Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Y LLAETHWR A'R "PICTIWRS."
News
Cite
Share
Y LLAETHWR A'R "PICTIWRS." [Experts of the fine arts are discussing the collection of valuable coloured prints acquired during many years by an old man who trundles a milk barrow in the West of London. The connoiseur dealer is a Welshman. The other day a Lloyd's representative found the dairyman fine art collector in his little shop. His wife was present, and heard with surprise that her husband had made a reputation for himself as an art expert, and considerably over a thousand pounds worth of coloured prints were hanging on her walls. She confessed she had often re- proved him for his apparent folly of spending all his ..money on old "pictures," but now she knew the dealers would give her husband a cheque of £1,000 for his treasures]. Dwg y dyfyniad uchod o Lloyd's Weekly Newspaper, yr hwn hefyd a ail-argraffwyd yn y LONDON WELSHMAN bythefnos yn ol, ar gof gais ,ein Golygydd am ychwaneg o fanylion ynghylch y llaethwr nodedig a ddarganfyddwyd gan un o ohebwyr Lloyd's. Nid oedd ball ar gywreinrwydd y Golygydd, a cheisiodd drwy lawer -ymholiad ddod o hyd i'r gwr sydd wedi gosod urddasolrwydd ar y fasnach laeth, ond yn ofer. Yn ffodus, tra ar y tffordd i'r swyddfa un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, daeth ar draws gwr sydd yn gwybod mwy am Gymry Llundain nag pdld neb arall, a gofynodd iddo y cwestiwn oedd wedi ei ofyn ,ddegau o weithiau o'r blaen, A wyddoch chwi ivpwy yw y llaethwr sydd yn casglu hen bictiwrs ? Gwn," oedd yr atebiad, a rhoddodd yr enw a'r cyfeiriad yna ychwanegodd, ond cymerwch ofal pa fodd yr ewch atto, oherwydd mae'n flin iawn ganddo fod cymaint o gyhoeddusrwydd wedi ei roddi i'w hobby." Pari gyrhaeddodd y Golygydd y swyddfa y boreu hwnnw, yr oedd golwg mwy siriol nag ;arferol ar ei wyneb. Galwodd fi atto ar unwaith a dechreuodd siarad, Yr wyf wedi llwyddo i ;gael enw a chyfeiriad y llaethwr sy'n casglu „ pictiwrs. Ewch atto, a cheisiwch ganddo ychydig o'i hanes." Wrth derfynu, anogodd fi i fod yn ofalus. Hawdd oedd dod o hyd i Mr. J ond .anhawdd i'w ryfeddu oedd cael ganddo siarad ar y pwnc sydd yn agosaf at ei galon-bron mor anhawdd ag ydyw cael gan fachgen ieuanc siarad am ei gariad. Fel rheol y mae dwy ffordd-a dim ond dwy—i ennill ymddiried Cymro mewn gwlad estronol- Un ydyw drwy ddechreu ym- :gomio ynghylch ei gartref yng Nghymru, a'r .Hall drwy siarad ynghylch y capel, a chewri y pwlpud Cymreig. Pa mor sarug bynag y gall y Cymro fod, mae agoriad sicr i'w galon drwy y moddion hyn. Cafwyd prawf o hyn gyda Mr. J- (Cyn myned ymhellach gwell yw i mi ddweyd mai ar yr amod na wnelid ei enw yn hysbys y cyd- syniodd i ddweyd gair). Brodor ydyw o Aberys- twyth, tref sydd yn anfon ei meibion goreu i wareiddio y Saeson yn y brifddinas. Y mae wedi bod yn Llundain ers pum-mlynedd-ar-hugain, ac mae'r teulu yn addoli yn eglwys Jewin. Ond "er iddo fod yn alltud o Gymru am :gymaint o amser, yno y mae ei galon yn aros. Yn ei feddwl ef, fel lie i fyw, ac fel lie i farw, nid oes gymhariaeth rhwng Llundain fyglyd, baganaidd, a Gwlad y Bryniau. Fel pob gwir Gymro, y mae'n dyheu am gael noswylio yn yr hen wlad. Mae gan Mr. J ystor o adgofion am ei hen gartref yn Ceredigion. Y mae'n cofio yn dda y diweddar a'r anwyl Barch. David Charles Davies