Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

Enwogion Cymreig.-XXII. Y…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXII. Y Proffeswr Henry Jones, M.A., LL.D. O'R braidd hefyd y mae angen gosod teitl o flaen enw y gwr y rhoddwn fraslun o hono y tro hwn, na gradd athrofaol ar ei ol ychwaith mewn trefn i'w gydgenedl ei adnabod. Dim ond un Henry Jones a adnabyddir yng Nghymru, Ysgotland, a Lloegr, ac y mae yr enw yn un sy'n deffro edmygedd ac yn sicrhau gwar- ogaeth pa bryd bynnag yr enwir ef. Nid enwogrwydd Cymreig yn unig yw enwog- xwydd Henry Jones; mae yn enwogrwydd Prydeinig, bron na ellid dweyd yn Ewropeaidd. A'r neillduolrwydd ynglyn ag ef ydyw ei fod wedi ymenwogi mewn byd na threiddiodd odid un o'i gydwladwyr i mewn iddo, ac na thybid y niedrent ychwaith hyd nes iddo ef gyfodi. Enwogrwydd yr Athronydd ydyw enwogrwydd y Cymro hwn, ac y mae wedi cerfio ei enw yn annileadwy ym mysg prif athronwyr diwedd y bedwaredd ganiif ar bym- theg a dechreu yr ugeinfed. Mae gyrfa Henry Jones wedi bod o'r cychwyn yn un dra rhamantus. Brodor ydyw. o Lan- gernyw, plwyf yn ucheldir Sir Ddinbych, cyd- rhwng Mynydd Hiraethog a Dyffryn Conwy. Mae rhywfaint dros hanner can mlynedd er y gwelodd oleuni dydd gyntaf. Elias Jones oedd ei dad, gwladwr Cymreig syml o ran ei nodwedd, a chrydd wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Henry grefft ei dad, ac nid oes arno ddim cywilydd arddel hynny, mwy nag y mae arno gywilydd arddel y werin o'r hon yr hannodd. A phe deallid pethau yn iawn, digon tebyg y gwelid oiai i siop y crydd y mae ef a'i genedl yn fwyaf dyledus am ei fod yr hyn ydyw. Siop y crydd yn ddieithriad ydyw athrofa y pentref Cymreig, neu, yn fwy cywir, yno y cyferfydd aelodau y dosbarth uchaf. Nid oes unman lie y rhoddir gwell cyfle i adnabod y natur ddynol ac i sylwi -ar neillduolion gwahanol feddyliau nag yn y siop honno. Trinir yno bob math o bynciau, deonglir yr anhawsderau mwyaf, os nad yn ddi- drafferth, eto gyda medr rhyfedd. Yno rheswm y a deall sydd yn llywodraethu, a gwae i bob yftihonwr a fo yn ddigon rhyfygus i ymyraeth mewn pethau rhy uchel iddo. Ni ryfeddem nad drwy wrando ar ym- ddlddanion y siop y dysgodd Henry fod arno Eisieu Rhagor o Addysg. II Ac wedi dysgu y wers honno penderfynodd ei rtioddi mewn ymarferiad. Aeth yn ol i'r ysgol ddyddiol, a chyn hir gwelwyd ef yn troi ei wyneb tua Bangor i'r Coleg Normalaidd. Ar ol gor- phen ei dymhor ym Mangor ymsefydlodd yn brif-feistr yr Ysgol Frytanaidd ym Mrynaman, gyffindir gwlad Morgan a gwlad Myrddin. :^r oedd hyn rywbryd tua'r flwyddyn 1870. Dyddiau brwydr y Bwrdd Ysgol ydoedd y yddiau hynny. Codid i fynu fwgan y Dreth ym mhob cymydogaeth bron, a thrwy hwnnw dychrynid liawer, yn enwedig o'r bobl yr oedd llogell yn werthfawrocach na phen yn eu golwg. Ymrithiai y bwgan hwnnw yn ei holl erchylldra o gylch godreu y Mynydd Du, ond gwnaeth meistr yr Ysgol Frytanaidd ei ran yn effeithiol i'w roddi i lawr, ac i argyhoeddi glowyr ac amaethwyr y fro nad allai wneyd niwed i neb. Ni bu ei