Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
BROOK STREET PHARMACY (Established in Reign of George III.), ROBERT L. WHIGHAM M. P.S., -H-A CHEMIST,1-A- 22, BROOK STREET, BOND STREET, W. Prescriptions dispensed by competent assistants unde- persona! supervision and with the purest drugs. 'WHIGHAM'S LUNG LINCTUS, for Coughs, Asthma, &c., 13Jd. per bottle. ECTORAL LOZENGES, 13id. per box. 2 4GOUT AND RHEUMATIC PILLS, 13 £ d. per box. Telegraphic Address—"ALLOPATHY, LONDON.' Telephone No. 4,632 GERRARD. Medicines by post above 2/6 value sent post free.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Cooper, Dennison & Walkden, Ltd., 7 & 9, ST. BRIDE STREET, LONDON, E.C. WRIT 74, sc b,i, lffird I tRulditYlO I Der !Rblc t Blue,and C /MR it writes 9 Black- an intense and last,09 PRICES s. d. Imperial Quart = = = 2 6 Pint = = = I 6 Gallon Bottles, Stone = = 9 0 Half Gallon „ = = S 0 No Char;re on Bottles.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
ORGANYDD NEWYDD.—Y mae eglwys y Tabernacl wedi sicrhau gwasanaeth Mr. David Richards, A.R.C.O., fel organydd, a dechreua :ar ei waith cyn diwedd mis Mawrth. Mae Mr. Richards yn adnabyddus iawn yn y Deheudir, ac yn enwog fel cyfeilydd o'r radd flaenaf. Efe yw organydd eglwys Heol-y-Castell, Abertawe, ac mae wedi bod yn ymarfer a'r offeryn er yn foreu iawn, a chwareuai yn ami yn eglwys Glandwr pan ond yn 12 mlwydd oed. FEi. CYFEILYDD.—Cydnabyddir Mr. Richards yn un o'r goreuon yn y dosbarth ieuanc o gyfeilwyr sydd yn ein mysg, a rhydd Madam Patti ganmoliaeth uchel iddo, gan ei fod yn ami yn cael yr anrhydedd o chwareu i'r bencerddes o Gastell Craig-y-Nos. Bydd sefydliad Mr. Richards yn ein mysg yn Llundain yn gaffaeliad mawr, waeth mae galw parhaus am gyfeilwyr profedig yn ein prif gyngherddau. MR. S. T. EVANS, A.S.-Byr fu parhad taith briodasol yr aelod poblogaidd hwn, oherwydd cyn pen deuddydd ar ol rhoddi'r cwlwm bu galw am dano i ymddangos ger bron Ty'r Arglwyddi i amddiffyn y gweithwyr yn yr apel a ddygir ymlaen ynglyn a helynt y diwrnod diwaith. Bydd dyfarniad yr Arglwyddi yn un pwysig iawn i'r Undebau Llafur yn y wlad hon. HEN FEIBLAU.-Mae casgliad gwych o hen lyfrau Cymraeg gan Mr. Quaritch yn Piccadilly, ac yn ei gatalog diweddaraf cynygia ddau gopi o Feiblau Dr. Parry, cyhoeddedig yn 1620. Gofynir £r7 ros. am un, ac am y Hall—yr hwn :sydd mewn cyflwr gwell—^20. Y DIWYGWYR.—Ceir erthygl amserol ar hanes y Diwygwyr Cymreig a'u gwaith yn y rhifyn presenol o'r British Monthly. Mae darluniau rhagorol o Mr. Evan Roberts, Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, ac amryw o arweinwyr y mudiad yn y Deheubarth yn y rhifyn, ac mae'r ysgrif gan Elfed yn llawn o gydymdeimlad a'r hyn a wneir yn Nghymru heddyw. Y CVMMRODORION.-Mae cyhoeddiadau blyn- yddol y Gymdeithas hon ar gael eu dosbarthu ym mysg yr aelodau, ac yn unol a safon amcanion y Gymdeithas cynwysant bethau o wir werth llenyddol i ni fel cenedl. Yr erthygl a rydd fwyaf o waith i'r beirniaid fydd eiddo y Proffeswr Rhys ar darddiad yr Englyn. YR EISTEDDFOD.—Yn y rhifyn presenol ceir hanes llawn am wyl fawr Albert Hall, ac yn ein rhifyn dyfodol rhoddir y gwahanol feirniadaethau llenyddol a sylwadau ar y cor buddugol. CANU CYNULLEIDFAOL.—Rhaid addef nad oedd y canu yn y City Temple eleni i fyny a'r hyn a gaed yn y gorphenol. Beth sydd i gyfrif am hyn nis gwyddom, ond dylai'r pwyllgor ofalu am donau hollol adnabyddus ar wyl gyffredinol fel hon, fel ag i osgoi'r rheidrwydd o droi cwrdd mawl yn fath o ysgol gan gyffredin. Nid oedd hanner y dyrfa yn canu ar rai o'r tonau, a gresyn hynny pan y mae gymaint o hen alawon sydd tnor adnabyddus i bob enwad. YR AELODAU A'U GWAITH.-Mae'r aelodau Cymreig yn cadw yn lied ffyddlon wrth eu gorchwylion yn y Ty y dyddiau hyn. Gan fod y Weinyddiaeth yn dra bregus, a chais yn cael