yn pregethu ei bregeth gyntaf, ac fel illawer un arall ddaeth i gyffyrddiad a Mr. Davies, y mae'n parhau i hiraethu ar ei ol. 0 dipyn i beth llwyddwyd i'w arwain i siarad ynghylch ei bictiwrs. "'Does dim i ddweyd," meddai, ond nid yw gohebydd Lloyds yn dweyd y gwir pan y dywed fod genyf bictiwrs gwerth mil o bunau. Ffrwyth ei ddychymyg ef ei hun yw hynny, ac yr oeddwn yn bur ddigofus ei fod yn dweyd y fath beth. Mae gen i bictiwrs da, 'rwyn gwybod hynny, a'r dydd o'r blaen 'roedd un o oruwchwylwyr y British Museum yma yn edrych drostynt. Dywedodd fod llawer o honynt yn werthfawr, a chynghorodd,fi i'w cadw am ychydig flynyddoedd ymhellach, ac yna, os dymunwn eu gwerthu, byddant yn werth dwbl yr arian a roddais am danynt." 1'r cwestiwn pa un yw ei hoff arlunydd, atebai Mr. J fod yn well ganddo waith Morland na neb arall. Atebiad eithaf naturiol ydoedd hwn, oherwydd apelia gwaith Morland yn arbenig at y rhai sydd wedi eu dwyn i fyny a'u magu yn y wlad. Yn nesaf at Morland gwell gan Mr. J waith Syr Joshua Reynolds, ac y mae hefyd yn bur hoff o weithiau Gains- borough, Romney, a Cosway. 9 Y mae esboniad Mr. J-- o'r modd y daeth i ddechreu casglu darluniau yn syml a dirodres. Prynu un i ddechreu, a lecio hwnnw." Dyna'r cwbl. Dipyn yn llawdrwm y mae ef ar yr expert, ac amlwg yw nad oes ganddo lawer o gariad tuag atto, mwy nag sydd ganddo at y dealer. Adroddai hanes un expert yn y West End gyda chryn flas. Dwg berthynas a darlun enwog Gainsborough o'r Duchess of Gainsborough, yr hwn a ladratawyd rai blynyddoedd yn ol. Rhoddodd yr expert ar ddeall fod y darlun yn ei feddiant, ac nad oedd ganddo yr un amheuaeth nad efe oedd y gwir a'r gwreiddiol ddarlun, a'i fod wedi talu pris uchel am dano. Ym mhen ychydig daeth y newydd fod y gwir ddarlun wedi ei ddarganfod yn yr America, a chan nad oedd os nac onibae ynghylch dilys- rwydd y darlun olaf, nid yn unig collodd yr expert ei arian, ond hefyd ei gymeriad yn ei alwedigaeth. I'r cwestiwn pa fodd yr oedd yn gallu canfod y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau mewn trafnidiaeth lie y mae twyll wedi ei ddyrchafu i fod yn oruwch na chelfyddyd, dywedodd Mr. J fod yn anhawdd iawn atteb mewn geiriau. Rhaid wrth brofiad maith ac astudiaeth fanwl. Ond y mae y papyr ar ba un yr argreffir y dar- luniau yn un o'r profion goreu. I rai sydd yn eu deall, y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng papyrau y dyddiau hyn a rhai gan mlynedd yn ol. Dyma swm a sylwedd yr ymgom am y darluniau. Dyn syml, dirodres ydyw y casglwr, ac y mae'n gas ganddo wneyd dim stwr yn eu cylch. Cefais y fraint o'u gweled, ac hyd yr wyf fi yn eu deall, y maent yn dangos chwaeth uchel ar ran Mr. J Purion peth fyddai eu cael i'r Amgueddfa Gymreig, ac os y lleolid hi yn Aberystwyth hwyrach y byddai loes y casglwr wrth ymadael a hwynt yn llai. A ydyw yn ormodiaith dweyd fod gwaith Mr. J yn gosod urddasolrwydd nid yn unig ar y fasnach laeth, ond hefyd a'r Gymry Llundain. Yr ydym yn hoff o honni, ac nid heb achos, fod diwylliant meddyliol yn fwy cyffredinol ym mhlith gwerin Cymru nag odid un genedl. Ond y mae Mr. J wedi torri tir hollol newydd. Ychydig sylw sydd wedi ei dalu i'r celfau cain hyd yn hyn, ac nid yw hyn yn beth i ryfeddu atto, oherwydd y mae y gost ynglyn a hwy yn eu gosod allan o gyrhaedd y werin.
WELSH CLUB FOR LONDON.
