Hide Articles List

2 articles on this Page

Enwogion CymreigG-XXIII. Mr.…

News
Cite
Share

Enwogion CymreigG-XXIII. Mr. William Abraham (Mabon), A.S. [Drwg genym i ni fethu cael y "block" o wrthrych y bywgraffiad hwn mewn pryd. Caiff ymddangos eto.] YMHLITH y lliaws cyfnewidiadau a effeith- iodd y chwarter canrif diweddaf yn nod- wedd gwleidyddiaeth Brydeinig nid y lleiaf ei bwys ydyw amlhad cynrychiolwyr Llafur yn Senedd y wlad. Estyn yr etholfraint i bob ty-ddaliwr, ad-drefnu yr eisteddleoedd, a thynnu i lawr gostau etholiad a wnaeth hynny yn bosibl. Cyn "S 5 yr oedd y ffordd i'r Ty a elwid yn Dy y Cyffredin yn gloedig rhag pawb oddigerth pen- defigion a gwyr arianog, a phrin y gellid dweyd fod y werin yn cael ei chynrychioli yno o gwbl. Erbyn hyn y mae pethau yn dra gwahanol. Ceir yn y Ty heddyw nifer liosog o ddynion sydd yn hannu o'r bobl, yn deall eu sefyllfa, yn brofiadol o'u hanghenion, ac yn cydymdeimlo yn drwyadl a'u dyheadau. Ofnai rhywrai y byddai i'r cyfnewidiad dynu i lawr urddas ac andwyo effeithiolrwydd y Ty, ond trodd y cyfryw ofnau allan yn gwbl ddisail. Mae cynrychiolwyr Llafur, oddigerth mewn achos neu ddau, wedi profi eu hunain yn gystal gwleidyddwyr a neb yn y Senedd ym mhob ystyr, ac wedi ennill parch ac edmygedd pawb ar gyfrif eu galluoedd uwchraddol; ac ni cheir un yn eu plith wedi cyfiawnhau gwaith y rhai a'i hanfonasant yno yn fwy llwyr na Mr. William Abraham, y gwr lwyddodd i ddringo i'r 5enedd=dy o'r Lofa. Bum-mlynedd-ar-hugain yn ol nid oedd nemawr neb tuallan i Gwm Rhondda yn gwybod am enw "Mabon." Erbyn hyn y mae yn air teuluaidd ym mhob congl o Gymru ac mewn llawer parth arall o'r byd, a'r gwr a'i pia yn hawlio lie sicr ymysg enwogion ein cenedl. Dringodd i'w safle anrhydeddus bresenol nid drwy gynhorthwy dysg nac arian, ond drwy rym cymeriad, cryfder dealltwriaeth, ffyddlondeb i argyhoeddiadau, ac ymroad diflino i wasanaethu achos y werin. Mewn bwthyn bychan ym mhentref Cwmafon, Sir Forganwg, y ganwyd William Abraham ar y 14eg o Fehefih, 1842. Enwei dad oedd Thomas Abraham, brodor o Lanfabon, yn agos i Bont- ypridd, ond a symudasai yn gynnar yn ei oes i ardal Cwmafon i weithio yn y mwnau copr. Yr oedd Mary Abraham, ei fam, yn wraig o duedd- ladau hyn6d grefyddol, a dywed Mabon yn ami ei fod yn fwy dyledus am ei holl lwyddiant i'r cyngorion da a gafodd gan ei fam ar yr aelwyd ym moreu oes tiag i ddim arall. Prin iawn oedd cyfleusderau addysg yn nyddiau ei febyd ef hyd yn nod i'r plant a feddent rieni yn alluog i fforddio ysgol iddynt, ac ychydig hyfforddiant a gafodd mewn Ysgol Genedlaethol fechan oedd y cwbl a gafodd y bachgen. Pan yn ddeg oed dechreuodd weithio yn y lofa, yn gyntaf fel doorboy, ac wedi hynny fel torwr glo—gorchwyl y daliodd i'w gyflawni am flynyddau lawer. Pan tua igeg oed priododd, ac yn fuan wedyn daeth yn Amser Caled lawn. Syrthiodd masnach y glo i gyflwr isel a dir- wasgedig, ac ni fedrai yntau, mwy nag eraill, ennill prin ddigon i gyfarfod angen ei deulu bychan. Er anhawdded ganddo ef a'i briod ffarwelio a'u pentref genedigol, bu raid symud. Ymsefydlodd yn Ngwaenarlwydd, yn agos i Abertawe, lie y cafodd waith, yn gyntaf mewn gwaith alcan, ac wedi hynny yng nglofa Caer- cynydd. Methodist selog yw efe o'i febyd, ond nid oedd achos gan y Methodistiaid yng Ngwaenarlwydd, ac ymunodd yntau ag eglwys y Bedyddwyr. Yr oedd er yn fachgen wedi talu sylw mawr i gerddoriaeth, ac wedi bod yn ar- weinydd cor plant pur Iwyddianus. Yn fuan wedi ymsefydlu yn ei gartref newydd, dewiswyd ef yn arweinydd cor yr eglwys, a gwnaed cytun- T deb rhyngddynt y cai yr arweinydd yn eiddo iddo ef hun bob dimai a fedrent ennill mewn c>stadleuaethau. Ni