Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Fy Iaith. Fy Ngwlad. Fy Nghenedl. Cymdeithas Ddiwylliadol CAPEL Y BEDYDDWYR, HEOL-Y-CASTELL. TYMHOR 1904-5. LLYWYDD JOHN HINDS, Ysw. CYNHELIR Y Cyngherdd Cenhedlaethol YN NEUADD Y CAPEL UCHOD, Dydd Sadwrn, Ckwefror 25ain, 1905. Dadgenir gan Mdme. ELEANOR JONES-HUDSON (Soprano). Miss MARGARET LEWYS (Contralto). Mr. BEN IVOR, R.C.M. (Tenor). Mr. IVOR FOSTER (Baritone). Chwareuir ar y Chwibanoglgan Mr. ELI HUDSON. Cyfeilydd Mr. MERLIN MORGAN. cadeirudd, D. LLOYD-GEORGE, YSW., A.S. Drysau yn agored am 7.3°: Cyngherdd am 8. Mynediad i mewn trwy Docynau SWLLT, i'w cael oddiwrth Mr.WM. REES, 459, Oxford Street, W.; Mr. PICTON JOHN, 112, Gower Street, W.C. ac hefyd oddiwrth Aelodau y Pwyllgor.
[No title]
News
Cite
Share
Cyfeirierpob Gohebiaetha fwriedir z'ncolofnau, The Editor" pob Hysbysiad., The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, The .Zlfana,ger," a'r oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Margin's Lane, W. C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddyckwelyd ysgrifau gwrthod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and the address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith. _O.T_- .=-
Nodiadau Golygyddol.
News
Cite
Share
Nodiadau Golygyddol. CYDNABOD CENEDL. Y mae hawl Cymru i gael ei hystyried yn genedl wedi ei chydnabod unwaith yn rhagor gan yr awdurdod I)wodraethol. Fel yr hysbysir mewn colofn arall mae y Trysorlys wedi cydsynio i roddi swm blynyddol tuag at gynnal Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Gymreig, a phwyllgor o'r Cyfringyngor wedi ei bennodi i benderfynu lleoliad y naill a'r llall. Buwyd yn erfyn llawer am hyn, nid er mwyn yr arian yn unig, er fod honno yn ystyriaeth bwysig, ond yn bennaf ar gyfrif pwysigrwydd y cais yn ei berthynas a'n bywyd a'n cymeriad gwahaniaethol. O'r braidd y medrwn sylweddoli fod dyddiau edrych arnom fel rhan o'r genedl Seisnig yn dyfod i ben. Methwyd newid ein neillduolion er arfer pob dyfais a gormes, a gwelwyd o'r diwedd fod ein cenedlaetholdeb mor ddwfn a chynhenid fel na wnai yr un deddfau y tro i'w reoli ag i reoli cenedlaetholdeb y Sais. Mae pob cydnabydd- iaeth fel hyn yn mynd a ni yn nes at yr hunan- lywodraeth honno y dyhea pob gwir Gymro am dani. A byddwn yn well deiliaid i Goron Prydain, gwnawn fwy o wasanaeth i'r Ymherod- raeth, dyfnheir ein teyrngarwch, marwheir eiddigedd ac anfoddogrwydd, a daw undeb y ddwy genedl yn raddol yn undeb' calon ac ysbryd, yn ogystal ag yn undeb politicaidd. Gorchwyl digon anhawdd sydd gan y Pwyllgor pennodedig, a beth bynnag fydd eu dyfarniad caiff Ilawer eu hanfoddloni. Gwelwn fod y safon yn ol yr hon y maent i farnu y gwahanol geisiadau yn cael ei nodi, a drwg gennym mai safon lied faterol ydyw. Faint o arian a all tref roddi i godi adeilad, a pha faint o gyfraniadau blynyddol a ellir ddisgwyl o'r cylchoedd sydd i benderfynu y pwnc. Nid yw poblogaeth yn cael ei nodi, a da hynny. Yr hyn a ofnwn ydyw na ddyry y Pwyllgor ddigon o le i'r ystyriaeth mai penderfynu lie Amgueddfa a Llyfrgell Gymreig sydd ganddynt i'w wneyd. Ymddengys yn ol geiriad y Commissiwn nad oes raid iddynt leoli y ddwy yn yr un dref, a dichon mai eu gwahanu a fyddai decaf. Mae ,cryn lawer i'w ddweyd dros i'r Amgueddfa fod yn gyfleus i'r rhanau mwnyddol, ac yng nghanol poblogaeth liosog. Ond nid ydym yn gweled llawer o resymau dros i'r llyfrgell fod mewn lie felly. Nid darllenfa a fydd yn gymaint ag ystorfa ar gyfer y rhai a ymgyflwynant i chwilio hanes a llenyddiaeth y genedl. Ac ni bydd nifer y rhai hynny yn rhyw liosog iawn. Gallem feddwl mai cydrhwng Caerdydd, Aberystwyth, a Chaernarfon