaf, y mae'r aelod presenol, Syr E. J. Reed, wedi gwastadhau'r pleidiau trwy hysbysu y bydd iddo weddill ei oes, wleidyddol, gefnogi Mr. Chamberlain a'i blaid. YSGOLFEISTR yw Llew Tegid wrth ei alwedig- aeth, ond ar hyn o bryd efe sy'n casglu cronfa Coleg y Brifysgol ym Mangor. Deallwn ei fod wedi llwyddo i gael swm rhagorol ynghyd, ac y ceir adeiladau teilwng o'n cenedl yn y dref honno ymhen rhai blynyddau. PARHAU i ledaenu mae'r Diwygiad yn Nghymru, ac mae'r cyfrifon wythnosol a wneir yn dangos fod y dychweledigion i'w rhifo wrth y cannoedd yn y De a'r Gogledd. Yn ol y Western Mail mae cyfanrif y cynnydd yn yr eglwysi fel a ganlyn :—Yn y Deheudir, 76,566 ac yn y Gogledd, 7,370; cyfanrif, 83,936. Ar ol hyn pwy a wad fod gwerth yn y Diwygiad. BWRIADA pobl Abertawe i wneyd cais arbenig am yr Eisteddfod Genhedlaethol yn 1907. Mae gwyr Aberpenar yn gweithio yn egniol gogyfer a'r wyl sydd i fod yno eleni, ac er fod y Diwygiad yn debyg o gadw rhai corau rhag cystadlu, y mae addewidion am ddigon o gefnogaeth i wneyd y cystadleuaethau yn ddyddorol. UN o effeithiau'r Diwygiad yng Nghymru yw fod plant yr ysgolion yn rhoddi mwy o sylw i'w gwersi. Dywed y meistri nad oes angen am ddefnyddio'r wialen i'w rheoli yn awr, ac y ceir ganddynt i ddysgu eu tasg bob nos heb unrhyw gymhellion. Ar ol hyn ni synem pe's clywir am gyrddau gweddi yn cael eu cynhal yn yr ysgolion dyddiol gan y plant yn lie mynd allan am yr hanner awr chwareu rhwng y gwersi. Bu arwr Cadgyrch y Tibet ar ymweliad a Dan Roberts ym Mhontypridd ddechreu yr Wythnos ddiweddaf. Yr oedd y Cadfridog Younghusband wedi cael mantais i astudio cynlluniau crefyddol y bobl yn Tibet, a dydd- orol fa'i cael ei farn ar yr hyn a welodd yn y Diwygiad Cymreig, a'i gydmariaethau rhyng- ddynt ac addolwyr y wlad ryfedd tuhwnt i fynyddoedd yr India. GWR ag sydd yn cymeryd cryn ddyddordeb lllewn materion Cymreig yw'r Archddiacon Sinclair, Llundain. ac y mae wedi dysgu digon 0 n hiaith i draddodi'r fendith derfynol yn ngwyl flynyddol St. Paul. Mae genym ni lawer ofân glerigwyr yng Nghymru nas gallant wneyd cymaint a hyn, ac yn sicr dylent gymeryd oddiwrth y clerigwr hwn yn ninas ■L'undain. Nm oes bardd mwy swynol yng Nghymru Parch. Evan Phillips, y gweinidog Metho- ^staidd adnabyddus o Gastellnewydd-Emlyn. mae bel'acn wedi bod yn llafurio am dros 50 n%nedd, ac fel cydnabyddiaeth fechan o'i allu ai ddiwydrwydd, y mae ei gyfeillion yn symud i Wneyd tysteb iddo, a sicr yw y cefnogir y mudiad ym mhob rhan o Gymru. Mae y trefniadau yng ngofal y Parchn. W. Talfan Davies, Closygraig, a R. Roberts-Davies, Capel Drindod. Y MAE cryn anfoddlonrwydd yn bodoli yng ghymru y dyddiau hyn oherwydd llacrwydd yr -dau Cymreig yng nghyflawniad eu dyled- yddau Seneddol. Nos Iau,yr wythnos ddiwedd- > pan y syrthiodd mwyafrif y Llywodraeth i lawr i bedwar-ar-hugain, nid oedd on'd un-ar-ddeg o honynt yn