Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising

EnwogionCymreig.-XXI. Mr.…

News
Cite
Share

EnwogionCymreig.-XXI. Mr. John Thomas (Pencerdd Qwalia). GWLAD Y DELYN—dyna un o'r enwau prydferth a roddir i hen Gymru anwyl. Pa mor enwog ac anrhydeddus bynag a fu yr offeryn per ei sain mewn gwledydd eraill, ni chafodd fwy o anrhydedd yn unman nag ym mhlith y Brythoniaid. Gall ein cenedl ni ei hawlio fel ei hofferyn cenedlaethol er cyn cof a chyn hanes. Mewn dyddiau pell yn ol yr oedd mor gysegredig fel na oddefid i gaethwas eyffwrdd a'i thannau. Nid ystyrid neb yn foneddwr oni byddai yn alluog i ganu y delyn, ac ni chaniateid ei rhoddi yn wystl na'i hatafaelu am ddyled. Yr oedd y telynor proffesedig yn meddu llawer o ragorfreintiau, croesawid ef ym mhob man fel gwr etholedig, yr oedd ei dir ef uwchlaw ei drethu na'i oresgyn. Yn ddiweddarach collodd y delyn a'r telynor eu safle gyntefig, ond daliodd serch y genedl i ymglymu am danynt yn rhyfedd. Braslun o'r gwr sydd wedi cysylltu ei enw a'i delyn yn anwahanadwy yw yr un a roddwn i'n darllenwyr y tro hwn. Ganwyd Pencerdd Gwalia -oblegid dyna fel yr adwaenir ac yr anwylir ef gan ei gydwladwyr--ym Mhenybont-ar-Ogwy ar ddydd Gwyl Dewi, 1826. Ni feddyliai neb wrth edrych arno ei fod yn tynu mor agos i'w bedwar- ugeinfed flwyddyn. Mae ei ysgogiad mor heinyf, ei gerddediad mor hoew, ei feddwl mor fywiog, a'i ddwylaw mor ystwyth ar y tannau ag oeddynt cyn geni neb o'r genhedlaeth bresenol. Mae ieuengrwydd tyner ac iraidd ei hoff offeryn 9 1 fel pe wedi treiddio i'w natur yntau, ac yn herio amser i'w heneiddio. Dangosodd John Thomas yn bur gynnar ei fod yn meddu talent gerddorol eithriadol. Medrai chwareu yn feistrolgar ar y piccolo pan yn chwe mlwydd oed. Yn yr oed hwnnw cymerodd ei le ym mysg seindorf a gyflogwyd i arwain etholwyr ar ddiwrnod y polio. Cyn hir wedyn prynodd ei dad, yr hwn oedd yn llawn o asbri cerdd, delyn iddo, telyn yr hen delynor dall o'r Drefnewydd a gyfansoddodd Y Ferch o'r Seer." Swynwyd y bachgen yn llwyr gan y trysor newydd. Canai hi o'r bore hyd yr hwyr. Pan oedd yn un-ar-ddeg oed, cafodd ei dalent gyfle i ddod, i amlygrwydd gerbron y cyhoedd Yn Eisteddfod y Fenni. Yn yr eisteddfod honno cynygid gwobrwyon o bedair telyn deir-rhes i'r rhai a'u canent oreu. John Thomas oedd yr ieuangaf o'r holl gystadleu- wyr, ond er syndod iddo ei hun ac i bawb arall, curodd y cwbl o honynt yn deg, a chafodd yr oreu o r pedair telyn. Mae yn ei chadw yn ofalus hyd heddyw ym mysg ei drysorau penaf. Rhoddodd y llwyddiant hwnnw g)feiriad sicr i'w fyvvyd. Penderfynodd fod yn delynor. Cyn hir iawn ar ol hyn, drwy garedigrwydd larlles Lovelace, unig ferch Arglwydd Byron, llwyddodd i gael mynediad i'r Athrofa Gerdd Frenhinol. Dechreuodd fyw ac efrydu yno pan yn bedair-ar-ddeg oed, a pharhaodd y tymhor am chwe blynedd. Ym mysg ei gydefrydwyr yr oedd Walter Macfarren a'r diweddar Brinley Richards. Gweithiodd yn galed iawn yn ystod y blynyddoedd hynny, gan godi yn ami, meddai ef ei hun, am bedwar o'r gloch y boreu ar foreuau oer, a rhwymo planced ei wely am dano i gael tipyn o gynhesrwydd. Ei athraw ar y delyn