Hide Articles List

2 articles on this Page

ADGOFION AM EISTEDDFODAU GYNT.

News
Cite
Share

ADGOFION AM EISTEDDFODAU GYNT. RHYFEDD y swyn sydd yn y gair eisteddfod i bob Cymro cywir nad yw wedi mynd yn rhy falch i gymeryd dyddordeb yn arferion drud ei genedl. Mae y gair yr un fath a'r gair haf, yn cynesu ei galon ac yn datod rhwymau ffrydiau ei natur gan nad pa mor auafol a Seisnig fyddo ei amgylchynfyd. Ac wrth feddwl am yr eisteddfod fawreddog sydd i'w chynnal yn yr Albert Hall yr wythnos nesaf, mi ddechreuais gofio am yr eisteddfodau cyntaf y bum ynddynt yng Nghymru wen o ddeg i bymtheng-mlynedd-ar hugain yn ol. Bachgen oeddwn y pryd hwnnw, a digon tebyg mai pethau bachgenaidd yr ystyrir yr adgofion hyn gan y rhai fyddant yn ddigon ehud i'w darllen. Ond wrth fynd ymlaen mewn dyddiau fe ddaw y dyddiau gynt a'u digwyddiadau yn ol i mi yn ami iawn. Pan wedi blino ynghanol helyntion bywyd prysur a dadwrdd diysbaid dinas estronol, y mae yfed dracht o bydew Bethlehem yn llawn cymaint o foddion adgyfnerthiad a dim a allaf gael. Byddaf yn meddwl weithiau mai mewn eisteddfod y ces i ngeni, oblegid dyna'r adgof hynaf sydd genyf. Doedd hi fawr o beth chwaith, er mai mewn pabell y cynhelid hi. Ond yr oedd Glasynys ac Owain Alaw yno, ac yr oedd eu presenoldeb hwy yn ddigon i osod bri arosol arni. Yr wyf yn cofio hefyd am fy nhad a mam yn mynd am wythnos i Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, a minnau gartref yn meddwl eu bod wedi mynd i'r nefoedd, ac yn crio rhag ofn na ddeuent yn ol. Mi ddois i wybod wedyn nad yw eisteddfod mor nefolaidd bob amser ag y tybiwn. Daeth trai ar y don eisteddfodol cyn hir, ac am rai blynyddoedd ni chynaliwyd yr un werth i mi gael mynd iddi yn unman o fewn cyrhaedd. Ac mewn mynd i eisteddfod y mae tri chwarter y swyn, o leiaf felly yr oedd hi yn y dyddiau hynny. Pa mor ddifynd bynnag y gallai yr eisteddfod ei hun fod, ni fyddai hwyl y mynd iddi byth yn pallu. Wn i ddim faint o hwyl fydd yn yr Albert Hall, ond mi wn y caf fi hwyl wrth fynd yno, os goddefa yr influenza a'r wraig i mi gychwyn. Mewn" tref a lecha yn ddigon afler yng nghesail un o fynyddoedd geirwon Cymru y cynhelid yr eisteddfod o bwys y cefais i "y fraint a'r hyfrydwch," ys dywed y dyn sy'n mynd i'r seiat unwaith y chwarter, o fod ynddi gyntaf. Doedd honno ddim yn un fawreddog iawn chwaith. Am ddiwrnod y cynhelid hi, ond fod cyngherdd y nos o'r blaen. Nid oedd yno gadair na choron. Ni feddylid yn y blynydd- oedd hynny am roddi cadair mewn unrhyw eisteddfod loni pharhai am ddeuddydd y man lleiaf. Erbyn hyn y mae cadeiriau a choronau eisteddfodol cyn liosoced ag eirin man ym mis Gorphenaf, ac yn llawn cyn faned.j Ond yr oedd yno lu o eisteddfodwyr grymus a phrofedig i osod urddas ar yr wyl. Dyna y tro cyntaf i mi glywed a gweled Tanymarian, Mynyddog, Cyn- ddelw, Clwydfardd, Edith Wynne a Kate Wynne ei chwaer, Brinley Richards, ac Ellis Roberts y telynor. Ni fu rhagorach nac yn wir hafal y rhai hyn am gadw 'steddfod. Clywswn son a darllenaswn am danynt i gyd o'r blaen, eithr nid oeddynt yn fwy i mi nag enwau, enwau mawr dyeithr, pell, a bron nad oeddwn yn synnu pan welais hwy eu bod mor debyg i bobl eraill. Ond er eu bod oil o dan y dywarchen werdd ers blynyddau, y maent wedi para yn fwy nag enwau i mi byth wedyn. Yr unig un o wyr