Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

Diwygio'r Sais.

News
Cite
Share

Diwygio'r Sais. Y CYFARFODYDD YN ALBERT HALL. A ELLIR diwygio'r Sais ? Pan ystyriwn ei ddull hunan-gyfiawn o farnu pob cenedl arall, ac yr adgofiwn mor fuan y gadawodd o'r neilldu yr ychydig frwdfrydedd a grewyd gan Moody a Sankey rhyw chwarter canrif yn ol, a gweled ym mhellach yr agwedd nychlyd, ddieffaith sydd ar Fyddin y Cadfridog Booth, yr ydym yn barod i gredu fod y gwaith yn amhosibl. Ond beth am y torfeydd a dyrrant i'r Albert Hall y dyddiau hyn ? meddech. Ydynt, y mae'r bobl yn heidio yno, ac mae'r cyfan yn hollol nodweddiadol o'r Sais, ac yn un o'r awgrymiadau cadarnaf mai peth hollol ofer fydd disgwyl yr un Diwygiad yn ol y drefn hon. Hynny yw, Diwygiad a esyd ei ddylanwad ar fywyd y genedl, ac y gall hanesydd y dyfodol edrych yn ol arno i'w alw yn gyfnod newydd ym mywyd crefyddol y ddinas yma. Edrycher ar ei darddiad. Nid rhywbeth a grewyd gan awyddfryd sanctaidd ein harweinwyr crefyddol yw, nac ychwaith unrhyw amlygiad a dorrodd allan gyda sydynrwydd anesboniadwy, fel ag a gaed yn Neheudir Cymru eithr effaith naturiol i barotoadau helaeth a wnaed gan rai o edmygwyr dau o efengylwyr Americanaidd sydd ar ymweliad a'r wlad hon ers cryn amser ydyw. Trefnydd dan gamp yw'r Sais, ac mae'r trefn- iadau sydd wedi eu gwneyd yn ystod y misoedd diweddaf gogyfer a dwyn Llundain o dan ddylanwadau ysbrydol wedi costio yn agos i ugain mil o bunau mewn hysbysiadau, heblaw llawer iawn o aberth ar ran uchelwyr cym- deithasol," y rhai a aethant allan am dro i wahodd y gwrthgilwyr a'r afrad i ddyfod i wrando ar swn efengyl hedd ynghanol eu helbulon daearol. Do, fe wnaed trefniadau helaeth, ac mae'r cynhauaf yn dangos fod yr hysbysiadau wedi profi yn llwyddiant, oherwydd mae'r miloedd a ddeuant ynghyd yn gwneyd eu cyfran ym mhob oedfa tuag at gyfarfod a'r treuliau yr aed iddynt. Y ddau genhadwr ydynt y Mri. Torrey ac Alexander, a gweithiant ar gynllun tebyg i'r ddau efengylydd bydglodus gynt, Mri. Moody a Sankey. Arweinir y gan gan Mr. Alexander, a chanwr rhagorol yw hefyd a thraddodir y genhadaeth ysbrydol gan Mr. Torrey yn eithaf llithrig, llawn difrifwch, ac yn ddigon "hen ffasiwn." Wrth ymweled a'r neuadd yn ystod yr wythnos a aeth heibio nis gallwn lai na sylwi ar y wedd barchus, hunan-foddhaus, a hapus oedd ar bawb yn y lie. Hynafgwyr trwsiadus, masnachwyr cefnog-pobl dda yn byw ar use eu harian," ys dywedir-gwragedd ffasiynol, merched yn eu sidanau, a phawb yn hollol gartrefol yn y seddau, fel pe wedi dod allan am ddwy awr i ryw fath o entertainment cyffredin. 0 gylch y drysau safent yn rhengoedd hirion yn aros eu tro, fel pan yn mynd i'r chwareudy. Yn hen gapel Llangeitho ers talwm roedd dau

Advertising

EnwogionCymreig.-XXI. Mr.…