bresennol, tra yr oedd dau-ar-bymtheg yn absennol. Gwir yw fod rhai o'r dosbarth olaf wedi eu llethu gan afiechyd, ac fod rhwystrau anorfod yn cadw eraill draw, etto teimlir fod cryn le i wella, a hyderir y cymer yr aelodau sylw o'r anfoddlonrwydd ac y byddant yn fwy cyson yn eu presenoldeb o hyn allan. DYWEDIR fod Syr John Williams wedi talu o Z12,000 i ^14,000 am lawysgrifau Peniarth. YN adroddiad y Cambrian o weithrediadau Pwyllgor Heddgeidwaid Abertawe ymddengys y frawddeg a ganlyn It was resolved to ask the King for permission to use his head on the police medal about to be struck." Nid yw yn amlwg a ddisgwylir i'w Fawrhydi ei anfon i lawr iddynt ar ddysgl. I MAE'N amser i'r gwyr priod alw Syr Marchant Williams i gyfrif. Y dydd o'r blaen, yn un o heolydd Aberdar, canfyddwyd gwr a'i fraich yn amgylchynu gwddf ei wraig. Nid oedd yr hedd- geidwaid yn hoffi yr olygfa, a gwahoddasant y gwr i ddod gyda hwy i gael barn Syr Marchant ar ei ymddygiad. Ni fuasai dyn sobr yn gwneud y fath beth," meddai y Marchog, a dirwyodd y brawd cariadus am feddwdod. YMFFROSTIA y Weekly Mail, Caerdydd, fod maer presenol y dref honno a'i ddau ragflaenydd yn Gymry o waed coch cyfan." Tybed a oes un dref arall yng Nghymru lie y buasai y fath ddiwygiad yn teilyngu sylw ? COF hir sydd gan y rhai sy'n gweinyddu cyfraith y wlad yn "Sir Gar." Daeth brodor o'r sir hon o'r America i'w ardal enedigol am ychydig seibiant, ar ol bod yn absennol am ddwy- flynedd-ar-bymtheg. Nid cynt y teimlodd dir Cymru dan ei draed nag y cymerWyd ef i'r ddalfa am wrthod ufuddhau i orchymyn a wnaed yn ei erbyn gan yr ynadon yng Ngorphenaf, 1882. Bydd ei arosiad yn y wlad hon yn hwy nag y bwriadodd, oherwydd rhaid iddo dreulio tri mis yng Nghastell Caerfyrddin. Os yw yr ymgom fer a ganlyn, a gofnodir gan y Brecon County Times, yn ddangosiad teg o'r modd y siaredir y Gymraeg yn Aberhonddu, y mae maes cenhadol eang yn agored i'r Athro John Morris Jones. Mewn gwesty y cymerodd yr ymddiddan Ie :— No. i Mae nhw i gael en gan in unos flaen y magistrates. No. 2 Do, clywais bod Mr. Jones wedi proposo a rhwy'n arall wedi secondo i dynu summons. No. 3 Well, o ydyn nhw, yn guilty dybut cael en fino. No. i I'e, a sarvo nhw yn right Os oes rhai o'n darllenwyr yn gyfarwydd a'r iaith ddieithr hon, dyddorol fyddai cael cyfieithiad ganddynt, yn y Gymraeg neu yn yr iaith fain, o'r dernyn uchod. DISGWYLIA Dr. Cynonfardd Edwards dreulio Awst a Medi, a rhan o Hydref nesaf yng Nghymru. Addawa fod yn yr Eisteddfod Gen- hedlaethol yn Aberpenar, ym mis Awst, lie y bydd yn arwain rhai o'r cyfarfodydd. NID yw pobl Llanelli yn ail i neb yn eu sel dros Gymru, Cymry, a Chymraeg. Dathlwyd Gwyl Dewi Sant yno drwy gynnal cyfarfodydd blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cafwyd papyrau ar y Gymraeg a'r Ysgolion Dyddiol," ar "Genedlaetholiad Ysgolion Cymru." ac ar Dewi Sant," a siriolwyd y