amlwg y llwyfan honno sy'n aros yw Alltud Eifion, y fferyllydd o Dremadog. Adroddai englynion y pryd hwnnw, adroddai englynion pan welais ef ddiweddaf yn y,Rhyl ym mis Medi. A rhaid fod englynion Alltud Eifion cyn amled su rhif a phills Robert Isaac Jones. Ond prin credaf iddo gymeryd llawer o'r Pills a gymysgai bobl eraill onide ni buasai wedi byw mor hir. Cynhaliwyd gorsedd yng nglyn a'r eisteddfod honno hefyd, nid am naw o'r gloch y boreu, ond ar awr anterth, ac urddwyd yno amryw feirdd ac ofyddion. Yn eu plith yr oedd Cymro- fasnachwr o Lundain, oedd yn un o Siryddion y ddinas y flwyddyn honno. Nis gwn ragor o'i hanes heblaw i mi glywed iddo fynd o'r golwg dan y don yn fuan wedyn. Ym tnhen tua blwyddyn neu ddwy medrais fynd i eisteddfod lawer pwysicach, Eisteddfod Porthmadog yn 1872. Yr oedd cadair yn honno, a Chlynog a'i hennillodd, yr amaethfardd llwyd ei wedd a dirodres ei anian, a aeth i'w fedd mor gynnar. Buasai ennill cadair ac ugain punt, a chael y ganmoliaeth a rodded iddo ef, yn peri i ambell un golli ei ben, ond yr oedd Clynog mor hunanfeddianol a syml a phe yn pysgotta brithylliaid yn yr afon Wnion. Mynai ddychwelyd adref cyn bod yr wyl drosodd, a phan geisiai uchelwyr ei berswadio i aros hyd y diwedd, ei ateb syml ydoedd, Na, wir, rhaid i mi fynd i dorri yd." Arddelai y cryman ac ysnoden buddugoliaeth am ei fraich. Yno y clywais Clwydfardd yn adrodd ei gywydd i'r Aur:— "Am aur y mae ymorol, Heb yr aur bydd pawb ar ol." A chlywais ef yn adrodd yr un cywydd mewn eisteddfod ymhen mwy nag ugain mlynedd ar ol hynny. Yr oedd dwy aden yn un pen i'r babell o ddau tu yr esgynlawr, un o honynt wedi ei neillduo yn "Gcngl y Beirdd," a chaent fynediad rhad i'r gongl honno. Rywbryd yn ystod yr wyl gwnaeth rhywun englyn i'r babell, a dyma un peth ddywedodd am dani:— A phabell wedi ei phobi Run type a'r llythyren T." Yr oeddwn yn meddwl yr adeg honno fod cyfansoddi llinellau felly yn orchestgamp fwya'r byd. Nid oedd Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chynnal ers rhai blynyddoedd, ond cyhoeddwyd un i fod yn y Wyddgrug y flwyddyn ddilynol, ac mi benderfynais yr awn iddi, costied a gostio. Nis anghofiaf mo'r pedwar niwrnod hynny. Yr orsedd ar' Fryn y Beili, y Babell fawr, oedd tuhwnt i bob dychymyg a feddwn am dani ymlaen Haw, a'r llu aneiri o feirdd a cherddorion yn eu dillad goreu. Yr oedd Mr. Gladstone yno yn llywydd y cyfarfod cyntaf, ond methais gyrhaedd mewn pryd i'w glywed yn areithio. Gweld ei gerbyd yn cychwyn yn ol tua Chastell Penarlag yn unig a gefais. Ni bu Mr. Gladstone mewn eisteddfod wedyn am bymtheg mlynedd, hyd yn Wrexham yn 1888, pryd y traddododd araith nad a byth o gof y sawl a'i clywodd, araith a wnaeth i bobl a'i hwtient pan y daeth i mewn i'r babell wylo fel plant cyn pen pum munud. Fedraf fi ddweyd dim pa effeithiau a gynyrchodd araith y Wyddgrug. Ond gallwn feddwl iddi ddylanwadu yn bur ryfedd ar Taliesin o Eifion, oblegid dyma fel yr ymfflamychodd i'r areithiwr hyawdl Diafl ei hun arswyda'i floedd Yn trin eisieu teyrnasoedd." Ond os na ches glywed Gladstone, ces ddigon o dal am fynd yno. Ces weled Hwfa Mon, lewaidd yr olwg arno, yn cael ei gadeirio yn ol braint a defawd. Ces weled loan Arfon, Tafolog, a Threbor Mai, tri beirniad y gadair yn cerdded gyda'u gilydd i fynu'r stryt, loan yn edrych