Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Notes of the Week.

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

sicr mae dweyd mai cynyrch dychymyg gwall- gof ac afresymol yw pobpeth a elwir yn weled- igaeth yn anwyddonol i'r eithaf, ac y mae y rhai a wnant hynny yn cymeryd safle barnwyr ar gyflyrau a chyrhaeddiadau eu brodyr na feddant hawl i'w chymeryd o dan unrhyw amgylchiadau. Mae gan y dyn sy'n cael gweledigaethau, neu yn tybied ei fod yn cael, yr un hawl yn union i ddweyd mai eu daearoldeb sy'n cyfrif dros fod eraill heb eu cael, ag sydd gan yr eraill hynny i awgrymu ei fod yntau yn byw yn y diriogaeth ar fin gwallgofrwydd. Yr wythnos ddiweddaf daeth ymosodiad ar y Diwygiad-neu yn hytrach ar Mr. Evan Roberts a'r rhai a gydweithredant ag ef-o gyfeiriad nad oeddym ni, beth bynnag, ac ni chredwn fod odid neb arall chwaith, yn ddisgwyl. Cyhoeddwyd yr ymosodiad hwn yn ngholofnau y Western Mail, a thynnodd sylw neillduol, a pharodd ofid annaele i filoedd o bobl a feddant barch calon i'r gwr a'i hysgrifenodd. Ni fynem gaethiwo hawl neb i ffurfio syniad am Mr. Evan Roberts yn ol fel yr ymddengys iddo, na gomedd rhyddid i draethu y cyfryw syniad. A llawer llai y cytunwn i erlid unrhyw un oblegid nad yw y syniadau a ffurfir ac a draethir ganddo yr un a'r eiddom ni. Yr ydym yn credu fod gweinidog Bethania, Dowlais, yn hollol onest yn yr oil a ysgrifenodd; ond ar yr un pryd anghytunwn yn y modd llwyraf a phob peth a ddywed yn ei lythyr. Mae ton y llythyr o'r dechreu i'r diwedd yn chwerw a sar- haus, ac y mae rhai o'r ymadroddion a ddefnyddir am Evan Roberts yn anheilwng hollol o foneddig- eiddrwydd gwareiddiad, heb son am frawdgarwch Cristionogok Y gwir yw, yr ydym yn methu yn glir ag amgyffred o dan gynhyrfiad pa ysbryd yr hudwyd gwr a arferai fod mor Ilawn o rydd- frydigrwydd a natur dda i roddi y fath ymadrodd- ion ar bapyr. Ac y mae safbwynt y llythyr .drwyddo—fod dau ddiwygiad yng Nghymru, un yn nefol a'r Hall yn ddim ond ffug-yn wrthuni hollol. A oes rhyw wahaniaeth rhwng y dylan- wad yn y cyfa'fodydd y bj Evan Roberts a'i gynorthwywyr ynddynt a'r rhai na byddont ? A yw y dychweledigion yn israddol ? A yw yr effeithiau daionus yn llai parhaol ? Yn ol pa safon yr ydym i farnu ? Pa fodd y gallwn adnabod y gwir ac adnabod y gau ? Dylai y gofyniadau hyn gael eu hateb yn bur glir cyn y gellir ein hargyhoeddi ni fod dau ddiwygiad yng Nghymru. Gwyddom mai nid Evan Roberts yw Crewr y diwygiad—un a grewyd ganddo ydyw ef, ac fe'i creodd i fod o wasanaeth aruthrol. Buom ninnau yng nghyfarfodydd Evan Roberts, ac nis gallwn byth eu hanghofio. Nid ydym yn dweyd eu bod yn berffaith; pa gyfarfod sydd yn berffaith ? Ond yr ydym yn dweyd yn ddibetrus eu bod yn nes i fod yn berffaith nag unrhyw gyfarfodydd eraill y buom ynddynt. Os adwaenasom ddyn unplyg a gonest erioed, dyn felly yw Evan Roberts. Ond yr hyn y gofidiwn fwyaf o'i blegid yw y niwed a all ddilyn y feirniadaeth lem hon o'r mudiad daionus. Buasem yn meddwl y dylasai y ffaith fod cymaint o ddaioni ymarferol yn canlyn hyd yn, nod ffug-ddiwygiad fod yn ddigon i beri i bawb sy'n caru sobrwydd a buchedd dda arswydo rhag gwneyd dim a allasai ei atal. Ond daw chwerwder ysbryd a theimlad drwg i mewn o angenrheidrwydd yn wyneb y fath ymosodiad. Cymer pob un a chwenychai i'r Diwygiad ffaelu fantais ar y sefyllfa i wneyd a allo i beri i ddrwg deimlad enynnu. A bydd yn sicr o roddi cyfle i bobl ddywedyd mai eiddigedd gweinidogaethol ydyw oblegid mai un nad yw yn meddu urdd o unrhyw fath sydd wrth wraidd y cwbl. Y maent yn dweyd hynny yn barod. Clywsom am un a sicrhai fod holl weinidogion Cymru yn teimlo yr un fath at Evan Roberts ag y teimla y Parch. Peter Price, ond mai efe'n unig sy'n ddigon gonest, neu yn ddigon ynfyd, i ddatgan hynny. Yr ydym yn dweyd eto ein bod yn credu fod Mr. Price yn gwbl onest, ond po fwyaf y meddyliwn am ei lythyr dyfnheir ein hargyhoeddiad ei fod wedi syrthio i un o'r camgymeriadau mwyaf y gallai gweinidog yr Efengyl syrthio iddo o ba gyfeiriad bynnag yr edrychir ar y mater.