Hide Articles List

3 articles on this Page

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…

News
Cite
Share

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. Y DECHREUAD. Bu y Diwygwyr Cymreig Howell Harris, Daniel Rowlands, a Howell Davies, amryw weithiau yn Llundain yn cymeryd arolygiaeth y Tabernacl, capel Mr. Whitfield, a dywed tra- ddodiad y byddai Harris a Rowlands yn arfer pregethu i'r Cymry yn Lambeth Fields, lie yr arferent ymgasglu ar brydnawn Sul i ymddifyru gyda rhyw ofergampau tebyg i wyl Mabsant, a elwid "Ffair Lambeth." Bu y Diwygwyr hefyd, wedi hyny, meddir, yn pregethu mewn ty yn Lambeth, yn agos i dy yr Archesgob. Nid oes wybodaeth sicr ynghylch maintioli na ffrwyth y llafur boreuol hwn. Ond fe ddaeth amryw Gymry yn aelodau yn Eglwys y Tabernacl, ac yn eu plith Edward Jones—gwr genedigol o Lansannan, a Griffith Jones, o Bentreuchaf, Sir Gaernarfon. Yr oedd E.J. wedi bod yn filwr. Wedi ymadael o'r Life Guards, trodd i gadw ty tafarn, ond byddai ei dy yn nghauad yn wastad ar y Sabboth. Darllawydd diod fain oedd Griffith Jones. Syn- dod meddwl mai dau wr o'r fath a ddefnyddiwyd i agor drws i'r efengyl gyrhaedd y Cymro uniaith yn Llundain. Tebygol fod Edward Jones wedi dechreu cynghori pan ymysg y Saeson ac yn y flwyddyn 1774 efe a gymerodd ystafell yn Cock Lane, Smithfield, i bregethu ynddi i'w gydgenedl yn Gymraeg. Buasai cyn hyn yn pregethu iddynt mewn gwahanol fanau ar hyd y dref. Yn yr stafell hon, ar y dechreu, Griffith Jones fydd>'i yn rhoddi allan yr hymnau ac yn arwain y canu, ac Edward Jones yn pregethu a'r ddau gyda'u gilydd yn arolygu y cyfarfodydd eglwysig. Elai Edward Jones i Gymru bob blwyddyn i geisio cyhoeddiadau, ac i osod achos Llundain ger bron y frawdoliaeth yno ac ymysg y rhai cyntaf a ddaethant yma ceir enwau Robert Evans, Llanrwst; Dafydd Cadwaladr; John Prydderch, Trecastell; a Jones, Llangan. Par- hawyd i addoli yn yr ystafell yn Cock Lane hyd y flwyddyn 1785, pryd y cafwyd tir gan y Gold- smiths' Company yn Wilderness Row i adeiladu capel arno. Yn fuan ar ol adeiladu y capel hwn daeth dau bregethwr yma i fyw, sef Daniel Jenkins, mab-yn-nghyfraith i'r enwog Daniel Rowlands, Llangeitho, ac un Thomas Thomas. Cytunasant, cydrhyngddynt, i gychwyn achos arall yn Gravel Lane, yn y Boro', mewn cysylltiad a Wilderness Row. Oddiyno, ym mhen rhai blynyddoedd, y dechreuwyd myned i Deptford i bregethu. Nid oes na manylder na threfn hanesyddol, heb son am gyflawnder, yn perthyn i'r pennodau hyn yn hytrach, gwasanaethant fel cynnifer o ddolenau rhyddion, i'w rhoddi mewn cadwen gan law alluocach a mwy celfydd. I.-Erledigaeth. Gan mlynedd yn ol yr oedd bardd o'r enw Edward Charles, brodor o Glocaenog, Sir Ddin- bych, yn byw yn Llundain. Yr oedd efe yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, ac yn ysgrifenydd y Gymdeithas yn y flwyddyn 1796. Daliai hefyd y swydd o Fardd i'w Gymdeithas yn 1800, a thrachefn yn 1810. Yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Cymerodd y dyn hwn yn ei ben-ac y mae beirdd yn fynych yn fodau peryglus iawn-i erlid y Methodistiaid: nid trwy ei lluchio a llaid a cherig, fel y gwnaed lawer gwaith yng Nghymru, ond trwy ysgrifenu unwaith ac eil- waith yn eu herbyn, a'u diraddio ar g'oedd gwlad. Gwelais lyfr enllibus o'i waith; ac, megys y cafw) d mel o ysgerbwd y Hew, cefais innau un ffaith ddyddorol o fudrwaith yr enllibwr hwn. Teitl y llyfr sydd fel y canlyn "Epistolau Cymraeg, at y Cymry, gan Edward Charles, Awdwr Llythyr y Pregethwr Bol Clawdd ar Teiliwr bongleraidd, yn y Pedwarydd Rhifyn o'r Cylchgrawn C)mraeg, gyhoeddwyd yn Nghaerfyrddin, 1793 > ac Awdwr y Llythyr, Golwg ar y Seren tan Gwmmwl, yn y Rhifyn Cyntaf o'r Geirgrawn Cymraeg a gyhoeddwyd yn Nhreffynon, 1796. Llundain Argraphwyd, z;1 i'r Awdwr, Mehefin, 1797 ac ar werth gan H. D. Symonds, Paternoster-Row. Pris Chwech Cheiniog. 