Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN. MR. LLEWELYN WILLIAMS YN LLANELLI. CYFARFOD HWYLIOG. COFUS gan ein darilenwyr i ni, wythnos neu ddwy yn ol, roddi adroddiad o gyfarfod Pwyll- gor Gweithiol Cymdeithasau Rhyddfrydol y Bwrdeisdrefi uchod, ym mha un y dewiswyd Mr. Llewelyn Williams fel yr ymgeisydd Rhydd- frydol. Nid oedd yng ngallu y Pwyllgor i wrieyd dewisiad terfynol; yr oil a allent wneyd oedd cymhell y gwahanol gymdeithasau i fabwysiadu fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol y gwr ar ba un y syrthiodd y coelbren yn eu cyfarfod. Felly, nos Sadwrn, cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas Rhyddfrydol Llanelli, yn y Neuadd Drefol, i dderbyn ac i ystyried adroddiad y pwyllgor. Cafwyd cynulliad pur foddhaol, a llanwyd y gadair gan Mr. Evan Evans. Darllenodd y Cadeirydd, yn ystod ei araith agoriadol, lythyr oddiwrth y Parch. Thomas Phillips, gweinidog Eglwys Greenfield, yn cymeradwyo yn wresog gymhelliad y Pwyllgor Gweithiol, ac yn datgan ei farn nad oedd ond un ffordd i'r blaid Ryddfrydol yn y bwrdeis- drefi ddod allan o'i hanhawsderau, sef drwy fabwysiadu fel ymgeisydd un na chymerodd ran o gwbl yn ymdrafodaeth gecrus y tair blynedd ddiweddaf. Pan gyfododd Mr. Williams i anerch y cyf- arfod cafodd dderbyniad calonog. Ar y dech- reu datganodd ei barodrwydd i gilio o'r maes os byddai i fwyafrif o'r aelodau anghymeradwyo ei ymgeisiaeth. Yr oil oedd ganddo mewn golwg oedd ceisio uno y gwahanol adranau o'r blaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth. Yna aeth Mr. Williams ymlaen i osod ei olygiadau gwleid- yddol gerbron yr aelodau. Wedi iddo orphen rhoddwyd cyfleusdra i ofyn cwestiynau, a'r cyntaf i wneyd hynny oedd Mr. W. D. Evans, yr hwn a ddywedodd na wnaeth Mr. Williams ddim cyfeiriad yn ei araith at gwestiynau dirwestol. Mewn atebiad dywedodd Mr. Williams mai cwestiwn i'r werin ydoedd hwn. Yr oedd ef yn barod i'w ymddiried i'r werin. Gadawer iddynt gael dewisiad lleol (local option). Yn nesaf cododd Mr. T. Harries gyda chyfres o gwestiynau yn dwyn perthynas a Llafur, a pharodd ei ymddangosiad gryn gynhwrf am ychydig amser, fel y dengys yr adroddiad a ganlyn Mr. Williams Yr wyf mewn llwyr gydym- deimlad a dyheuadau Llafur, ond nis gallaf gydweled a chwi ynghylch cenedlaetholiad y tir. Mr. T. Harries Hoffwn ddweyd un gair —— Mr. Howell (aelod o'r Cynghor Llafur): A yw Mr. Williams i'w gyfiawnhau am ddod yn mlaen i geisio cymeryd sedd oddiar aelod ffyddlon ? Mr. Williams Dylech ofyn y cwestiwn hwn i'r cyfeillion sydd' o'm hamgylch. Y Cadeirydd Ni ellir gofyn y cwestiwn hwn i Mr. Williams. Mr. T. Harries Yr ydym oil yn falch o Mr. Williams. Yr wyf i yn Rhyddfrydwr, ond mae'n ddrwg genyf fod Mr. Williams yn gwas- traffu ei alluoedd drwy geisio ennill sedd na ddaw byth i'w feddiant. Llais o'r dorf: Yr ydych yn hynod o haerllug; eisteddwch i lawr. Mr. T. Harries: Mae eich penderfyniad— (cryn derfysg, a bloeddiadau o Free speech "). Wedi tawelu ychydig aeth Mr. Harries ymlaen Bu raid i ni wneyd casgliad yma er talu am y neuadd ac er dwyn treuliau yr argraffu. (Terfysg eto, a llais o'r canol yn gofyn Faint o arian roisoch chwi, tybed.) Y Cadeirydd Goddefwch i mi am foment. Y mae arnaf eisiau i chwi roi pob chwareu teg iddo siarad. Mr. Harries: Bu'r Rhyddfrydwyr sydd yn awr yn dal breichiau Mr. Williams yn bleidwyr selog i Mr. Alfred Davies ar y dechreu. Ond pa fodd y maent yn ei drin yn awr ? (Llais o'r dorf: A oes gennych chwi bleidlais ? ) Y Cadeirydd: Gadewch iddo orphen yr hyn sydd ganddo i'w ddweyd. Mr. Harries Y mae genyf un