Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
EISTEDDFOD ALBERT HALL.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD ALBERT HALL. f" I' Cystadleuaethau Rhagorol. V ,I PA le bynag y bo, y mae'r Cymro yn eistedd- fodwr pybyr. Mae'r hen wyl yn hoff gan ei galon, a rhydd iddi gefnogaeth parod bob amser os ei cynhelir ar linellau priodol. Yn eu cariad at yr eisteddfod a'u pybyrwch i gefnogi'r hen sefydliad, nid oes neb parotach na Chymry Llundain, a chaed prawf eglur o hyn yn y cynulliad mawr ddaeth i'r Albert Hall nos Iau yr wythnos ddiweddaf. Dyma neuadd fwyaf y ddinas, ac nid yw deng mil o eneidiau ond cynulliad parchus ar seddau y lie, felly yr oedd anturiaeth y gwyr a drefnasant fod yr wyl hon i gael ei chynal yno eleni yn gosod ar eu hysgwyddau gyfrifoldeb aruthrol, ac er i lu o anhawsderau ddod ar eu ffordd, eto mae'n hyfrydwch i nodi fod y cyfan wedi llwyr gyfiawnhau'r symudiad, ac i'r derbyniadau ar y noson brofi'n ddigon er cyfarfod yr holl dreuliau mawr yr aed iddynt. Er mai ynglyn a chapel y Metho- distiaid yn Falmouth Road y trefnir yr Wyl flynyddol hon, y mae wedi dod ers troion yn un o brif gynulliadau Gymry'r brifddinas. Flwyddyn ar ol blwyddyn mae'r torfeydd wedi tyrru i'r neuaddau a sicrhawyd ganddynt, ac er symud o le 1 le yn bur ami, gwelwyd wrth droi cannoedd ymaith o ddrysau'r Queen's Hall y llynedd y dylid sicrhau neuadd eangach fyth, ac ar Albert Hall, er mor ddiarffordd yw, y penododd y pwyllgor. Diffyg cyfleusderau teithio yn unig sydd yn milwrio yn erbyn poblogrwydd y neuadd hon gan Lundeinwyr yn gyffredin. I wyr c)foethog y West End pobl sy'n cadw eu cerbydau eu hunain y mae'n bob peth ag y gellir ddymuno, and mae'n sicr pe bae'r relwes mor gyfleus iddi ag ydynt i'r Queen's Hall y gwelid amryw gannoedd yn ychwaneg )no ar y noson hon. Fel yr oedd caed ^ynnulhad gwir foddhaus, a hynny ar noson nynod o anffafriol, gan i'r gwlaw ddisgyn yn dra chyson tua'r adeg yr oeddis i ddechreu ar y S^eithrediadau. Erbyn cyrhaedd y neuadd yn fuan ar ol chwech o'r gloch yr oedd y drysau eisoes wedi eu hagor, a'r torfeydd yn dylifo i iewn. Ond )r °.edd amheuaeth ym meddwl llawer o ddieith- riaid a safent o'r tuallan. Ar barwydydd y
[No title]
News
Cite
Share
Gan jod cynnifer o ddarluniau yn y rhifyn ZVn gctdawyd allan am y.troy gyfres oEn- ^ogion Cymreig"
Advertising
Advertising
Cite
Share
HENRY BOWN, Photographic Artist, 43, NEW/KENT ROAD. .298, Clapham Road, 31 and 33, Jamaica Road. High-class Work at Lowest Prices. Well recommended by Welshmen generally.
EISTEDDFOD ALBERT HALL.
News
Cite
Share
neuadd gwelid hysbysiad a ddarllena ar yr olwg gyntaf yn amheus. Dyma ef:- NO MEETING of the Mission THIS EVENING. Mae'n debyg mai at gyfarfodydd y Diwygiad o dan nawdd y Mri. Torrey ac Alexander y Photo London Stereoscopic and Photographic Co. ] ARGLWYDD FAER LLUNDAIN. (Llywydd yr Eisteddfod.) cyhoeddid y rhybudd camarweiniol hwn, a sicr iddo wneyd llawer o niwed i boblogiwydd yr Wyl Gymreig. Nis gwyddom ai yn fwriadol y gosodwyd y cyfeiriad at y genhadaeth mewn llythyren mor fan, ondy mae'n sicr y dylid osgoi yr hyn a debyga ar un wedd yn fath o dric Americanaidd i gamarwain pobl, yn enwedig pan ei cyhoeddir ynglyn a mudiad crefyddol fel hwn. Ond gan nad beth oedd amcan yr hysbysiad, ni wnaeth niwed o gwbl i'r Eisteddfod. Gwyddai'r Cymry Cymreig yn dda fod yr Eisteddfod i'w chynal yno, a heidient yn awr i'w seddau er mwyn sicrhau lleoedd manteisiol i wrando. Ar eu holau deuai'r corau meibion, gyda'u catrodau o edmygwyr, a chan fod yr oil o'r partion wedi cael maintais i gynal practice yn rhai o'r capelau Cymreig yr oe'nt yn lied obeithiol am ennill y gamp. Tyrrent yn llawn hwyl Gymreig i gyfeiriad y llwyfan, a thra y cymerent eu seddau yno rhoddwyd detholiad campus ar yr organ gan Mr. Merlin Morgan. Erbyn saith o'r gloch yr oedd yr orielau yn lied gysurus o lawn, a deuai gwyr y seddau blaen o un i un, a hynny hyd naw o'r gloch, fel erbyn i'r man gystadleuon orphen yr oedd y neuadd yn edrych yn lied fywiog. Rhoddwyd derbyniad cynes gyda hwyl Gymreig i'r Arglwydd Faer pan ddaeth i'r llwyfan, a chydag ef yr oedd y Sirydd a swyddogion yr Eistedd- fod. Wedi trefnu'r seddau ar y llwyfan, wele Llew Tegid yn agor y gwaith gyda sylw pert, fod yr hen Eisteddfod yn fwy byw heddyw nag erioed. 'I Mae geno ni leoedd mawr i'r Hen Wyl yng Nghymru, ond pan ddois i'r lie hwn fe fedd, lials mai wedi rhoi to ar Sir Fon oeddech. Mae geno ni raglen faith i fynd trwyddi, a chan mai dim ond am un dydd mae'ch tocynau chi, rhaid i chi beidio'n cadw ni yma ar ol hanner nos, neu fe fydd raid i chi dalu etto am fynd allan." Yna, wedi cydganu emyn, "0 Arglwydd Dduw rhagluniaeth," aed yn union at waith yr wyl, sef cystadleuaeth chwareu'r berdoneg, ac o hynny'n mlaen hyd yn mhell dros hanner nos buwyd wrthi yn brysur yn pwyso ac yn mesur y gwahanol gystadleuwyr. Y Dyfarniadau. Unawd ar y Berdoneg. Gwobr tair gini. Ymgeisiodd 25, a chwynwyd y rheiny i dri i ymddangos ar y llwyfan. Goreu, Miss Alice Edwards, Llundain. Traethawd ar Dylanwad Cymry Llundain ar Addysg a Llenyddiaeth Cymru yn ystod y Ganrif ddiweddaf." Daeth dau draethawd i'r maes am