Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yn Nghymru. RHODDODD pobl Barri groesaw ardderchog i Mr. Lloyd-George pan fu ar ymweliad a'r lie ddydd Sadwrn diweddaf. ABERTAWE, Aberystwyth, a Chaerdydd, sydd yn gweithio galetaf dros hudo y Llyfrgell a'r Amgueddfa Gyniraeg i ymsefydlu ynddynt. AWGRYMA ami i hen wag mai yn Llandrin- dod y dylid lleoli'r Llyfrgell Genedlaethol, gan mai yno y tyrra ein gwyr dysgedig i dreulio eu gwyliau haf. MAE Cymry Aberdar wedi bod ar fwriad i gynhal Eisteddfod Gymraeg yn y lie, ond gan fod y Diwygiad yn ffynnu yno, gohirir y trefniadau hyd ryw adeg yn y dyfodol. Byddai yn amheuthyn o beth i gael Eisteddfod wir Gymreig am unwaith. ER fod meddwdod yn lleihau yng Nghymru a'r tafarndai yn cwyno fod masnach yn wael, y mae'r ceisiadau am drwyddedau yn y llysoedd trwyddedol mor lliosog ag erioed, a chaniateir hwy gyda'r rhwyddineb sydd mor nodweddiadol o'r ynadon Cymreig. BU'R diwygwyr Americanaidd, Mri. Torrey ac Alexander, ar ymweliad a Chaerdydd yn mis Hydref diweddaf, ac yn ol y cyfrifon sydd newydd eu cyhoeddi, costiodd yr ymgyrch P £ 3>112 os. 5d. Casglwyd £877 yn ycyfar- fodydd, ond gwnaed y gweddill i fynu drwy gyfraniadau. Can punt roddwyd i Mr. Alexander a'i gynorthwywyr am waith y pedair wythnos. 'ROEDD y gantores Madame Patti yn 62 mlwydd oed, ddydd Sul diweddaf. Ond er mor lliosog ei blynyddoedd y mae'n dal yn ieuanc ei hysbryd a'i chan o hyd. YCHYDIG amser yn ol adeiladodd Mr. Pritchard Jones sefydliad pentrefol yn Niwbwrch, lie y ganwyd ef, a chyflwynodd ef i'r awdurdodau lleol. Mae yn awr wedi prynu dernyn o dir rhydd-ddaliadol yn ninas Llundain, a'r hwn y bwriada waddoii y sefydliad. Mae'r incwm oddiwrth y tir yn awr yn £255, ond cyn bo hir bydd yn agosach i £1,000 yn flynyddol. CVNALIWYD cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Tysteb Mabon yn Nghaerdydd y dydd o'r blaen dan lywyddiaeth Mr. Richard Lewis, Y.H. Gwnaed yn hysbys fod yr arian mewn Haw, ar 01 talu yr holl dreuliau, yn cyrhaedd y swm o ZI,732 5s. 6c., ac fod £36 is. etto i ddod i law. Penderfynwyd fod yr holl lyfrau casglu sydd allan i'w dychwelyd yn ddioed hefyd fod y dysteb i gymeryd y ffurf o ddarnau o plate gwerth tua £5°, ac fod y gweddill i fod mewn arian melyn. Gwahoddwyd Arglwydd Tredegar i wneyd y cyflwyniad ar ran y tanysgrifwyr. CYFARFVDDODD Syr Michael Hicks-Beach Fwrdd Cymodol Glofaes y De ddydd Llun diweddaf, i gwrando rhesymau dros 3 ac yn erbyn y cais am 31 y cant o ostyngiad yn y cyflogau. Rhoddodd y Barwnig anrhydeddus
Advertising
Advertising
Cite
Share
J. STRONG & SONS. Ltd.. HIGH-CLASS PIANOS, IIS, EUSTON ROAD. PIANOS BY THE HIRE PURCHASE SYSTEM AND ALSO FOR CASH. A large assortment by all makers is kept in Stock Terms from 10/6 per month. We undertake to say that better value and term cannot be obtained elsewhere.
Colofn y Gan.