y bydd y dorch. Caerdydd yw y dref gyfoethocaf a'r fwyaf poblog, Aberystwyth yw y fwyaf canolog o ran safle, a Chaernarfon sydd yn meddu mwyaf o draddodiadau cenedl- aethol yn gysylltiedig a hi. Gobeithiwn na ddaw chwerwedd i mewn i'r mater, ac y derbynir dyfarniad y Pwyllgor, beth bynnag fydd, mewn natur dda a chyda llawn benderfyniad i wneyd y ddau sefydliad yn addurniadau gwirioneddol i'n cenedl a'n gwlad. Dyma gyfle ardderchog i'r Cymry sydd ar wasgar i dalu tipyn o'u dyled i wlad eu tadau. Bydd angen swm mawr i adeiladu a dodrefnu y Llyfrgell a'r Amgueddfa, a dylaimeibionamerched y wlad sydd wedi casglu golud mawr oddicartref wneyd eu rhan yn helaeth tuagat hynny. Mae yn Llundain nifer fawr o'r cyfryw, a rhaid cyfaddef mai digon llawgauad ydynt wedi bod ynglyn a mudiadau cenedlaethol, gydag ychydig iawn o eithriadau. Beth fyddai i nifer o fasnachwyr Cymreig llwyddianus y Brifddinas gyfranu mil neu ddwy o bunnau bob un y tro hwn. Disgwylia y wlad hynny oddiwrthynt, a bydd ganddi Ie teg i gwyno oni chyflawnir ei disgwyliadau. Mae yn bryd dwyn ar gof i rywrai nad digon iddynt wisgo ceninen a bwyta cinio ar Ddydd Gwyl Dewi, a gwaeddi Oes y byd i'r iaith Gymraeg ar ddiwrnod eisteddfod. Yr unig wladgarwch o werth yw y gwladgarwch sydd yn barod i estyn cymhorth ymarferol i ddyrchafu gwlad, ac i'w chyfoethogi a sefydliadau a hyrwyddant ddadblygiad cyflawn ei bywyd.
Notes of the Week.
News
Cite
Share
Notes of the Week. Is Peace within Sight?—There were strange rumours the end of last week that Russia is prepared to make peace with her enemy, but they have not been confirmed by any official declaration. It would not surprise anyone who closely follows the development of affairs in the East if such a thing happened. Russia has nothing to hope for by prolonging the war. Her armies have been disgraced sufficiently already, without subjecting them to further ignominy. The peace party is gaining tremendous strength in all parts of the country, and the strikes and disturbances everywhere, make it impossible for even a country of such vast resources as Russia to supply the needs of so many soldiers, so many thousands of miles from home. We believe Japan is ready to be magna- nimous, and that the terms she is prepared to give are such as Russia ought to accept with thanks. Japan, of course, must have possession of Port Arthur, but the rest of Manchuria will probably be returned to China. We sincerely hope that the rumours of peace are true. Humanity has been staggered sufficiently, and we trust that the other Powers will bring all their influence to bear upon the combatants so that further carnage may be avoided. Is Lord Spencer to be the next Prime Minister ? -Political circles are very easily excited in these days. Last week a long letter written by Earl Spencer to Mr. Corrie Grant, M.P., was published, and our wise men came to the con- clusion at once that it was the Liberal Manifesto in view of the approaching election. We were told emphatically that a meeting of the leaders of the party had been held, to which the letter was submitted, and that they had agreed together that Lord Spencer is to be the person whom the King shall call to form a Government. But Lord Spencer himself made it known that the letter was not intended to be a manifesto at all, that it was simply his own views on the situation, and that he wrote it because his long illness had
Advertising
Advertising
Cite
Share
Cooper, Dennison & Walkden, Ltd., 7 & 9, ST. BRIDE STREET, LONDON, E.C. the j PRICES:—■ s. d. Imperial Quart = = = 2 6 99 Pint 1 6 Gallon Bottles, Stone = =90 Half Ciallon „ 5 0 No Charge on Bottles.