fedrai yr un o aelodau y cor fodd bynag ddarllen nodyn o fiwsig, ond ym- roddodd Mabon i'w dysgu, a bu mor llwydd- ianus fel ymhen y deunaw mis yr oeddynt wedi ennill dros ddeugain punt mewn cystadleuaethau. Dyna, meddai ef ei hun, y Tro ar ei Fywyd fu yn ddechreuad ei Iwyddiant. Rywbryd yn y cyfarfod hwn dechreuodd siarad yn gyhoeddus ym mhlaid dirwest, a rhoes hynny drachefn fan- tais fawr i'w ddoniau ymddadblygu. Bu tro pellach ar ei fywyd yn 1872. Yr oedd wedi dechreu pregethu efengyl Undeb y Glowyr yn fuan ar ol terfyn streic 1871, a thrwy ei ym- drechion a'i frwdfrydedd wedi llwyddo i ffurfio cyfrinfaoedd mewn amryvV byllau glo yn y cym- ydogaethau yma a thraw. Dewiswyd ef ei hun yn ysgrifenydd cyfrinfa Waenarlwydd, a dyna ei gysylltiad swyddogol cyntaf a'r glowyr. Ond nid oedd y rhan flaenllaw a gymerai ynglyn a hynny yn boddio goruchwyliwr y gwaith, a rhoes hwnnw ar ddeall iddo fod yn rhaid iddo naill a'i torri ei gysylltiad a'r gyfrinfa neu ynte ymadael o'r lofa. Dewisodd yntau y cwrs olaf heb unrhyw betrus- der, ac ymdaflodd gorph ac enaid i'r gorchwyl o uno a threfnu rhengau meibion llatur. Ni weithiodd fel glowr ar ol y dydd cyn y Nadolig, 1872. Yng Nghwm Rhondda. Cyn hir wedyn ymwelodd a Chwm Rhondda, a chynyrchodd ei areithiau hyawdl effeithiau dyfnion ym meddyliau glowyr y cwm poblog hwnnw. Yn 1878 dewisasant ef yn oruchwyliwr iddynt, a daeth ef a'i deulu yno i breswylio, lie y mae wedi aros, a lie yr erys mwy yn ddiddadl hyd derfyn ei oes. Cyflawnodd ei waith fel goruchwyliwr y dosbarth o'r dechreu gyda medr a doethineb nodedig. Gwelodd y gweithwyr fod eu buddianau yn bur ddiogel yn ei law, a rhoisant eu hymddiried llwyraf ynddo. Ym- laddai eu brwydrau fel gwr o ddifrif, ac etto gyda doethineb a gochelgarwch a brofent ei fod wedi ei eni yn gadfridog. Deallai holl gwes- tiynau cyfalaf a llafur yn drwyadl, a daeth y meistriaid hefyd i ddeall hynny yn bur fuan. Amhosibl mynegu gymaint yw dyled glowyr Cwm Rhondda i Mabon fel Is-gadeirydd Pwyll- gor y Lithr-raddfa, ac fel Cadeirydd Adran Llafur o'r Bwrdd Cyflafareddol. Llwyddodd i ennill iddynt fyrdd o ragorfreintiau, ac i derfynu llawer anghydwelediad yn heddychol, fuasai oni bae am dano ef wedi arwain i ganlyniadau alaethus i'r ddwy blaid. Pan roed aelod Senedd i Gwm Rhondda yn 1885 penderfynodd y glowyr wneyd ymdrech i'w anfon i Dy y Cyffredin. Yr oedd ef ei hun wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd cynrychiolaeth Seneddol Llafur drwy y blynyddau, Gan ei fod yn Rhyddfrydwr i'r earn cyflwynasant ei enw i Gymdeithas Ryddfrydol y Cwm, gan obeithio y buasai honno yn ei ddewis fel ei hymgeisydd. Ond syrthiodd coelbren y Gymdeithas ar un o'r meistri, a phenderfynodd y glowyr ddwyn Mabon allan fel Ymgeisydd Llafur. Etholwyd ef gyda mwyafrif o 865. Ryw unwaith wedyn yr aflon- yddwyd arno, ac yr oedd ei fwyafrif y tro hwnnw dros bum mil. Nid yw yn debyg yr aflonyddir arno mwy. Mae ei sedd, pa un bynnag a wneir neu beidio, mor ansigledig ag yw Moel Cadwgan. Ni bu yn hir Yn y Senedd cyn dangos yn glir ei fod yn sylweddoli mai drwy ei hen gyfeillion Rhyddfrydol y mae yr unig obaith i feibion Llafur gael eu hawliau. Ynwir, yn ol cyfarwyddyd amryw o honynt hwy yr aethai i'r ornest etholiadol ar draws dewisiad Cymdeithas Cwm Rhondda. Ni fu, ac nid oes a fynno ef ddim a'r dosbarth hwnnw a fynnant ffurfio Plaid Annibynol Llafur—dosbarth a wneir i fynu gan mwyaf o bersonau uchelgeis- iol nad ydynt yn fwy o feibion llafur nag aelodau Ty'r Arglwyddi. Cydweithredodd yn galonog a'r blaid Gymreig o'r cychwyn, a gwnaeth lawer i lefeinio yr holl blaid a chydymdeimlad ag anghenion y werin. Iddo ef hefyd y perthyn yr

Advertising