News
Cite
Share
Colofn y Gan. SWN Eisteddfod oedd yn ein mysg yr wyth- t' nos hon, a mawr oedd y siarad ynglyn a hi. Gan ein bod yn mynd i'r wasg cyn i'r cystadleu- aethau gymeryd lie yn yr Albert Hall, nis gallwn son dim am y canu yn y rhifyn hwn. HENO, nos Sadwrn, cynhelir cyngherdd cen- edlaethol mewn cysylltiad a Chymdeithas Ddiwylliadol Castle Street. Nid oes angen dim eglurhad o barth i ba fath gwrdd a fydd hwn, oblegid y mae "cyngherdd cenedlaethol" Bedyddwyr Castle Street yn sefydliad blynyddol yn ein mysg erbyn hyn, ac yn rhan bwysig o'r bywyd cerddorol Cymreig. FEL rheol, caneuon Cymreig a genir yn y cyngherddau hyn, ac mae yn bleser nid bychan i. Gymro gael clywed caneuon ei wlad yn Llun- dain. Y mae'r dyddordeb ynglyn a'r cyngherdd eleni yn ddeublyg, oherwydd nid yn unig y mae dadganwyr poblogaidd wedi eu sicrhau i wasanaethu, eithr hefyd bydd Mr. Lloyd-George yn y gadair. Nos Fawrth nesaf cynhelir Cymanfa Gwyl Dewi yn y City Temple, i ddechreu am saith o'r gloch. Fel y gwelir mewn colofn arall, pregethau fydd prif nodweddion y Gymanfa eleni, ac y mae hynny, feallai, yn weddus a phriodol iawn, yn y Deffroad presenol. Ond, er hynny, nid yw'r ganiadaeth wedi ei hollol amddifadu, a diau y bydd yno ganu gwresog. Mr. Maengwyn Davies fydd yn arwain y canu, a Mr. Gwilym Rolands (organydd Capel. Holloway) fydd wrth yr organ. YNGLYN a Gwyl Sant Paul nid oes genym lawer i'w ddweyd rhagor na nodi y bydd yno bregeth, cor yn cael ei wneyd i fyny o gorau y gwahanol Eglwysi yn cael eu harwain gan sein- dorf filwrol; ac os ceir rhywbeth tebyg i'r hyn a gaed y llynedd, bydd yno ddigon o swn udgyrn. Ond gobeithiwn y gellir dweyd ar ol yr wyl, ddarfod iddynt gael "swn udgorn a moliant" yn wirioneddol yn y lie. Nos Iau nesaf cynhelir cyfarfod cystadleuol mewn cysylltiad ag Ysgol Sul Morley Hall yn Jewin. Y mae argoelion am gystadleuaethau dyddorol. Un o'r dyddiau nesaf yma bydd Syr Edward Elgar yn arwain un o'r London Symphony Concerts," pryd y perfformir detholion o'i weith- iau ef ei hun, Diau y bydd llawer o garwyr cerddoriaeth yn bresenol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
9 Guineas. AMERICAN ORGAN. Sankey model, eleven stops, including two knee stops, and the beautiful solo stops, voix celeste and vox humana -two octave couplers-handsome high case-in use about four months—20 years' warranty-easy terms arrangèd- packing and carriage free both ways on approval—full price paid will be allowed within three years, if exchanged for higher class instrument. D'ALMAINE & CO. (Established 120 years). 91, Finsbury Pavement, London, E.C. Open till 7 Saturdays 3. 15 Guineas. DUCHESS MODEL PIANO, by D'ALMAINE & CO. (Est. 120 years). Solid Iron Frame, Upright Grand-full compass, full trichord, check repeater action, &c.—in handsomely carved case- 4 [t. in height—in use only six months- sent on approval-carriage free both ways to any part of United Kingdom-twenty years' warranty-easy terms arranged—full price paid will be allowed if exchanged for a higher class instrument within three years. D'ALMAINE & CO. (Established 120 years) 91, Finsbury Pavement, London E.C. Open till 7 Saturdays 3.
