Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

MR. LLOYD=GEORGE ON THE WELSH…

Enwogion Cymreig.-XXII. Y…

News
Cite
Share

dwyn cyfleusderau goreu addysg i gyrhaedd y werin, a chredai yr un mor angerddol y dylai y werin ei hun aberthu er mwyn hynny. Teithiodd i gyfarfodydd bychain a mawrion yn Sir Gaer- narfon a Sir Fon a rhanau eraill o Ogledd Cymru, drwy bob math o dywydd, ar bob oriau o'r dydd a'r nos, a byddai yr un mor feddylgar a hyawdl wrth anerch hanner dwsin o ffermwyr yn Lleyn a phan yn anerch llond neuadd o fasnachwyr Caernarfon neu Llandudno Iddo ef yn benaf oil yr ydym yn ddyledus am sicrhau hen Ysgol Ramadegol Bottwnog yn eiddo i'r genedl. Yn ystod ei arosiad ym Mangor hefyd yr ysgrifenodd ei Lyfr ar Browning, Ilyfr a dynodd sylw anghyffredin, ac a sicrhaodd i'w awdwr le ym mysg awduron penaf ei oes. Sicrhaodd poblogrwydd personol iddo ddarlleniad dyfal gan bob Cymro deallus a diau iddo arwain lliaws o feddyliau i edrych ar bethau mewn goleuni gwahanol i'r hyn yr edrychent arnynt o'r blaen. Mae ei effaith yn amlwg ar ein pregethu a'n barddoniaeth. Llyfr Henry Jones yn fwy na dim arall gynyrchodd y bardd newydd yng Nghymru, y bardd y ceir cymaint o wahanol syniadau yn ei gylch. Ond ni ddiangodd yr awdwr heb gyfarfod tynged pob un sy'n arwain cenedl i diriogaethau newyddion. Codwyd y gri ei fod yn anuniongred ac yn gyfeiliornwr. Ni wnaeth ef unrhyw sylw o'r enllib- ion hyn, ac eto nid ydym heb gredu iddo eu teimlo yn ddwys. Ni bu calon fwy defosiynol a phur erioed na chalon Henry Jones. Na feddylier i werin Cymru golli ei chariad ato; personau hwnt ac yma a'i herlidient. Ni wyddom a fu rhywbeth a fynai yr erlidiau hynny a pheri iddo adael Cymru neu beidio, ond er galar i filoedd, ac er colled anrhaethol i ddadblygiad y genedl ym mhob cyfeiriad, Dychwelodd i Ysgotland Pennodwyd ef i Gadair Athroniaeth Foesol yn Aberdeen yn 1891; acyn 1894, pan appwyntiwyd Edward Caird i lenwi lie y diweddar Jowett fel meistr Coleg Baliol yn Rhydychain, dewiswyd Henry Jones, mab Elias Jones, y crydd, o Lan- gernyw, i fod yn olynydd ei hen athraw yng Nghadair Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Yno g werthfawrogir ef gan bawb yn ddiwahaniaeth. Edrychir arno fel ail Henry Drummond. Bob nos Sul traddoda bregeth neu ddarlith leygol yn ymdrin a pherthynas Cristionogaeth a Gwydd- oniaeth, Llenyddiaeth, Barddoniaeth, &c., a llenwir y neuadd bob tro gan dorf o ddynion ieuainc mwyaf goleuedig a deallus y Brifysgol a'r ddinas. Heddyw, anwyla Cymru ef yn fwy nag y gwnaeth erioed, a chredwn fod ei gariad yntau ati yn parhau yr un mor angerddol a chynt, serch na chafodd ganddi y cyfleusdra hwnnw i'w gwasanaethu y dyheai ei galon am dano.