Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DIAFOL NEWYDD.

YR ATHRONYDD A'R PENNILL.

News
Cite
Share

YR ATHRONYDD A'R PENNILL. Dro yn ol rhoddodd Athronydd ac Esgob eu barn o berthynas i darddle y Deffroad. Yr oedd y ddau foneddwr yn unfryd-unfarn teimlad oedd Achosydd y cyfan. Yn fuan ar ol y dwthwn hwnnw arweiniwyd yr Athronydd i seiat gan ei gyfeillion. Yr oedd rhyw ysbryd yn awyr yr odfa na theimlwyd ei debyg ers talm. Gwir nad oedd yn weledig, eto daethai mewn ufudd-dod i wahoddiadau taerion. Ym mhlith eraill, cododd yr Athronydd ar ei draed; ac wrth draethu ei feddwl ar athroniaeth crefydd, arweiniwyd ef yn ddifeddwl gan rhyw angel glan at hen bennill a ddysgasai efe pan yn blentyn bach. Tra gyda'r gorchwyl hyfryd hwnnw, daeth yn amlwg i'r gynulleidfa fod y boneddwr dysgedig mewn "ystorm." Trechodd yr hen bennill ef yn wych. Disgynodd gwlaw calon ar ei wyneb, ac nis mynai ei guddio. Yr oedd yr Athronydd yn fyw o deimlad hyfryd, ond atolwg pwy roddodd y teimlad ar dan ? Adgofion ? Efallai, ond nid oedd yr adgofion yn ddim amgen na magdanau; Haw pwy a ddefnyddiodd yr adgofion i bwrpas felly ? Nid diogel myned ar gefn pennillion y dyddiau hyn, canys y mae digon o rym ynddynt, er diniweitied eu golwg, i ddwyn yr iach ei ysbryd i'r llwch.

MR. EVAN ROBERTS.

Oxford Notes.

Advertising