mor sobr a phe yn pwyso pwys o siwgwr, Tafolog a'i fodiau yn nhyllau llewis ei wasgod, a Threbor yn barnu gwaith y nodwydd ar siwtiau ei ddau gydymaith. Ces weled Owen Gethin Jones mewn het silk, ac Alfardd mewn het lwyd feddal fwy o faint na'r un dorth geirch bobodd fy mam erioed, ac Owen William batriarchaidd, yn cyfarch ei hunan fel ni," a phawb arall fel I C ti.?, Dim ond un Owen William fu, yr un hwnnw y dywedodd Clwydfardd am dano :— Y Waenfawr a'i enw fydd Yn gwlwm wrth eu gilydd." Ces glywed Mynyddog yn arwain fel na fedrai neb arall wneyd, ac Estyn yn methu arwain dim, ac yn gorfod apelio at y gwr o'r Fron i ddwyn y dorf i drefn. Ces glywed Mary Davies yn canu am y tro cynta mewn Eisteddfod Genedlaethol, a chor mawr Alun Jones yn telori alawon Cym- reig. Do, ces fod yn y steddfod am bron wythnos. Yn ben ar bobpeth arall, ces fod am y tro cynta rioed yng nghyfarfod y Beirdd. Sut yr eis i mewn 'dwn i ddim; tebyg mai cheek a'm cariodd, er na feddaf ddim llawer o nwydd gwerth- fawr VVil Bryan chwaith. Nid oedd son y pryd hwnnw am "docyn braint yr orsedd" yn allwedd i agor drws cyfarfod y Beirdd. Welais i yr un drysawr yno o gwbl. Yn yr Ysgoldy Cenedl- y aethol y cynhelid y cyfarfod, ac yr oedd llu mawr yn bresennol, a phawb yn llawn afiaeth. Os na wnai cyfarfod y Beirdd ddeuddeng- mlynedd-ar-hugain yn ol fawr o waith ymarferol (a phryd y gwnaeth beirdd ddim byd ymarferol ?), byddai bob amser yn llawn o hwyl. Ni phallai yr arabedd yn y Wyddgrug, a pha fodd y gallasai pan gofir fod Cynddelw, a'r Llyfrbryf, ac Alfardd, a Mynyddog yn bresennol. Ond meistr pawb mewn cyfarfod felly oedd Cyn- ddelw, a chaed engrhaifft o hynny yn y cyfarfod hwnnw. Yr oedd Eisteddfod Gadeiriol Mon wedi ei chynnal ym Mhorthaethwy ychydig yn flaenorol, yr eisteddfod lie y bu Alfardd a Thudno yn ffraeo ar y llwyfan yng nghylch dilysrwydd awdl Fferyllfardd. Yn nglyn a'r eisteddfod honno cynhaliwyd cyfarfod i ystyried yr orgraff Gymraeg. Cytunwyd ar amryw bethau, megis i ysgrifenu v yn lie f, ac f yn lie ff. Trodd y pwnc i fynu drachefn yn y Wyddgrug. Ioan Pedr a'i dygodd gerbron. Nid oedd ef yn Mhorthaethwy mae'n debyg, ond dywedodd ei fod yn cytuno yn galonog a'r C) fnewidiadau a awgrymid, eithr yr hoffai weled un cyfnewidiad ychwanegol yn cael ei fabwysiadu, sef ysgrifenu x am ch. Rhoddodd amryw resymau ym mhlaid y cyfnewidiad a awgrymai. Wedi iddo eistedd cododd Cynddelw i fynu, a direidi yn chwareu fel gwefr yn ei lygaid, a dywedodd ei fod ef yn ofni na thalai y cyfnewidiad a awgrymai loan Pedr o gwbl—iddo glywed am un dyn a arferai ysgrifenu felly, ond ni wyddai y rhai dderbynient ei ohebiaethau ddim am ei ffansi, a sain x a roddent hwy i'r llythyren. Felly, yn lie darllen ei ddymuniad da ar ddiwedd llythyr yn lach y b'och, a'ch teulu hefo chi," darllenodd un cyfaill, "Yn iax y box, ax teulu hefo xi." Yr oedd yr effeithiau yn drydanol, ac arfer iaith newydd- iadurol. Chwarddwyd awgrym Ioan Pedr dros y bwrdd, ac ni chlywyd fawr o son byth wedyn am gyfnewidiadau Porthaethwy chwaith. Dyna, Mr. Gol., dipyn o'm hadgofion i am eisteddfodau gynt. Bum mewn llawer eisteddfod wedyn nad oes fawr iawn o'u hargraffiadau yn aros. Byddaf yn meddwl nad yw pobl ddim yn medru cadw steddfod cystal, ond efallai mai myfi sy'n anhawddach fy moddio. JASPER JONES.

Advertising