Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yn Nghymru. NID yw Mr. David Jenkins yn credu y buasai yn golled o gwbl i Edward German lynu wrth ei enw bedydd, Jones, mwy nag y mae Misses Mary Davies a Maggie Davies, Ben a Ffrangcon Davies, ac Evan Williams. MAE Pwyllgor Addysg Dinbych newydd fod yn adferteisio am swyddogion i edrych ar ol y plant sy'n chwareu truant. Dim ond dau oedd eisiau, ond cawsant gant a hanner namyn pedwar o geisiadau. Beth sy'n bod, tybed ? Ai prinder gwaith, ynte gwanc am swydd esmwyth ? BYDD yn dda gan gyfeillion y Parch. Gwyn- fryn Jones, yr hwn sydd wedi bod am rai misoedd yn Neheubarth Affrica er mwyn ei iechyd, ddeall ei fod yn graddol wella, a disgwylir y bydd cyn bo hir yn ymafael yn ei waith yn Llandudno fel olynydd i'r Parch. David Jones ar y Gylchdaith Wesleyaidd. GWAHODDODD Methodistiaid Calfinaidd Rhyl Evan Roberts i dalu ymweliad a'r dref honno. Derbyniwyd atebiad i'r perwyl nad yw y Diwyg- iwr hyd yn hyn wedi gwneyd ei feddwl i fynu pa bryd y del i Ogledd Cymru. BWRIADA Ceidwadwyr Arfon wrthwynebu ail- etholiad Mr. Bryn Roberts a Mr. William Jones, er nad ydynt etto wedi dewis eu hymgeiswyr. Gwell o lawer fyddai iddynt arbed y draul, a'i rhoddi i'r tlodion. GWR anffodus ar lawer ystyr ydyw Mr. Alfred Davies, ond yr anffawd fwyaf a ddaeth i'w ran ydyw fod y Journal, Caerfyrddin, a'r Cambrian, Abertawe, wedi ei gymeryd dan eu hesgyll. Os bu erioed gan ddyn achos i weddio, Lord, save me from my friends," Mr. Alfred Davies yw y gwr hwnnw. RHODDODD y Cymro aiddgar hwnnw o Gaer- dydd, Syr Edward Reed, ei bleidlais yn ffafr y Llywodraeth yn yr ymraniad ddydd Iau di- weddaf. Fe ddel dydd pryd y bydd raid rhoddi cyfrif am bob pleidlais segur. RHAI yn edrych ar y dyfodol gyda'u dau lygad yn agored ydyw pobl y Drefnewydd. Maent newydd bennodi swyddog meddygol, gyda chyflog o £ 90 y flwyddyn, ar y telerau nad yw tra y deil y swydd i ymofyn am godiad yn ei gyflog. PWNC sydd yn achosi cryn helbul yng Nghwm Aberdar y dyddiau presennol ydyw hawl yr athrawon i gosbi plant yn yr ysgolion dyddiol. Yn diweddar, darfu i un o'r is-athrawon yn Ysgol Ynyslwyd, Aberdar, gosbi mab i un o aelodau Cynghor Dosbarthol Aberdar. Achwyn- odd y tad, a dygodd yr achos ger bron Pwyllgor Addysg Aberdar, yr hwn wnaeth ymchwiliad i'r achos. Yn canlyn yr ymchwiliad, cynygiodd yr achwynydd, fel aelod o'r Pwyllgor hwn, fod yr hawl o gosbi plant o hyn allan yn cael ei gyf- yngu i'r ysgolfeistr. Am hyn o sarhad, y mae athrawon cynorthwyol Aberdar wedi rhoddi mis 0 rybudd, y mis i ddechreu ar y dydd cyntaf o Fawrth. i MAE cwestiwn Addysg yn achosi tipyn o gyn- hwrf yn Meirionydd ac yn y Barry, ond y mae yn dawel a heddychol yn y lleoedd hyn o'u cymharu ag Arigna, Roscommon, lie y mae y Cynghorwyr Dosbarth wedi eu hesgymuno am feiddio gwrthwynebu yr offeiriad Pabaidd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
D COOKSEY tc SON, Inexpensive & Modern Funepals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. »P Carriage Department, 97, GHAPEL STREET, telephone Nos 30 and 601, KING'S CROSS.
