Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

News
Cite
Share

Am y Diwygiad. YN ardal Aberaeron y bydd y diwygiwr, Mr. Evan Roberts, yn ystod yr wythnos ddyfodol. Da genym ddeall ei fod yn llawer gwell o ran iechyd yn awr nag yr oedd rhyw bythefnos yn ol. GAN fod cymaint o redeg i. Gymru er gweled effeithiau'r Diwygiad, priodol y cofnoda un gohebydd ei newyddion lleol fel hyn, "Er fod y dieithriaid wedi ein gadael, mae yr Ysbryd Glan yn cario ei waith ymlaen yr un fath." MAE ym mwriad y foneddiges haelfrydig, Arglwyddes Somerset, i dalu ymweliad a chyfar- fodydd Mr. Evan Roberts un o'r dyddiau nesaf yma. YN y Gogledd y mae nifer yr eglwysi mud ac oer yn lliosocach nag eglwysi cynes a byw. Yr oedd ychydig o'r olaf yn y wlad cyn y Diwygiad yn anffodus diflanu yr oeddynt, a'r marwor yn diffodd gydag ymadawiad yr hen saint. Dywed- odd gweinidog enwog fod yr Amen wedi trengu gyda'r Methodistiaid, a'i gladdu yn y set fawr. Bu cerddor hiraethlawn yn tramwy'r wlad dan ganu, Pa le mae'r Amen ? Yn awr, dywedir fod yr angel cysurlawn wedi dychwelyd gyda'r Diwygiad. Dyma air y tyst-Mrs. Rhys, Cwmgarw :— I. Amen, fu'n absenol o Seion yn hir, Sydd wedi dychwelyd yn groyw a chlir Mae Seion yn effro, mor fyw yw ei phlant, Ar ol bod yn isel fel myrtwydd mewn pant; Hen anwyl Amen fu'n hir o dan len, Daeth llanw'r Diwygiad yn ol a'r Amen. II. Mae'r Ysbryd yn gweithio, mawrygwn y fraint, Ar gariad yr Iesu yn gwledda mae'r saint; Addoli mae Seion, a'i mynwes ar dan, Amen fendigedig mewn gweddi a chan 0 nefol Amen, mae'n swynol dros ben, Yn ngherbyd yr achub dychwelodd Amen. III. Hen Gymru fynyddig, hen Gymru fach wen, 'Rwyt wedi cael eto o hyd i'r Amen Mae Puw yr ymweliad yn gariad i gyd, Ac arnat mae sylw holl wledydd y byd 0 cadw'th Amen, dy beraiddAmen, G diolch i'r nefoedd, dychwelodd Amen. Y MAE ochr fasnachol i'r Deffroad. Nis gellir ei atal rhag dylanwadu ar fywyd personol, teuluaidd, cymdeithasol, ac ymherodrol. Yn ei berthynas a'r fasnach feddwol y gwelir benaf yr effeithiau cymdeithasol ardderchog a gynyrchir ganddo. Erbyn hyn, cydnebydd pawb ei fod yn dyfod oddiwrth Dduw. Y mae yn ddiwygiad iach, glan, am ei fod yn gynyrch uniongyrchol yr Ysbryd Glan. A dylid agor y llygaid yn llydan ar y ffaith ei fod yn Ddirwestwr. Nid llymeitiwr dirgel na chymedrolwr mohono, eithr llwyrymwrthodwr. Cafodd Maer Caer- dydd beth newydd grai--deubar o fenyg gwyn- ion o fewn corph y ddeufis diweddaf, am nad oedd troseddwyr i'w barnu yn yr ynadlys. Cyn ei ddyfodiad i ddyffryn Maesteg, peth cyffredin oedd 600 o droseddwyr gerbron yr ynadon mewn hanner blwyddyn o amser ar ol i Ysbryd y Deffroad ymweled a'r fro a dechreu teyrnasu, rhyw wyth o bersonau a gymerwyd i'r frawdlys. Rhaid myned draw i Burton-on-Trent i gael golwg arall-gallu attaliol-y nerthoedd dwyfol. Yn y dref honno darllawir digon o gwrw i gyflenwi agos i hanner y deyrnas. Anfonir barilau y lie hwnnw i bob cwr o Gymru—nid wrth y canoedd yn wythnosol, eithr wrth y degau o filoedd. Er dyfodiad y Diwygiad i'r wlad, parlyswyd masnach yr adran Gymreig i'r fath raddau fel yr a llai o bedair tren y dydd allan o fuarth y darllawdai. Y mae hynny yn tybied dau gant o wageni, a phob gwagen yn cynwys oddeutu deg baril. Ac nid darllawdai Burton yn unig sydd yn dioddef, eithr pob darllawdy arall, ond odid, drwy Gymru a Lloegr. Y PETH pwysicaf a glywyd yng nghyfarfodydd y Diwygiad yn Lerpwl ydoedd gwaith un o'r blaenoriaid yn dirwyn i fyny ei brofiad crefyddol drwy adrodd y llinellau hyny o eiddo Ehedydd lal Yn nghymorth gras mi goda mhen, Mewn gobaith caf fi galon wen Bu calon lan, ar Galfari, Yn gwaedu dros fy nghalon i." Gresyn fod yr hyn a ysgrifenodd yr hen ffermwr o Dafarn-y-gath, Llandegla, mor anhawdd taro arno a chymwynas a chrefydd Cymru fyddai i rywun eu cynuil a'u cyhoeddi mewn ffurf radlon a hylaw. Efe fel y gwyddis, bia'r pennill hwnnw, adnabyddus yn y nefoedd ac ar y ddaear Er nad yw'm corph ond gwellt, A'm hesgyrn ddim ond clai; Mi ganaf yn y mellt— Maddeuodd Duw fy mai: Mae Craig yr oesoedd dan fy nhraed, A'r mellt yn diffodd yn y gwaed." PAN oedd Evan Roberts yn Treorci, daeth ei lettywraig ag album merch i un o weinidogion y dref ger ei fron a gofynodd iddo ar ei chais ysgrifenu ychydig eiriau ynddo. Gwnaf, meddai yn ei ddull dirodres ei hun, ac ymaflodd mewn ysgrifbin, ac ysgrifenodd a ganlyn mewn llaw eglur :— Cred yn Nghrist." Cred yn Ei addewidion." Yn mlaen at wirionedd." Yn mlaen at fywyd." Yn mlaen at Dduw." Yn mlaen drwy wawd Yn mlaen at Dduw." Yn mlaen o hyd, yn mlaen, yn mlaen.

Advertising

OUR PATRON SAINT.

MR. LLOYD=GEORGE ON THE WELSH…