Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. Y MAE Mr. R. W. Jones, Penygroes, Arfon, wedi ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwysi Annibynol yn Nrwsycoed a'r Cilgwyn. Gwein- yddwyd gan y Parchn. Dr. Probert, Bangor; D. Stanley Jones, Caernarfon, ac eraill. Bu Mr. Jones yn gwasanaethu yr eglwys yn Battersea Town Hall am rai misoedd o'r flwyddyn ddiweddaf, a gwnaeth lawer o gyfeillion iddo ei hun ym mhlith Annibynwyr Cymreig y Brif- ddinas. YN Japan y mae Mr. David Davies, Llandinam, ar hyn o bryd. Ysgrifenodd lythyr oddiyno i'r Western Mail, yn rhoddi cynwys ymddiddan rhyngddo ag un o brif wleidyddwyr Japan. Pleidio polisi Chamberlain yw pwrpas y llythyr, neu o leiaf dangos yr angen am gyfnewidiad ym mholisi Masnach Rydd. Ond ymddengys i ni y gellid astudio y pwnc hwnnw i fwy o bwrpas gartref. FE gofir i Rector Gwaenysgor roddi rhybudd i ysgolfeistr yr Ysgol Genedlaethol i ymadael beth amser yn ol, ac i Lys Maine y Brenhin ddyfarnu fod y rhybudd yn gyfreithlawn. Yn wyneb hynny penderfynodd y trigolion agor ysgol anenwadol, ac aeth y plant i gyd oddigerth rhyw ddeg i honno. Dydd Llun diweddaf gwysiwyd y Rector o flaen yr ynadon, am guro dwy eneth fach a garient eu llyfrau ymaith o'r hen ysgol i'r ysgol newydd. Parhaodd yr achos am oriau, ac yn y diwedd taflwyd ef allan drwy lais mwyafrif o'r ynadon ar y fainc. Ond gwrthodasant ganiatau i'r diffynydd ei gostau. MAE" goleuni" Mrs. Jones, Egryn, ger y Bermo, yn dywyllwch i bob newyddiadur yn Llundain. YSGRIFENODD Mr. Beriah G. Evans i'r Daily News i draethu yr hyn a welodd, ar hyn wele rhyw Sais yn ysgrifenu i ymholi a oedd Mr. Evans yn ei lawn synwyrau. WEDI hyn mae'r Daily Mail wedi gyru gohebydd arbenig yno, ac mae hwnnw wedi gweled y goleuni ond yn methu a'i egluro. Mae'r Sais yn awr yn credu fod rhywbeth hynod yn y peth. WRTH weled cynifer o hen wrthgilwyr adna- byddus yn dychwelyd yn un o eglwysi Cymru y Sul diweddaf sylwodd un hen frawd brwdfrydig ar ei weddi, Diolch i ti, Arglwydd mawr, am y siwins gawsom i'r rhwyd yn flaenorol; ond mae yma lot o hen sharks mawr wedi dwad i mewn heddyw."

Gohebiaethau.

Y Senedd.

[No title]

Advertising