The Children's Column.
News
Cite
Share
The Children's Column. MY DEAR NIECES AND NEPHEWS, Some of you seem to be a bit puzzled by- something I said to you a fortnight ago about the letter zv. Dafydd writes thus :—" How do you make out that marw and chwerw are words of one syllable, and are you quite sure that you- are correct in your statement? My little Welsh spelling-book says that you are entirely wrong." Well, that knocked me down almost. How could you be so hard upon old Wncwl, Dafydd And the worst of it all is, that I and the spelling-book agree after all. If Dafydd will read what I wrote carefully, he will findi that I said that "some grammarians" will make out that the w is a consonant in certain cases, as in the end of such words as marw, &c., but- that my own opinion is that it would be much simpler to consider the w a vowel in every case. I hope Dafydd understands my view now. If the w is a consonant in marw then the word is only one syllable; if it is a vowel, then the word is two syllables. Let Dafydd stick to his little spelling-book until he is able to read and study more advanced works. Now for your task of the 18th of February. These are the correct answers to i and 2 1. He knocked me down. Tlze clock struck- ten. I happened to meet him on the road. It did not occur to me. .2. Mae y Diwygiadyng Nghymru. A oes eisieu bzoyd arnoch ? A ydyw eich tad gartrefl Beth sydd i giniaw heddyw ? Fe aeth fy chwaer i'r dref ddoe. Bydd llawer 0 blant yn y nefoedd. 3. The following are the prettiest Welsh names of girls, according to the votes:- Myfanwy, Megan, Olwen, Gwladys, Gwen. It is impossible to decide upon the sixth, as so many have received the same number of votes. The prize goes to "H ywel" this time. This is your next task 1. Write out a list of as many Welsn pre- positions as you can remember. 2. Write sentences containing the Welsh equivalents of the following English expressions :-out of into, beyond, below, by, underneath, about. 3. Give a few sentences showing the letter a used as an article, a verb, and a pre- position. Send your replies by Thursday addressed, as usual, to Wncwl Huw," care of LONDON WELSHMAN, 45, St. Martin's Lane, W.C. i,
Advertising
Advertising
Cite
Share
WYBROW & SON, 222, Coldharbour Lane, Lougbborough Junction, S.W. INEXPENSIVE AND MODERN FUNERALS In Town or Country, at stated charges which in all cases are moderate. PRICE LIST ON APPLICATION. Distance- no object
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
DADLEUIR gan Syr John Williams a'i bleidwyr nad yw Caerdydd i'w gydmaru o gwbl ag Aber- ystwyth fel cartref y Llyfrgell Genedlaethol. Nid mewn trefi mawrion, trystfawr, y dylasai Llyfrgell Genhedlaethol fod, ond mewn trefi bychain, tawel, yn meddu ar awyrgylch ffafriol i gorph a meddwl yr efrydydd. Lie felly yw Aberystwyth, ac y mae rhagolygon casgliadau llyfrau Aberystwyth yn rhai eithriadol. Mae gan awdurdodau Coleg y Brifysgol yno eisoes gasgliadau llyfrau Owen Jones a Gwallter Mechain, a rhagolwg am lyfrgelloedd amhris- iadwy Peniarth, Syr John Williams, ac eiddo'r Cwrt Mawr. SIR Feirionydd roddodd flaenffrwyth Cymru Fydd i'r Senedd; a hi sydd eto ar y blaen yn y frwydr dros ryddid crefyddol ac ysgolion agored i bob enwad. MAE'R