Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DIAFOL NEWYDD.

News
Cite
Share

Y DIAFOL NEWYDD. Y mae Dr. Cynddylan Jones yn feistr ar watwareg. Wrth anerch cynulleidfa yn Aber- carn aeth rhagddo i adrodd hanes Diwygiad '59. Collai cynulleidfaoedd y Deffroad hwnnw hefyd bob rheolaeth arnynt eu hunain. Atalient y pregethwr ar ganol ei bregeth. Haerai y beirniaid oerion a doeth fod y bobl yn wallgof; nas gallasai yr Ysbryd Glan, o bawb, achosi peth felly. Rhaid mai rhyw ysbryd arall oedd wrth y gorchwyl-rhyw; ddemon, neu ddiafol newydd. Adwaenai pawb yr hen ddiafol wrth ei waith. Gyru pobl yn heidiau i'r tafarnau y byddai efe. Eu. gwallgofi a than uffern. Cymeryd eu dillad oddiam danynt; peri iddynt ymddwyn at eu gwragedd a'u plant yn waeth na phe buasent yn fwystfilod. Rhoddi Cymraeg a Saesneg y Trueni yn eu genau. Wrth gwrs, yr oedd yr holl wlad yn ei awdurdodi ef; nis gallai wadu ei hun. Ond am y diafol newydd, myn hwn yru y bobl wrth y miloedd i'r addoldai. Gwna iddynt ffieiddio eu hen fywyd. Dyd ddillad newydd am eu cyrph, ac arian yn eu llogellau. Crea ynddynt awydd am ragori. Lleinw hwy a serch ymarferol at eu teuluoedd eu prif hvfryd- wch yw canu mawl i Dduw, a bod o wasanaeth i'w cyd-ddyn. Diafol rhagorol yw hwn. Y mae iddo groeso mawr i'n plith. Hoffem ei weled yn rheoli holl Gymru

YR ATHRONYDD A'R PENNILL.

MR. EVAN ROBERTS.

Oxford Notes.

Advertising