cwestiwn arall i'w ofyn. (Bloeddiadau o "Trowch ef allan.") Y Cadeirydd Tybiaf fod Mr. Harries wedi cymeryd digon o'n hamser yn barod. Y mae'n cymeryd gormod o amser y cyfarfod iddo ei hun. Gwnaeth Mr. Harries ymdrech arall i siarad, ond yn ofer. Ni fynai yr aelodau iddo eu blino ymhellach. Yn nesaf gofynodd Mr. D. R. Edmunds Os mabwysiadir Mr. Williams yma ac yn Nghaer- fyrddin, a fydd iddo sefyll pan ddel dydd yr etholiad ? Mr. Williams Ni fuaswn yma yn awr os na fyddwn yn barod i wneyd hynny. Yna cynygiodd y Cadeirydd benderfyniad yn ymrwymo pawb oedd yn bresenol i wneyd yr oil oedd yn en gallu er dychwelyd Mr. Williams i'r Senedd fel yr aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin. Eiliwyd gan Mr. James, cefnogwyd gan Mr. Henry Wilkins, Y.H., a chan nad oedd ond ryw saith neu wyth yn tynnu'n groes, cariwyd ef bron yn unfrydol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
H. S. JONES, (AP CAERALAW), Accompanist for Eisteddfodau, Concerts, &c. (also Humorous Songs and Sketches at Piano). For every Kind of Entertainment. Private or Public. Terms apply: 2, EMERSON ST., SOUTHWARK, E
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Sir Fflint yw Mr. Griffiths, a dechreuodd wasanaethu fel organydd pan yn dair-ar-ddeg oed. Daliodd y swydd a rydd i fyny yn awr am bedair-blynedd-ar-hugain. Y R oedd nos Lun diweddaf yn noson o lawen chwedl yn eglwys Wilton Square. Cyn- helid yno gyfarfod gweddi, ac yn ystod y cyfarfod talwyd ymaith y ddimai olaf o ddyled ar y capel. Well done. Bydd yn hawddach gweddio a chanu a phregethu a phobpeth wedi cael y ddyled oddiar y ffordd. Brysied y dydd pan gaffo holl eglwysi Cymreig y ddinas fwyn- hau cyffelyb werthfawr ryddid. MAE Eisteddfod Gadeiriol fawreddog yr Albert Hall wrth y drws yn awr. Dydd lau nesaf yw yr adeg, ac y mae llu yn edrych yn mlaen at gyfarfod llawn o fywyd a hwyl Gymreig. Gyda Llew Tegid i arwain, a phrif gorau Gogledd a De a Llundain yn cystadlu, dylai fod yno ddigon o atdyniad i'n cydgenedl. Bydd cadeirio'r bardd hefyd yn seremoni bwysig, ac yn fwy rhwysgfawr nag y gwelwyd hi yn Llundain er y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma. DRWY ryw amryfusedd gadawyd allan o'r adroddiad am wledd Syr John Puleston i dlodion y Dwyreinbarth ddau enw a ddylasent fod i mewn ynddo-enw y Parch. D. Oliver, Mile End, o blith y siaradwyr, a Miss Maggie Evans, Falmouth Road, o blith y cantorion. Mae Mr. Oliver yn un o gyfeillion goreu y Genhadaeth Gymreig yn y rhanbarth a char- iodd dadganiad Miss Evans o Dywedwch wrth yr Iesu ddylanwad dwfn ar y cynulliad. MAE y trefniadau wedi eu cwblhau ar gyfer y Gymanfa Ymneillduol Unedig yn y City Temple nos Wyl Dewi. Pregethir gan y Parchn. D. Stanley Jones, Caernarfon, a W. 0 Evans, Liverpool. Mae y ddau yn adnabyddus fel cewri yn y pulpud Cymreig. Dau ddyn cymharol ieuainc ydynt, a sicr yw y bydd ganddynt genadwri gyfaddas i Gymry ieuainc Llundain. Mae y cantorion hefyd yn gwneyd eu goreu i ymgynefino a'r tonau ac emynau. Gyda'r ysbryd diwygiad sydd yn yr awyr y dyddiau hyn, y mae lie i ddisgwyl cymanfa fyth- gofiadwy eleni. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Sul diweddaf, yn lie pregeth cafwyd anerchiad gan y Parch. F. Knoyle, B.A., Hammersmith, ar ei ymweliad a Deheudir Cymru. Yn ei ddull arbenig ei hun cafwyd gan Mr. Knoyle ddesgrifiad o'r hyn a welodd ac a glywodd, gyda engreifftiau lawer o droedigaethau ym mhlith y bobl mwyaf anghrist- ionogol.