Hide Articles List

6 articles on this Page

Colofn y Gan.

News
Cite
Share

Colofn y Gan. CYRDDAU ALBERT HALL.—Y mae cerddor- iaeth yn gwneyd i fyny y rhan helaethaf o gyrddau cenhadol Torrey-Alexander a gynhelir ar hyn o bryd yn yr Albert Hall. Ym mysg y tonau a genid yno cafwyd un don ag sydd wedi bod yn boblogaidd yn y Diwygiad Cym- reig. Ond y don boblogaidd yn yr Albert Hall ydyw y "Glory Song," ar yr hon y mae cryn "hwyl." Fel cyfansoddiad, nid oes fawr i'w ddweyd am y don, ond drwy ynni yr ar- weinydd gyda chor mawr y mae effaith y canu yn briodol iawn mewn cyfarfodydd o'r natur yma. CANIADAETH Y CYSSEGR.—Llawer sydd wedi ei ddweyd o bryd i bryd am ddylanwad cerdd- oriaeth gysegredig ar ddynolryw. Yn awr, wele engreifftiau byw o'r peth yn yr Adfywiad Cref- yddol presenol. Fe welir fod canu mawl wedi bod yn offeryn effeithiol yn y Diwygiad yng Nghymru, a'r un yw'r hanes ynglyn a chyfar- fodydd Torrey-Alexander. Ac nid oes dim sy'n harddach na gweled tyrfa yn canu eu moliant i'r Nefoedd. Anhawdd genym gredu fod dim ar ffordd iachawdwriaeth dyn pan y byddo'n canu ac yn moli yn yr ysbryd hwn. Y MAE yn hyfryd sylwi hefyd fod tueddiadau cerddorol ein crefyddwyr heddyw yn wahanol i'r hyn oeddynt yn yr amser a aeth heibio. Yr amser hyny nid oedd dim a wnaethai y tro ond ton leddf, ie gor-leddf, ar eiriau trymllyd ond, erbyn hyn, yr ydym yn dechreu dysgu moli yr Arglwydd yn y cywair lion. Yr ydym yn llawer mwy gobeithiol gyda'n canu, ac nid marw, eithr byw, yw ein nod. YR ydym yn hoff o'n hemynau a'n tonau, ac nid aiff enwau Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths, neu Ieuan Gwyllt a "Phryscol" o'n cof tra caniadaeth y cysegr. Ond, yr hyn a hoffem ydyw mwy o arfer y Salmdon yr ydym yn hwyrfrydig iawn i'w mhabwysiadu fel rhan sefydlog o'r gwasanaeth crefyddol. Y mae rhai beirniaid yn dal mai canu'r Salmau ydyw y modd effeithiolaf a gogoneddusaf o ganu mawl. Y mae canu Yr Arglwydd yw fy Mugail" a Molwch yr Arglwydd gyda'r deall a'r ddawn briodol yn adgyfnerthiad ysbrydol i ddyn. Y MAE digon o le i ni wella yn yr Eglwysi Cymreig yn Llundain. Mwy o fawl a llai o bregethu, yn ddiau, a wnaethai ddaioni; ac nis gellir bod yn rhy ofalus gyda'r canu, eithr rhodder y goreu yn y Capel neu'r Eglwys. Yr oedd yr hen bobl gynt yn coleddu syniadau rhyfedd am "y canu," a mawr y stwr os sonid am gael offeryn i "ledio" yn y Bethel. Yr oedd rhai o honynt yn edrych ar yr harmon- ium fel rhyw elyn peryglus. Y mae un capel yn ein mysg yn Llundain heddyw—neu, o'r hyn lleiaf, yr oedd ychydig wythnosau yn ol pan yr ymwelsom a'r lle-heb offeryn ynddo. Paham, nis gwyddom. Ond y mae'r canu yn dda yno, a diau y buasai yn llawer gwell pe caent organ i'w cynorthwyo. HEDDYW (Sadwrn) cynhelir cyngherdd am y tro olaf yn hen neuadd bobllogaidd St. James's Hall. Tynnir y lie i lawr er adeiladu gwesty. Agorwyd y neuadd hon ar yr 2fed o Fawrth,

Advertising

[No title]

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

Advertising