Parch. Abel J. Parry, D.D., yn brysur ysgrifenu ei hunangofiant. Bydd yn sicr o fod yn gyfrol ddyddorol, a dylai gael gwerthiant mawr. NID yw Mr. O. M. Edwards yn ffafriol i symud y colegau duwinyddol o Drefecca a'r Bala i Aberystwyth, ond mae'n debyg nas gwrandewir arno gan yr awdurdodau, yn enwedig pan mae aer Llandinam wedi cynyg y fath haeloni at y coleg newydd. Y BARNWR Vaughan Williams oedd y prif siaradwr yng ngwledd Gwyl Dewi a ro'ed gan Gymreigyddion Caerdydd. DIFLANU mae bwganod diweddaraf Cymru. Dywedir fod yr Esgob wedi dychrynu y bwcci yn Llanbedr allan o fodolaeth, ac mae ynadon Porthmadog wedi dirwyo bwcci'r lie hwnnw i bymtheg swllt a'r costau am wneuthur difrod. Yr unig ddirgelwch sydd yn awr yn aros yw goleuadau Mrs. Jones, Egryn, ac y mae y rheiny wedi cilio yn ol i'r tywyllwch i rywle. ADDAWA'R Parch. O. L. Roberts ysgrifenu cofiant i'r diweddar Barch. E. James, Nefyn. 'Roedd James Nefyn yn un o wyr mwyaf ffraeth y pwlpud Annibynol yn ystod y deugain mlynedd diweddaf hyn, ac mae'r storiau am dano yn ddirif bron. Os caiff O. L. o hyd i'r mwyafrif o honynt gwnant gyfrol lied ddigrif- ac yn llawn o ddywediadau gwerth eu cofio hefyd. DAW misolyn newydd allan yn fuan o dan olygiaeth Mr. W. R. Williams, Talybont. Ym- drin a hynafiaethau Cymru fydd yn benaf, ac addewir ynddo lawer o fanylion am yr hen ysgrifau Cymreig sydd yn guddiedig yn y Record Office a swyddfeydd eraill y wlad. YMGIPRIS am yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Gymreig mae prif drefi Cymru y dyddiau hyn, ac mae'n amlwg y ceir brwydr lied galed cyd- rhyngddynt. Yr hyn a dybir yn gyffredin yw mai Caerdydd a sicrha yr Amgueddfa, ac mai Aberystwyth gaiff y Llyfrgell, ond y mae'r cynygion a wneir gan Abertawe a Chaernarfon yn hawlio sylw, heb son am rai o'r trefi eraill. NID yw Ardalydd Mon, wedi'r cwbl, yn hollol dylawd. Mae ganddo rai trysorau yn ei feddiant nas gwyddai efe am danynt, ac ni wyddai ei ofynwyr ychwaith am un phiol werthfawr oedd yn eiddo'r teulu, yr hon a werthwyd yn Llundain yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn hen grair teuluol, ac ni chredid ei bod yn werth ond ychydig sylltau, eto pan ei rhoed ar werth aeth i fynu dros bedair mil o bunnau. CYFLWYNIR tysteb i Mabon un o'r dyddiau nesaf yma, ac mae'r swm o ddeunaw cant o bunnau wedi eu casglu i'w cyflwyno i'r aelod poblogaidd o'r Rhondda. Yng Nghaerdydd y cyflwynir y dysteb, a gwneir hynny ar ran y tanysgrifwyr gan Arglwydd Tredegar. MAE Ardalydd Bute yn mynd i gymeryd iddo ei hun gydmar bywyd, a'r ferch ddewisedig yw Miss Augusta Bellingham, merch un o farwniaid I enwog yr Iwerddon. Rhyw bedwar-ar-hugairt- mlwydd yw oedran yr Ardalydd ieuanc, ac y mae yn gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at feddu hanner tref Caerdydd, y mae gan y teulu' ystad fawr iawn yn yr Alban, a thai lawer yn Llundain. NID yw'r Parch. Fuller Mills, Caerfyrddin, yn malio botwm am Mr. Lloyd-George. Mae gan hwnnw, medd ef, ddigon o waith ar ei law ar hyn o bryd heblaw meddwl am ymyraeth a helynt etholwyr Llanelli a Chaerfyrddin. Oher- wydd ei ymlyniad wrth Mr. Alfred Davies ar ol i'r Gymdeithas Ryddfrydol ei wrthod, y mae Mr. Mills wedi gorfod ymneillduo o'r swydd o ysgrifenydd y Blaid yng Nghaerfyrddin.