Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Am Gymry Llund sin.

News
Cite
Share

Am Gymry Llund sin. HANES un o Gymry Llundain gan mlynedd yn ol oedd testyn anerchiad dyddorol draddod- wyd gan Mr. T. J. Evans o flaen Cymdeithas y Brythonwyr, nos Fawrth diweddaf. Daeth Jack Glanygors (neu a rhoi enw respectable arno) Mr. John Jones, o Gerrig-y-Druidion i'r brifddinas pan tua 15 neu 16 oed, fel Grocer's Assistant. Ymunodd ef a Twm o'r Nant, ac amryw eraill a Chymdeithas y Gwyneddigion, lie cenid y delyn ac, yn ol arfer yr oes honno, yr yfid brag barddol. Ymadawodd y Gymdeithas a Chymdeithas y Cymmrodorion am fod y diweddaf yn rhy Seisnigaidd. Ond haerai ysgrifenydd presenol y Gymdeithas nad oedd hyn gywir. Yn y flwyddyn 1785 cyhoeddodd "Jack"ei lyfr yn condemnio gorthrymwyr y Cymry ac yn erbyn brenhinoedd yn gyffredinol. Am hyn daeth dan wg yr awdurdoJau gwladol. Efe oedd un o'r cyntaf i awgrymu y ballot, ac y mae amryw o'r gwelliantau gwleidyddol a gynnygiai wedi eu dwyn i ymarferiad erbyn hyn. Yn 1797 cyhoeddodd lyfr o'r enw "Toriad y Dydd," math o utftpia a ddychmygai. Er nad yn llawer o lenor y mae rhai o'i duchangerddi yn bur ddigrifol. Tua 1800 ymgymerodd a chadw tafarn o'r enw King's Head," yn Lud- gate Street, rhan rhwng yr Old Bailey a St. Paul's Churchvard, o'r hyn a elwir yn Ludgate Hill yn awr. Saif tafarndy Daniel Lambert ar y fan yn awr. Claddwyd y Cymro arabaidd a thynergalon hwn gerllaw St. Paul's Church- yard, nid neppell o'i dafarndy. Y mae Mr. Evans wedi myned i lafur mawr i chwilotta i hanes yr hwn a alwai yn ddechreuwr y mudiad Rhyddfrydol yng Nghymru, a disgwylir y daw a ffrwyth ei lafur i oleu dydd y wasg. ST. MARY'S, CAMBERWELL. — "Does the British nation indulge too much in sport ?" This interesting subject occupied the attention of our Debating Society on Tuesday last, and resulted in a narrow defeat for the sportsmen. The unenviable duty of opposing the present passion for sport was undertaken by Mr. D. Davies, and his remarks were very appropriate and effective, and this, coupled with the fact that the resistance offered was feeble and not exactly to the point, enabled him to gain the favour of the house. It is pleasing to note the continued success of these meetings, and with Easter Monday's Eisteddfod to prepare for as well, it may be said that St. Mary's at present is the home of enthusiasm and good work.-A. L. CITY ROAD.-Nos Iau, Ionawr 26ain, cyn- haliwyd swper goffi, y wledd yn cael ei rhoddi gan Mr. Ebenezer Hughes, yr hwn sydd yn ffyddlawn a gweithgar yn nglyn a'r achos yn City Road. Ni ddaeth y cadeirydd penod- edig. Yn ei absenoldeb, cymerwyd y gadair gan Mr. Edmund Evans. Canwyd gan Misses Lila Thomas (Hackney) a Linell, a'r Mri. J. Bedford Morgan a J. Tudor Evans. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Deborah Rees, yr hon hefyd a roddodd Humorous Sketches" yn ddoniol iawn. Cafwyd hefyd wasanaeth y phonograph, dan reolaeth Mr. Arthur Jenkins. Hefyd cafwyd cystadleuaeth, desgrifio gwrth- rych heb ei enwi. Dyfarnodd Mr. Barker y wobr i Mr. John Richards (Barbican). Daeth mwy nag arfer yn nghyd, a chafwyd casgliad rhagorol.