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
ei wneyd yn ami am ranu y Ty, nis gall yr un aelod gadw yn mhell o gyffiniau St. Stephan am rai dyddiau eto. Dyna'r rheswm na welwyd mo honynt yn ein cynulliadau nos Fawrth. 'Roedd Mr. Lloyd-George i siarad yn Nghaer- loyw nos Fercher, ond gofynodd iddynt ohirio'r cwrdd hyd heno (nos Sadwrn), yr hyn a wnaed. CURO CHAMBE PLAIN. -Addefid gan bawb oedd o gylch Ty'r Cyftredin nos Fawrth fod araeth Mr. Lloyd-George y prydnawn hwnw yn un o'r pethau caletaf a draddodwyd erioed i gondemnio y gwr o Birmingham. Dangosodd Mr. George ei fod wedi meistroli'r ffigyrau ar bwnc y siwgr yn llawer gwell na phleidwyr y tollau, a rhagor na hyn, yr oedd y gwawd a daflodd ar Mr. Chamberlain, am ei fod yn gwrthod cydnabod ei ran yn ngosodiad ter- fynau'r fasnach hon, yn un o'r pethau mwyaf effeithiol a gaed yn y tymhor hwn eto. CYSTADLEUWYR LLUNDEINIG.-Er fod amryw o gantorion Cymreig y Brifddinas wedi ym- geisio, rhaid addef mai dieithriaid oedd mwy- afrif y rhai a ddewiswyd i ganu'n gyhoeddus yn yr Albert Hall. Ond caed eithriad foddhaus yn yr unawd baritone. Yr ail ar hon yn ddiau oedd Mr. Stanley Davies, un o fechgyn y Tabernacl. Y CLWB CYMREIG.—Hysbysir fod digon o addewidion wedi dod. i law Syr John Puleston a sicrha lwyddiant y mudiad ynglyn a'r Clwb os penderfynir ar ei gychwyn. Gan fod amgen pum cant o aelodau, y mae hyn yn galondid mawr i hyrwyddwyr yr achos, a disgwylir y gellir cynhal cwrdd o'r cefnogwyr o hyn i'r Pasg. COFIANT I'R GOHEBYDD. — Cyhoeddir yn fuan Gofiant i'r Gohebydd." I'r oes bresenol o Gymry'r ddinas mae enw'r Gohebydd bron yn anadnabyddus, ond i'r rhai sydd wedi darllen ein hanes yn y sixties a'r seventies gwyddant mai John Griffith-a rhoddi iddo ei enw priodol- oedd prif arweinydd y bywyd Cymreig yn Llundain. Er cof am ei enw ef y codwyd capel y Gohebydd, Barrett's Grove. Hen gyfaill i'r Gohebydd yw Mr. D. Jones, Commercial Road, a chaed adgofion hapus am dano mewn ysgrif yn ddiweddar oddiwrth Meirionfab." Ysgrif- enir y cofiant gan ei frawd, sydd yn awr yn byw yn Llangollen, a chyhoeddir y gyfrol gan y Mri. Gee, o Ddinbych. Y PARCH. JOHN MORGAN GIBBON.-Oherwydd fod ei iechyd yn pallu, gorfu i'r Parch. John Morgan Gibbon dynu yn ol ei addewid i anerch cyfarfod y bobl ieuainc yng Nghynadledd yr Eglwysi Rhydd yn Manceinion. SILVER STREET, STEPNEY GREEN.-Noson fythgofiadwy oedd nos Sabboth yn nghyfarfod y Genhadaeth Ddinesig. Teimlid fod awel y Diwygiad yn y lie. Yr oeddis wedi teimlo pethau rhyfedd ers wythnosau. Yn ychwanegol at Mr. Williams, cenhadwr (yr hwn sydd yn wael ei iechyd), yr oedd dau frawd a chwaer o King's Cross, ynghyd ag ysgrifenydd y nodiad hwn, yn bresenol. Ni a obeithiwn fod Caerludd o dan ddylanwadau y cawodydd bendithiol.- MAELOR. ST. PADARN'S WELSH CHURCH.—A Coffee Supper in connection with the above Church was held on February 16th. The chair was taken by Mr. Gyrn Davies. The artistes were Mrs. W. H. Evans, Clapton, who was most successful in her Welsh songs, and songs were also given by Misses Kate Davies, Lizzie Davies, and Rhoda Geer; and Messrs. Isaac Jones, Redmond, and Jones; a dialogue was given by Misses Cissy and Jennie Jones; recita- tions by Mr. Evans pianoforte solo by Master Walter Darby and a duet by Miss Elsie and Master Walter Darby. The refreshments were provided by Mrs. Evans, Plimsoll Road, Mrs. Jones, Bedfordbury, and Mrs. W. C. Evans. Mr. Theo. Davies and Mr. Isaac Jones acted as accompanists, and a successful evening was brought to a close by Mrs. W. F, Evans singing "Hen Wlad fy Nhadau