Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Colofn y Gan.

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

UNIVERSITY COLLEGE OF NORTH…

Advertising

Colofn y Gan.

News
Cite
Share

ac yr oedd yn dda genym weled parti Cym- reig fel hynyn ei chanu i'r cyfeillion Seisnig. Yr ydym wedi sylwi fwy nag unwaith fod ein tonau Cymreig yn effeithio yn rhyfeddol ar y Saeson addolgar. Y DIWYGIAD. -Fel y nodasom yr wythnos ddiweddaf, y mae caniadaeth wedi bod yn offeryn nerthol a bendithiol yn yr Adfywiad presenol. Ond erbyn hyn wele ohebydd yn anfon atom i gwyno oherwydd ymddygiad lliaws o'n pobl ieuainc a broffesant grefydd. Er pan y mae Cymry Llundain wedi bod dan effaith y Diwygiad" meddai, "y mae llawer o ganu emynau wedi bod yn ein gwahanol Eglwysi, a diau fod daioni wedi deilliaw oddiwrth hynny. Ond y peth sydd yn fy synu yw fod effaith y cahu ac yspryd y cantorion yn hedfan ymaith mor gynted ag y byddont oddiallan i ddrws y capel neu'r Eglwys. Ac yn sicr nid peth hardd ydyw gweled rhai a dybiant eu bod yn ddiwyg- wyr yn myned ar eu hunion o'r capel i'r dafarn." DDYDD Sadwrn diweddaf traddododd Mr. E. A. Baughan, critic cerddorol y Daily News, ddarlith o flaen y Gymdeithas a elwir "The Incorporated Society of Musicians." Cyfeiriodd y darlithydd at ein lliaws athrawon cerddorol, a dywedai y gallai athraw cerddorol gael holl lythrenau y wyddor ar ol ei enw ac eto fod yn ddwl, amddifad o deimlad ac anab] i greu dim brwdfrydedd. Da oedd gweled y darlith- ydd yn pwyso ar y priodoldeb i athrawon cerddorol fyned i wrando cerddoriaeth dda. Pleser ydyw myned i wrando canu neu chwareu da i'r amateur." Ond dyledswydd ydyw ar ran y "professional," eto nid oes neb yn es- geuluso y peth yn fwy nag efe.