oedd Balsir Chatterton, y telynor Brenhinol. Y mae rhyw gysylltiad wedi parhau rhyngddo a'r hen sefydliad cerddorol enwog o'r pryd hwnnw Photo by] [Lavender, Bromley, Kent. MR. JOHN THOMAS (Pencerdd Gwalia). hyd yn awr. Etholwyd ef yn aelod, yn Is-athraw, yn Broffeswr, ac yn Gymrawd. A oes rhywun arall a fedr ymfalchio mewn perthynas ddidor o bum mlynedd a thri-ugain ag unrhyw sefydliad ? Erbyn terfyn ei dymhor yn yr Athrofa fel efrydydd yr oedd Mr. John Thomas wedi ennill iddo ei hun enw fel telynor. Daeth yn amlwg iawn yng nghyngherddau blwyddyn yr Arddang- osfa—1851—pan oedd Jenny Lind yn uchder mwyaf ei phoblogrwydd. Y flwyddyn honno aeth Am Daith i'r Cyfandir, a charodd gyfle i chwareu ei offery n per o flaen brenhinoedd a thywysogion. Tynnodd sylw arbenig Brenhin Hanover oblegid ei fod yn medru canu a'i ddwy law yr un fath a'u gilydd yn union. Eglurodd yntau mai i'w ymarferiad ar y delyn Gymreig pan yn fachgen yr oe&i%n ddyledus am y medr hwnnw. Ymwelot-fd a'r Cyfandir bob blwyddyn am y deg mlynedd can- lynol gan ennill clod ac anrhydedd ychwanegol bob tro. Ond yn y sixties y daeth Mr. John Thomas yn adnabyddus i'w holl gydwladwyr, ac yn un o brif golofnau y byd cerddgar Cymreig. Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdar yn 1861 cafodd Ei Urddo yn Bencerdd GwaHa, ac wrth yr enw swynol hwnnw yr adnabyddir ef mwy. Yn 1862 cyhoeddodd ei gasgliad gwerth- fawr oalawon Cymreig, a'r un flwyddyn trefnodd i gael cyngherdd Cymreig yn St. James' Hall, y cyntaf o'r natur honno. Medd hanes y cyng- herdd hwnnw ddyddordeb ychwanegol oblegid mai ynddo y gwnaeth Edith Wynne ei hym- ddangosiad cyntaf yn y Brifddinas. Profodd y cyngherdd yn eglur i'r Saeson fod ystor o beror- iaeth yn eiddo'r Cymro nad oedd ef wedi dychmygu am dani o'r blaen. Er 1862 y mae cyngherdd Pencerdd Gwalia wedi bod yn un o brif atdyniadau St. James' Hall. Yn 1863 ysgrifenodd ei gantawd Llewelyn" ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Bu bron iddi fynd yn drychineb ofnadwy y noson benodedig i'w pherfformio. Gan faint awydd y bobl i'w chlywed gorlanwyd yr adeilad, a deallwyd fod yr oriel yn rhoddi ffordd. Bu raid troi y gynnulleidfa enfawr allan, ac er mwyn iddynt fyned heb panic canai Edith Wynne. Gwnaed yr oriel yn ddiogel erbyn nos drannoeth, a chaed canu nodedig. Yn Eisteddfod Caer yn 1866 cyflwynwyd i'r Pencerdd bwrs yn cynwys 450 o ginis yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i gerddoriaeth Gymreig. Blwyddyn bwysig iddo oedd 1871, y flwyddyn y pennodwyd ef yn Delynor i'r Frenhines Victoria, swydd a ddaliodd nes y bu farw ei Mawrhydi, a swydd yr ail-benodwyd ef iddi gan y Brenhin Iorwerth pan esgynodd i'r orsedd. Yn 1871 sefydlodd hefyd yr Undeb Corawl Cymreig, cymdeithas a wnaeth lawer iawn i ddwyn cerdd- oriaeth Gymreig yn boblogaidd yn Llundain. Wrth arwain y cor sylwodd fod rhai o'r aelodau ieuangaf yn meddu talentau neillduol, a meddyl- iodd am wneyd rhywbeth i'w helpu i ddod HENRY BOWN, Photographic Artist, 43, NEW KENT ROAD. 298, Clapham Road, 31 and 33, Jamaica Road. High-class Work at Lowest Prices. Well recommended by Welshmen generally.