Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Colofn y Gan.

News
Cite
Share

Colofn y Gan. EISTEDDFOD ALBERT HALL.-Nos Iau nesaf y cynhelir yr Eisteddfod hon, ac yn ol pob arwyddion bydd yn wyl fawr a phoblogaidd, ac yn un a adlewyrcha glod ar y cyfeillion yn Eglwys Falmouth Road yn ogystal ag ar ysgrifenydd gweithgar yr Eisteddfod, Mr. D. R. Hughes. Goddefer i ni erfyn yn y fan yma ar i'n cydwladwyr gefnogi yr anturiaeth hon -yn enwedig y rhai hynny o honom ag sydd yn hoffi cerddoriaeth, oblegid rhoddir lie amlwg iawn i'r gan yno. YN yr adran gerddorol ynglyn a'r wyl hon, fel y mae'n hysbys i lawer, y mae gwledd yn ein haros. Bydd ein corau meibion enwocaf yn ymgystadlu ar ddernyn tlws a galluog, sef "Homeward Bound "(D. C. Williams), a bydd clywed y darn hwn yn unig yn llawn dal am y draul o fyned yno. Ac yn yr adran unawdol y mae llu enfawr o ymgeiswyr wedi anfon eu henwau i mewn. Fe ddywedir fod dros gant a haner o enwau wedi dod i law yn y Carmelite Solo Competition." A chan fod tri o wyr enwog wedi eu dewis yn feirniaid, fe aiff pobpeth yn ei flaen yn hwylus. Y MAE Cor Meibion Cymry Llundain yn bur ddiwyd ar hyn o bryd yn ymberffeithio gogyfer a nos Iau nesaf, a dymunwn iddynt bob llwyddiant. Cawsom y fraint o wrando arnynt ychydig nosweithiau yn ol, a chawsom bleser mawr drwy hynny. Y mae yn gynwysedig yn y cor leisiau rhagorol; ac er fod y tenoriaid yn dda, yn y basses yn sicr y mae cuddiad cryf- der y cor. Yr ydym yn hyderus iawn y gwnant waith da yn yr Eisteddfod. PRYDNAWN Sul diweddaf cafodd aelodau Eglwys Annibynol Streatham Hill (Saesneg) wledd gerddorol dda gan barti o Gymry, dan arweiniad Mr. E. Humphrey Owen. Canwyd yr hen donau Cymreig, "Aberystwyth a "Ton y Botel" yn effeithiol iawn ganddynt. Hefyd canasant y Diadem." Canwyd yr unawd a chydgan, Promise of Rest," yn rhagorol gan gor y lie, Miss Jennie Hughes yn arwain gyda'r unawd. Y gweddill a wnaethent i fyny y parti Cymreig oeddynt, Misses Lloyd, Mri. J. W. Pugh, Lloyd Jones, John Evans, Llew Caron, R. H. Jones a J. N. Jones, a chaed unawdau ganddynt. Ap Caeralaw oedd yn cyfeilio. CREDWN i Saeson y lie gael eu symud gyda'r hen donau Cymreig, yn enwedig Aberystwyth. Pe buasai y diweddar a'r anwyl Dr. Parry wedi gwneyd dim ond. gadael y don ardderchog hon ar ei ol buasai wedi ateb dyben yn y byd,

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

UNIVERSITY COLLEGE OF NORTH…

Advertising

Colofn y Gan.