gynulleidfa gan yr olygfa o 1,600 o blant yr ysgolion dyddiol yn un cor mawr yn datganu mewn dull swynber hen alawon Cymru. WELE engraifft arall o waith y diafol" hwnnw yr ysgrifenai Cynddylan am dano y dydd o'r blaen. Mewn cyiarfod diwygiadol yn Ebenezer, Caerdydd, tystiolaethodd un gwr ieuancyn un o siopau y dref, fel y canlyn Rai blynyddau yn ol, yr oedd\yn mewn siop yn un o drefydd Cymru, a syrthiais i brofedigaeth trwy ysbeilio fy meistr o werth is. lIte. Wedi 2 dyfod o dan ddylanwad yr Ysbryd, y cyntaf peth a wnaethum ydoedd myned i'r Post Office a gyru'r swm gyda llog i'm hen feistr." HANNA Mr. W. J. Evans, arweinydd cor buddugoliaethus Aberdar, o deulu cerddorol. Mab ydyw i Mr. Rees Evans, yr hwn a fu am chwarter canrif yn aiweinydd cor Aberdar. Der- byniwyd y newydd am y fuddugoliaeth gyda brwdfrydedd mawr, a dywedir fod torf yn rhifo tua deng mil wedi ymgynnull yn y Market Hall i groesawu y cor ar ei ddyfodiad gartref. DYWEDIR fod Archesgob Caergrawnt wedi gwahodd un o glerigwyr mwyaf adnabyddus Cymru i .dalu ymweliad ag ef ym Mhalas Lam- beth, gyda'r amcan o gael ganddo hanes dechreued, cynnydd, a dadblygiad y Diwygiad yng Nghymru. YN ol y Western Mail, larll Cawdor ydyw y Cymro cyntaf i eistedd yn y cyfrin-gyngor er dyddiau Arglwydd Aberdar. Bydd yn newydd i lawer glywed fod y ddau bendefig a enwir yn Gymry. Campbell ydyw enw teuluol un, a Bruce y llall. PRYDNAWN Sul diweddaf bedyddiwyd amrywr o ddychweledigion yn yr hen afon Ddyfrdwys, gerllaw Carrog. Mewn ymddiddan ar ddiwedid y seremoni dywedodd y gweinidog, y Parch. W- B. Jones, Penycae, ei fod wedi bedyddio pym- theg-ar-hugain yn yr afon yn ystod y tair wythnos ddiweddaf. YR wythnos hon gwnaeth Mr. Balfour ymgais arall i lenwi esgobaeth Llandaf. Yr Archddiacon Bruce, Mynwy, ydyw y diweddaf i wrthod yr anrhydedd. Onid gwell fyddai i'r Prif Weinidog adael y dewisiad yn nwylaw y tri esgob Cymreig. Maent yn deall anghenion yr Eglwys yng Nghymru, maent yn adnabod y dynion sy'n gymwys i'r swydd, a sicr yw y buasai eu dewisiad yn profi yn adgyfnerthiad i'r Eglwys, ac nid i'r Eglwys yn unig, ond hefyd i'r yspryd cenedlaethol sydd yn awr yn nodweddiadol o honi. Gwr rhyfedd o barod ei eiriau ydoedd y Parch Evan Harries o Ferthyr. Un prydnawn Sadwrn, pan elai i'w gyhoeddiad, yr oedd afon Taf wedi llifo yn fawr, ac nid oedd ond rhyd a sarn lie yr ewyllysiai yr hen bregethwr groesi. Tra y safai ar y lan yn ceisio dyfeisio sut yr elai drosodd, pwy ddaeth yn mlaen ar ei farch ond Mr. Campbell, rector y dref. Adwaenai y ddau eu gilydd yn dda. Ac ebai y rector hynaws Mae'r ceffyl yn ddigon cryf i'n cario ein dau,. Mr. Harries. Mi ddisgynaf fi i chwi fod ar y cyfryw, a minnau o'r tu ol i chwi." Thai hi ddim o gwbl felly, Mr. Campbell. Aroswch chwi yn y cyfrwy ar bob cyfrif; ac mi ddof finnau wrth eich scil chwi. Y pregethwr gore yn olaf bob amser, syr."

Advertising