News
Cite
Share
WELSH CLUB FOR LONDON. Heads of the Scheme. Sir John Puleston and the members of the Provisional Committee of the proposed Welsh Club for London have issued a letter to London Welshmen for the purpose of removing some misapprehension as to the object in view and as to the means proposed of attaining it. They submit a scheme showing that the proposal is to establish a social club for (a) Welshmen living in London (i.e., within a radius of 10 miles of Charing Cross), who would be elected as town members (b) Welshmen living outside London, who would be elected as country members and (c) other persons not of Welsh nationality, but who are connected with Wales or Welsh institu- tions or affairs, whose place of residence would decide their election either as town or country members. The membership will be open to persons included under above heads without regard to any difference of political or religious creeds. In character and management the Club will be similar to the other social clubs in London. It was originally proposed that a limited liability company should be formed to carry on the Club, but the Provisional. Committee have decided that such a project is not feasible. The Provisional Committee submit that the need for such a Club is apparent when the fact is recalled that as Welshmen pure and simple, detached from all labels of party or sect, they have absolutely no common and constantly avail- able place of meeting. Other nationalities have their clubs in London, but Welshmen none. Moreover, the need is growing year by year because the number of Welshmen who settle in and who visit London, in the legal, medical, and other professions, and in commercial pursuits, is rapidly increasing, and it is believed that such a club properly constituted would offer many ad- vantages. As to the subscriptions to and the management of such a Club, it is suggested that there should be no entrance fees for the first 500 town mem- bers or for the first 300 country members, and that the annual subscription should not exceed two guineas for town members and one guinea for country members. As to accommodation, premises, are now vacant at 4, Whitehall-court, which appear to be centrally situated and in all other respects suitable. As to financial requirements, the committee think the outgoings would be covered by sub- scriptions amounting in the aggregate to 1,000 guineas per annum derived from 35° town mem- bers at two guineas each, and 300 country mem- bers at one guinea each, and that they are under-estimating the number of,country members, and that they are placing the number of town members at a prudently modest figure. A member's liability is, limited to the amount of the annual subscription.
MARWOLAETH MR R. GRIFFITH.
News
Cite
Share
MARWOLAETH MR R. GRIFFITH. Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf bu farw Mr. Robert Griffith yn dra sydyn, dydd Mercher, Chwefror 22ain, yn ei breswyl- fod yn Liundain. Rhyw ddeng niwrnod yn flaenorol tarawyd ef gan ergyd trwm o anwyd, yr hyn a drodd yn enyniad yr ysgyfaint, ac er y credid ei fod yn cael y goreu ar yr anhwyl- deb daeth y diwedd yn dra annisgwyliadwy tua chwech o'r gloch yr hwyr, nos Fercher. Brodor o Fangor oedd Mr. Griffith, a gan- wyd ef yn y dref honno rhyw 41 mlynedd yn ol. Daeth i Lundain yn 1882 a bu'n gwasan- aethu yn rhai o'r argraphdai yma am rai blynyddau. Yna ymunodd ef a Mr. Chant gan sefydlu masnach yng nghymydogaeth City Road ar eu cyfrif eu hunain. Oddiyno symud- asant i High Holborn, lie y cychwynasant y LONDON WELSHMAN am y tro cyntaf, yn 1894. Yr oedd yr anturiaeth y pryd hwnnw yn ormod iddynt, a bu'r colledion a gawsant ynglyn a'r papyr am yr ychydig fisoedd ei dygwyd allan yn ddigon i effeithio ar eu masnach fel bu raid gwerthu'r cyfan. Ar ol hyn bu mewn amryw leoedd ac yn dra llwyddianus fel goruchwyliwr mewn rhagor nac un masnachdy mawr. Beth amser yn ol daeth i'r ffirm hon fel cysodydd, ac ni fu yma yn hir cyn enill y safle bwysig 0 oruchwyliwr, gan ofalu am rai o'r prif gyhoeddiadau a droir allan o swyddfa'r Mri. Harrison. Yn mis Medi diweddaf trefnodd gyda'r ffirm i ail-gychwyn y LONDON WELSHMAN, ac er mwyn sicrhau ei safle a dwyn allan bapyr teilwng o Gymry'r ddinas prynodd hawlfraint y Celt a sicrhaodd y rhai oedd ynglyn a hwnnw i fod yn gefnogwyr i'w anturiaeth fawr. Bu'r gwaith ychwanegol yn gryn dreth ar ei gyfansoddiad gwan, a phan ddaeth yr anhwyldeb sydyn nis gallodd ei ddal, ac er pob ymdriniaeth feddygol bu raid i "poor Bob" ffarwelio a'i deulu a'i bapyr yn gynar yn ei fywyd. Gedy wraig a phump o rai bach ar hanner eu magu i alaru eu mawr golled pan ar ddechreu eu gyrfa. Claddwyd ef yn West Norwood Cemetery prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, a daeth torf barchus o'i hen edmygwyr a'i gydweithwyr i dalu'r deyrnged olaf o barchi'w goffadwriaeth, a gwasanaethwyd ar yr amgylchiad galarus gan y Parch. S. E. Prytherch, Falmouth Road. Nawdd Tad yr Amddifaid fo dros ei weddw .a'i .blant yn awr ddu eu trailed) a boed i Bob gael cwsg dawel yng nghongl unig Claddfa Norwood.