16 plyg, 38 o dudalennau. Chwech o Llythyrau." (0 Ail Epistol Edward Charles at y Cymry, yn eu hannog hwy i beidio a rhoddi gormod o'u hyder ar Bregethwyr y Methodistiaid y dyddiau hyn) "Fy ANWYL GYDWLADWYR,—Mae'n alarus meddwl eich bod chwi, y Cymry, pa rai a fu gynt yn rhagorol wybodus yn y grefydd Grist'- nogol, yn awr yn cymmeryd eich hudo, gan ddynion yn ol eu dull bregethol, sy'n bloeddio ac yn rhuo, braidd yn grochach eu nadau na Theirw'r meusydd. Yr ydwyf yn meddwl am y bobl hyn, eu bod yn barod i haeru, os digwydd i ryw un o honynt fod yn ymddangos yn ddifrifol iawn, ar yr olwg oddi allan, ac yn dechre dyweyd gras o flaen bwyd, a gweddio weithiau tan y Pwlpud,, a dyweyd Amen fyth, a rhoi ymbell ochenaid gwynfanus, y gaill hwn yn union fyn'd i bregethu, pe ba'i heb fedru gymmaint ag un lythyren ar lyfr; ond rwy fi n meddwl yn llwyr i'r gwrthwyneb, ac yn tybio mai gwr ydyw'r hurtyn hwnw, prysur heb ddiolch, a chwannog i swydd-ymgais a rhyfyg, ac y mae mawr anglod i'r Cymry, fod yn gwrando ac yn dilyn y fath ddynion bloeddgar, disynwyr, a safnrythlyd. Nid oes na dawn, na moese da, na gwybodaeth rhesymol yw gael ganddynt, ac yn benna dim, fel y mae'n druenus dywedyd, nid ydynt mwy galluog, i esponio gwir ysbrydoliaeth yr Efengyl, na phe bai'd yn rhoddi Affrican gwyllt i wneuthur hyny. Ymhellach, rw)'n meddwl mai dynion gormesh d ydynt hwy, ac yn dwyn gwaith gwyr eraill o'u dwylaw, ond pe bae'nt wrth hynny, yn gwneuthur gwaith rhagorol ar bregethiad yr Efengyl, di-gwyn fyddai gwrando arnynt; ond y maent hwythe wrth hynny, yn gwneud mwy o gan-ddryll waith ar y Bibl, nac y wnaeth Oliver Cromwell yn ei holl amser, a'r Gestyll oddi amgylch y wlad." [A ymlaen yn y dull yma.] Rwy'n cofio ddarfod imi fyn'd yn y flwyddyn 1795, ar brydnawn Sul, i fan a elwir Llanbeth, yng nghwr Llundain, i wrando ar rhyw ddyn gorchestol, meddent hwy, a bregethodd yn Gym- raeg, mewn trol yn Mackside, rhyw dy cwrw yno; dyn oedd hwn, fel y dealles, o Greigiau Sir Gaernarfon, wedi dyfod i Lundain ar ei dro i bregethu i'r Cymry ond am ddull y dyn hwn yn pregethu, o'r holl bethe ar a welais i, yn fy oes, yn wir, ac ar fy nghydwybod, ni welais, ac ni chlywais, unrhyw bethe gwrthunach, ac anghymwysach, a distadlach, na dull y dyn yma'n pregethu; mae'n sicr, mai gan fwch Gafr yn y creigiau, y dysgodd ef bregethu. Yr oedd yn bloeddio, fel be b'asai yn hela llwynog ac yn corn-grygu, a safnrythu, yn waeth ei drefn, nac y dichon i un dyn gwallgofus fydd fod. Meddai ef, o uchder ei ben, Haleliwia bob cam, o Lambeth i'r Nefoedd. Amen am byth. Dyma ddiwrnod i'w gofio am byth.' Os dywed neb mai bloeddio am yr ucha, a dywedyd rhigymau anystyriol ac anrhesymol, ydyw'r iawn ffordd i bregethu'r efengyl, mi dafla finne fy Mibl i'r tan, ac nid af i glywed pregeth mwyach. Nid ydyw'r dynion hyn ddim yn llefaru'n ddyfeinyddiol, nac ysgrythurol, na rhesymol; nid hwyrach, meddai chwithe, Pa beth, ynte, mae'nt yn ei lefaru ? Chwedleuon gwyr-draws, anfedrus a diles, ac a faswn yn 'sgrifenu yn chwaneg o honynt yma, oni b'ai imi wybod, y b'asai hynny yn anurddo fy epistol. Yma terfyn yr Ail Epistol. "Llundain, Chwefror y 15fed, 1797." Ond pa fath ddyn oedd Edward Charles ? Gwnaeth gerdd erbyn Cylchwyl (neu Gylch- wyledd y Gwyneddigion, Llundain, 1799. Cynwysai y gerdd 210 bennillion. Rhydd y pedwar pennill olaf ddrychfeddwl cywir am chwaeth a chymeriad y cyfansoddwr :— 18. Boed iechyd i'r cyfeillion Sy o daeutu'r bwrdd yr awron Mawr ddedwyddwch yn ein dydd, A chynydd heb achwynion. 19- O'n blaen doed Mail o China 0 ddeugain chwart yn gyfa A Gwin o'r seler moeswch hwn Tra fyddwn yn cyfedda. 20. Cael Gwydrau fo'n disgleirio Fal lleufer ser yn gwibio, Oddeutu'r foil tywynu wnant, A mwyniant pawb a'i mynno. 21. Hai, llanwn pawb ein Gwydrau, Ac yfwn hyd y borau Mewn llawenydd mynwn fod, Ein gwirod fydd o'r gorau. (I barhau.)

Advertising

OUR PATRON SAINT.