-Nos Wener, Chwefror 3ydd, cafodd y Gymdeithas uchod y fraint o wrando ar anerchiad rhagorol ar y diweddar Barch. Thos. Oliver (gweinidog Wesleyaidd) gan y Parch. T. Wynne-Jones (Leyton). Cydoesai Mr. Oliver a John Wesley, ac yr oedd yn enedigol o Dre- gynon. Gwnaeth Mr. Jones sylwadau arno fel crydd, pregethwr, ac emynwr. Yr oedd o gymeriad drwg eithafol hyd nes yr oedd tua 22ain oed. Argyhoeddwyd ef yn Bryste, pan yn gwrando ar Whitcliffe yn pregethu. Yna dychwelodd i Dregynon, a dechreuodd bregethu yn uniongyrchol ar yr heol. Bygythiodd yr awdurdodau ei roddi yn y stocks os na byddai iddo beidio. Atebodd yntau nad oedd arno ofn y stocks, ond na pheidiai a phregethu. Gan hynny, rhoddwyd ef ynddyrrt, ond par- haodd ef i bregethu am dair awr er fod ei ddwylaw a'i draed yn rhwym yn y cyffion. Cydlafuriodd a John Wesley yn y weiniclogaeth am 46 mlynedd, a bu fyw wyth mlynedd ar ol marwolaeth Wesley. Claddwyd y ddau yn yr un bedd tu ol i Gapel Wesley, City Road. Yr oedd y blynyddoedd hynny yn cael eu nod- weddu gan lawer o ddadleu ac ymgecru ym mhlith y gwahanol enwadau crefyddol. Dywedai Mr. Tones fod yn dda ganddo feddwl y bydd ir Diwygiad presenol beri na bydd gan bobl Dduw nac amser nac awydd i ymddadleu a'u gilydd, ond yn hytrach gwasanaethu Dpw mewn ysbryd a gwirionedd. "NODDFA" TOTTENHAM.—Bob nos Fercher cynhelir cyrddau gweddi yn yr eglwys fechan hon ar linellau y cyrddau diwygiadol yng Nghymru, ac y mae Ysbryd Duw eisoes wedi ymweled a hi. Nos Fercher wythnos i'r diweddaf ymwelodd rhai o aelodau Holloway (M.) a hi, a chafwyd cwrdd neillduol o dda, a Duw yn gwenu ar yr oedfa. Ar ol i'r cwrdd orphen am tua deg o'r gloch, penderfynodd pump o'r rhai oedd yn bresenol i barhau mewn gweddi, gan ddymuno am dywalltiad helaethach o'r Ysbryd, ac ni siomwyd hwy yn hyn, oblegid ymwelodd Duw a hwy mewn modd arbenig. Nid anghofir y cwrdd hwn gan un o honynt byth. Nos Tercher diweddaf drachefn cafwyd cwrdd bendigedig, ym mha un yr oedd aelodau Red House (M.) a Noddfa (B.) mewn undeb yn gweddio am yr un fendith Daeth y cawodydd drachefn yn drymion ar yr oedfa, ac yr oedd pawb mor gartrefol wrth waith yr Arglwydd ac y byddai wrth rhyw waith arall. Cymerodd pob un oedd yn y lie ran yn y cyfarfod. Mewn gwirionedd, yr oedd yn nefoedd ar y ddaear i fod yno yn eu plith. Yr oedd yn hyfryd dros ben i weld y ddwy sect mor gynes at eu gilydd, y naill yn dymuno y goreu i'r llall. Parhaed brawdgarwch. Nos Sal diweddaf, er i'r gweinidog parchus ddechreu codi ei destyn, trowyd y cwrdd pregethu yn gwrdd gweddi, a chafwyd oedfa dda, yng nghwmni amryw ddyeithriaid. Os mai ernes ydyw y cyfarfodydd hyn o rywbeth sydd i ddod, bydd Diwygiad Cymru yn beth mor real yn Tottenham. Mewn ffydd credwn fod y dydd bron gwawrio. Gobeithiwn y bydd i bawb a allo tu allan i'r cylch ymweld a'r lie i gynorthwyo y gwan, ac hefyd i weddio ar eu rhan, gan gredu y bydd i'w gweddiau gael eu hateb.

Advertising