arosiad ym Mrynaman o hir barhad. Yr oedd ei syched am wybodaeth yn rhy angerddol i'w gadw yno. Trodd ei wyneb Y PROFFESWR HENRY JONES, M.A., LL.D. drachefn i chwilio am ragor o addysg. Cyfeir- iodd y waith hon i Brifathrofa Glasgow. Er ei fod yn hynach na'r cyffredin o'r myfyrwyr, ac heb gael y manteision boreuol a gawsai y mwyafrif o honynt, profodd y medrai ddal ei dir gyda'r goreu o honynt. Bu ei yrfa yno yn rhyfedd o ddisglaer. Cariodd pobpeth o'i flaen, ennillodd yr anrhydedd uchaf yn yr arholiadau, a ch ipiodd y gwobrwyon gwerthfawrocaf. Cafodd y fantais o fod yn ddisgybl i Edward Caird, yr athronydd cryfaf a mwyaf dylanwadol a feddai Ysgotland, os nad holl Brydain. Ymun- odd a nifer o wyr ieuainc talentog eraill i gyhoeddi cyfrol o erthyglau ar bynciau athron- yddol a meddylegol, a thynnodd honno gryn sylw. Gwnaeth yn eglur fod Henry Jones yn .un o ddynion y dyfodol. Dychwelodd o Glasgow i Gymru yn ol, a chawn ef yn ddarlithydd mewn Athroniaeth yng Ngholeg Aberystwyth. Ymdaflodd i'w waith gydag ynni dihafal bron, gan dorri allan dros derfynau gosodedig darlithiau 3* coleg. Ond cyn pen hir iawn daeth i brofedigaeth. Yr oedd Commissiwn Arglwydd Aberdar wedi dadgan yn ffafr cael dau goleg Prifysgol arall yng Nghymru, un yn y Gogledd a'r Hall yn y De. Nid yw yn ymddangos fod y datganiad hwnnw wrth fodd awdurdodau llywodraethol Aberystwyth, ond yr oedd Henry Jones yn gefnogydd selog iddo, a chydsyniodd a chais a wnaed atto i g) northwyo y mudiad i gael coleg yn y Gogledd. Dygodd hynny ef i wrthdarawiad a'r awdurdodau, ac ym- adael o Aberystwyth fu y canlyniad. Bu am beth amser ymhlith y rhai anghyflogedig." Eithr defnyddiodd yr amser i gyffroi ei genedl i ymbarotoi ar gyfer y dydd newydd oedd ar wawrio arni. Ym Mangor. Pan sefydlwyd Coleg y Brifysgol ym Mangor, yr oedd Henry Jones yn un o'r ymgeiswyr am y swydd o Brifathraw. Nid oes un amheuaeth pe cawsai gwerin Gogledd Cymru wneyd y pen- odiad nad arno ef y syrthiasai y coelbren. Ond yr oedd dylanwadau eraill ar y Cyngor, a myn rhai i gyfeillion awdurdodau Aberystwyth droi yn ei erbyn. Sut bynag, arall a benodwyd er colled anrhaethadwy i addysg Cymru. Nid oes dim i'w ddweyd yn erbyn ysgoiheigdod yr arall hwnnw, ond yr oedd ysgolhvigdod Henry Jones yn fwy na digon i gyfiawnhau ei ddewis, a'i wybodaeth o sefyilfa gwerin Cymru, a'i gyd- ymdeimlad angerddol ag angen a dyheuadau y genedl yn gymhwysderau ychwanegol na ellir eu prisio yn rhy uchel. Ond d\na fel y bu. I Gadair Athroniaeth y pennodwyd ef; a pheth bynnag fu hanes cadeiriau eraill.y coleg, codwyd honno i fri a disgleiriodd dros holl derfynau Prydain Fawr. Treiddiodd ei dylanwad i bob cwrr o Gymru, a bu yn foddion i ddeffroi galluoedd a gysgent yn ddifreuddwyd mewn llu o feddyliau. Yn ystod ei arosiad ym Mangor caed enghreifftiau aneiri yn dangos pa mor uchelryw yw ei ddynoliaeth, ac mor frwdfrydig ei wlad- garwch. Nid a ei ymdrechion ym mhlald Addysg Ganolraddol byth yn angof, ganddo ef ei hun na chan ei genedl. Credai yn angerddol mewn

Advertising