—Deallwn fod ym mwriad cyfeillion yr eglwys uchod i gael bugail, ac y mae llawer enw wedi dyfod o flaen y Pwyllgor appwyntiedig, ond hyd yn hyn nid ydynt wedi bod yn llwyddianus i gael bugail. Hyderwn y bydd llafur brodyr a chwiorydd gweithgar yr eglwys, y rhai sydd wedi cario ymlaen yr achos yn y lie trwy amser cyfyng yn ei hanes er ymddiswyddiad y Parch. Llewelyn Edwards, yn dwyn ffrwyth yn fuan.-Heno (Nos Sadwrn), y mae Cor Merched Clapham Junction (dan arweiniad Madame Susannah Pierce), yn cynhal cyngherdd yng Nghapel y Wesleyaid Seisnig yn Queen's Road, Battersea. Y mae rhaglen ardderchog wedi ei baratoi.-L. RADNOR STREET.-Nos lau, Chwef. gfed, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, cafwyd swper goffi yma, a throdd allan yn hynod o lwyddiannus. Y bechgyn ieuainc a ofalent am y danteithion ac a wasanaethent wrth y byrddau, a gwnaethant eu gwaith fel pe buasent hen ddwy- law cyfarwydd. Llywyddwyd y cyngherdd a ddilynodd gan Mr. P. W. Williams, Earl's Court Road, un o golofnau cyntaf y Gymdeithas, a gwr sydd mor fedrus a llwyddianus mewn cyfar- fod o'r fath ag ydyw yn ei fasnach. Yr oedd ei anerchiad yn werth i'r holl bobl ieuainc dalu ystyriaeth bwyllog iddo. Canwyd ac adroddwyd gan Mri. Arthian Davies, Stephen Davies, Walter Wood, John Phillips, Percy Osborn, John Owen, Elwyn Lewis, ac Edwyn Davies. Cyfeiliwyd gan Mr. J. Strafford. Gwaethant eu rhan yn dra rhagorol i gyd. Ni chafodd neb o'r chwiorydd wneyd dim, heblaw cynyg ac eilio diolch ar y diwedd, yr hyn a wnaed gan Mrs. Davies, Rose- bery Villa, a Mrs. Edwards, Fulham. Edrychir ymlaen yn awr at swper goffi y boneddigesau ym mis Mawrth, a diau y gwnant bobpeth a allant i ragori.-RADNORIAN. TOTTENHAM.—Nos Iau, Chwefror gfed, cyn- haliwyd cyngherdd mewn cysylltiad ac er budd achos y Bedyddwyr yn Lansdown Road, Tottenham, yn y Town Hall, Lower Edmon- ton, o dan lywyddiaeth Mr. John Hinds, Black- heath. Atdyniad mwyaf y cyngherdd oedd y Kymric Ladies' Choir, o dan arweinyddiaeth fedrus Mrs. Frances Rees. Mae y cor hwn ym mhob modd yn ddyrchafiad i Gymry Llundain, ac yn adsain clod "Cymru lan, gwlad y gan." Cafwyd dadganiad rhagorol gan foneddigesau unigol o'r cor-Miss Annie Parry, Misses A. a M. E. Thomas, Misses Mary Davies a Maude Davies, Miss Gertrude Parry, Misses M. J. a Margaret Davies, a chan Mrs. Cordelia Edwards Rees a Mr. David Evans, R.A.M. Cafwyd gan y cor ranganau, alawon Cymreig, a gipsy chorus yn llawn o hwyl, gydag encore bob tro. Cafwyd Mr. David Evans ar ei uchelfanau bob tro y canodd. Dadganodd Mrs. Cordelia Edwards Rees "Y gwcw ar y fedwen" mor swynol ag erioed. Mae ei llais heddyw mor beraidd a'r tro cyntaf i ni ei chlywed yn canu, a'r tynerwch nodweddiadol yn aros o hyd. Cafwyd gan Mrs. Rees a Mr. David Evans y Solfa Duet" yn hynod' dder- byniol, gydag encore. Cafwyd gwasanaeth medrus Miss Deborah Rees, R.C.M., wrth y berdoneg. Ni raid dweyd dim am fedrus- rwydd Miss Rees. Mae ei chlod drwy yr holl wlad. Cafwyd cyngherdd llwyddiannus ym mhob ffordd, y neuadd yn orlawn o Gymry a Saeson, a phan geir cyngherdd eto gyda'r un defnyddiau bydd y lie yn rhy gyfyng a pha ryfedd ? Llwyddiant fu hanes pob cyng- herdd a gymerodd Mr. a Mrs. Rees mewn llaw pan oeddynt yn Llundain flynyddau yn ol. Bydd y Parch. W. Rees yn fuan yn cychwyn ar daith i'r America. Deallwn ei fod yn ddis- gwyledig yno yn gynar ym mis Ebrill, a pharha y daith am rai misoedd. Gobeithiwn y caiff daith gysurus a llwyddianus yn mhob modd, ac y bydd yn gyfrwng yn Haw Duw i wneyd llawer iawn o ddaioni yno. Mae yn gymeriad pur, yn bregethwr derbyniol, ac yn llawn gweithgarwch. Dyma ydyw ei hanes wedi bod, a gobeithio y caiff oes hir i barhau felly.- J. R.