Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

Nodiadau Golygyddol. BEIRNIADU Y DIWYGIAD. BYDDAI yn afresymol i neb ddisgwyl i achos mor neillduol ac arbenig a'r Diwygiad gael ei adael i fyned heibio heb ei fesur a'i gloriannu, ac i rywrai ei gael yn brin. A phe buasai y fath beth yn bosibl cawsid rheswm pur gryf dros ddod i'r casgliad nad oedd llawer o werth gwirioneddol yn perthyn iddo. Gwae chwi pan ddwedo pawb yn dda am danoch meddai yr awdurdod uchaf wrth y diwygwyr cyntaf a anfonodd allan. A gallwn yn hawdd ddeall fod rhai pethau ynglyn a'r cyfarfod\dd nad allai pawb eu cymeradwyo, hyd yn nod o'r bobl sydd yn ewyllysio y goreu i grefydd efengylaidd. Ysywaeth mae cryn nifer i'w cael o rai sydd yn edrych ar bobpeth a gyfrifir yn efengylaidd gydag amheuaeth os nad gyda graddau o elyniaeth. Naturiol yw i'r rhai hynny ddal ar bob agwedd a digwyddiad y gellir eu defnyddio i dynu y Diwygiad i lawr. Ond y mae dosbarth arall o bobl sydd yn caru lies moesol y genedl, yn methu deall yr amlygiadau o deimlad brwd, yr argyhoeddiadau dyfnion, y dychweliad at ffurfiau Piwritanaidd o fywyd ac ymarweddiad sydd yn nodweddu y personau yr ymafla ysbryd y Diwygiad )nddynt. A gallwn yn hawdd amgyffred pa fodd y mae y dynion sydd wedi arfer edrych ar bethau yng ngoleuni rheswm oer yn cael eu tarfu gan y son am weledigaethau a breuddwydion. Carem gyfeirio sylw y bobl hyn at athronddysg feddylegol y Proffeswr William James, un o'r meddylegwyr penaf sy'n fyw, a gwr sydd wedi gwneyd y mater yn bwnc neill- duol ei astudiaeth. Onid yw yn bosibl y gall fod cyfansoddiad ambell i feddwl yn ei wneyd yn llawer mwy byw i gyffyrddiadau y byd anweledig ac ysbrydol na meddwl arall? Yn