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
ei ddyfarniad o blaid y gweithwyr ac yn erbyn y gostyngiad. Y MAE Mr. T. Westlake Morgan, organydd Eglwys Gadeiriol Bangor, wedi cyfansoddi anthem, Cenwch i'r Arglwydd." Cenir hi yn yr Wyl Genedlaethol yn Sant Paul nos wyl Dewi. DYWEDIR fod Syr Griffith Thomas yn barod i gyfranu mil o bunnau tuag at yr Amgueddfa Genedlaethol os sicrheir hi i Abertawe. Faint rydd Syr Griffith os lleolir hi yng Nghaemarfon, tybed ? PARHAU i ymledu y mae enwogrwydd a phwysicrwydd Mr. Lloyd George yn y byd gwleidyddol. Pellebrwyd digon o'i araeth yn York yn ddiweddar i lanw colofn a hanner o'r Montreal Witness-newyddiadur pwysig yn Canada; a gwnawd hyn ar archiad neillduol cwmni y papyr. GOLYGFA ryfedd welwyd yng Nghaernaxfon ddydd Gwener diweddaf, pryd yr ymdeithiodd dau-ar-bymtheg o grwydriaid, o dan ofal chwech heddgeidwad, o'r Tlotty i lys yr ynadon, i ateb y cyhuddiad o wrthod cyflawni y dasg ofynol. Danfonwyd yr oil ohonynt i'r carchar am fis o amser. Nid oedd yr un Cymro yn eu plith. MEWN arwerthiant ym Mangor yr wythnos ddiweddaf, talodd Mr. Bernard Quarritch, y llyfrbryf enwog o'r ddinas hon, £ r 5 I am gopi 0 Shakespeare's Comedies, Histories, and Tragedies." DYWED Syr Joseph Lawrence, yr aelod dros Fwrdeisdrefi Mynwy, nad oes sail i'r si ei fod ar fedr ymddiswyddo. 1'r gwrthwyneb, bwriada lynu wrth Mr. Balfour hyd nes y tyrr yretholwyr y cysylltiad. Y MAE Mr. R. A. Naylor, yr ymgeisydd Toriaidd yn erbyn Mr. Lloyd-George, yn hynod egniol yn ei ymdrechion i wthio ei hun i ffafr yr etholwyr. Mae tuedd yn y Rhyddfrydwyr i ddibrisio ei ymgeisiaeth. Gresyn hyn, oherwydd dyna y ffordd iddo lithro i mewn i'r Senedd. PWY ddywed bellach fod Caerdydd yn dref Gymreig ? Rhifa heddlu y lie ddeugain a deu- gant, ac o'r nifer hwn nid oes ond pedwar yn dwyn yr enw hyglodus Jones." HVD yn hyn y tafarnwyr yn unig sydd wedi bod yn cwyno oherwydd effaith y Diwygiad ar eu masnach, ond wele yn awr y cigyddion hefyd yn canu yn y cywair lleddf. Yn Rhosllanerchrugog cwynant fod lleihad dirfawr yn eu derby niadau, drwy fod y gwragedd, yn lie aros gartref i gogino, yn mynychu y cyfarfodydd diwygiadol. Creclwn mai sarhad ar wragedd Rhos yw hyn. Nid yw meibion Cymru, fel rheol, yn foddlon byw ar yr hyn a eilw y Sais yn "angels' food." AWGRYMA'R Genedl y dylai'r AVeinyddiaeth Ryddfrydol nesaf greu swydd newydd i Mr. Lloyd-George, sef "Ysgrifenydd dros Gymru." Mae gan yr Alban a'r Iwerddon eu swyddogion arbenig, ond am Gymru druan daw o dan un o adranau cyffredin y Saeson sydd yn nghymy- dogaeth Whitehall. HYBYSIR fod esgobaeth Llandaf wedi ei chynyg i'r Archddiacon Edmondes, ond ei fod, ar ol ystyriaeth fanwl, wedi ei gwrthod. Nid yn ami y mae personau yn gwrthod y fath anrhydedd a hyn, a sicr nad aiff y safle ym mhell cyn y bydd rhywun yn barod i'w derbyn. YN 01 Mr. Massingham, y mae gan y Llywod- raeth i ddiolch i briodas Mr Sam Evans am na chawsant eu curo mewn pleidlais ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd amryw o'r aelodau wedi mynd i'r briodas, a phe baent yn y Ty yn gynar yn y prydnawn cawsai Mr. Balfour a'i blaid eu hunain yn y lleiafrif.