Hide Articles List

6 articles on this Page

CYNGHERDD CENEDLAETHOL.

News
Cite
Share

CYNGHERDD CENEDLAETHOL. GELLlR gyda phriodoldeb alw'r cyngherdd a gaed yn Nghapel Castle Street nos Sadwrn diweddaf yn genedlaethol yn ystyr lawnaf y gair. Cantorion Cymreig i ganu yno, caneuon Cymreig yn cael eu derbyn mewn hwyl Gymreig, a phrif siaradwr Cymru yn llywyddu ynddo. Yr oedd y neuadd yn llawn, a phrawf hynny fod cynulliadau Cymreig yn edmygu cyngherddau o'r nodwedd yma, ac yn sicr y mae mwy o hwyl gyda'r hen alawon arferol na chruglwyth o ganeuon T talaidd neu glasurol Seisnig, y rhai nas deallir yn gyffredin gan fyn) chwyr ein cyngherddau. Yr unawdwyr oeddent Mrs. Eleanor Jones, soprano Miss Margaret Lewis, contralto Mr. Ben Ivor, tenor; a Mr. Ivor Foster, baritone. Canwyd ar y chwibanogl gan Mr. Eli Hudson, ac ar y berdoneg gan Mr. Merlin Morgan. Am eu detholiadau a'u caneuon nis gellir rhoddi ond y ganmoliaeth uchaf. Yn wir, yr oeddent oil yn rhagorol, a sicr yw fod y dorf ddaeth ynghyd yn edmygu y wledd yn fawr iawn. Mr. Lloyd George oedd yn llywyddu, ond gan fod ganddo alwadau eraill yn gynarach ar y noson nis gallodd gyrhaedd hyd yn agos i hanner y rhaglen. Yn y cyfamser cadeiriwyd yn hwyliog gan Mr. John Hinds, a phan ddaeth yr aelod o Gaernarfon i fewn galwodd arno i anerch y dorf. ARAETH MR. LLOYD-GEORGE. Yr oedd yn ddrwg genyf nas gallwn fod yma ar y dechreu, ond yr oeddwn yn gorfod cwrdd a phobl ynglyn a'r helyntion Addysg yng Nghymru. Ond os mai cwrdd oedd hwnnw i drin pethau gwleidyddol, nid oedd naws yr awen a'r gan Gymreig yn absenol o hono. Priodol y gallwn ni Gymry gydganu yr hen alawon arwrol fel y gwneir yma heno, ac fel y buont o wasanaeth yn y dyddiau a fu, byddant o wasanaeth eto. Mae awr prawf Cymru gerllaw, yr awr i ddangos a yw yn meddu yr un gwrolder ag yn yr hen dreialon gynt. Yr oedd Cymru yn gallu canu erioed, ond yr oedd yn genedl hefyd ag asgwrn cefn iddi, ac ni fydd can ac awen yn fawr o werth i ninnau os na ddeffrown i'n cyfrifoldeb yn yr adeg bresenol yn hanes ein :gwlad. Mae'r Bwrdd Addysg yn mynd i daro Sir Feirionydd ym mhen pythefnos. Mae'r bygythiad wedi ei roi; am hynny, crynwch, 0 greigiau ym Meir- ionydd Mae pobl eraill wedi bod ers dros gan mlynedd yn ceisio tynu ei chreigiau i lawr a malurio ei mawredd, ond aros bron yr un y maent, ac nid ydynt yn ymddangos yn ddim yn llai i mi i'r hyn oeddent bymtheg neu ugain mlynedd yn ol, er cymaint y chwythu sydd wedi bod arnynt. Na, mae'n ofynol cael dwrn go galed a faluria greigiau Meirion

Advertising

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.I:

Advertising

CYNGHERDD CENEDLAETHOL.