Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

Diwygio'r Sais.

Advertising

EnwogionCymreig.-XXI. Mr.…

News
Cite
Share

rhagddynt. Casglodd y swm o 90 ginis, digon i ddwyn traul addysg un efrydydd yn yr Athrofa am dair blynedd. Rhoed yr ysgol- oriaeth yn agored i aelodau y cor, a Miss Mary Davies a'i hennillodd. Wedi gweled yr ymgais yn troi allan mor llwyddianus pender- fynodd Pencerdd Gwalia y mynnai gael rhyw- beth parhaol. Casglodd y swm o Fil o Ginis, ac yn 1883 sefydlwyd ysgoloriaeth Gymreig arosol yn Athrofa Frenhinol, a galwyd hi, fel y dylesid ei galw, yn "Ysgoloriaeth John Thomas." Ni feddwn ofod i ymhelaethu ar lafur dirfawr Pencerdd Gwalia fel athraw ac awdwr a beirniad eisteddfodol, nac ychwaith ar yr anrhydedd a osodwyd arno o bryd i bryd gan bob cymdeithas gerddorol o bwys ym Mhrydain ac ar y Cyfandir. Mae ei enw yn air teuluaidd yn holl gylch- oedd cerdd, a thra bo cerdd dant yn cael ei gwerthfawrogi nis anghofir un o feibion mwyaf athrylithgar Gwlad y Delyn.