Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

Enwogion Cymreig.-XX. Syr…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XX. Syr T. Marchant Williams. HANNER canrif yn ol nid oedd yng JL JL Nghymru odid dref a'r ysbryd llenyddol a gwladgarol yn gryfach ynddi nag Aber- dar. Preswyliai yn y dref yn y cyfnod hwnnw nifer liosog-rhy liosog i'w henwi bob yn un ag un—o ddynion oeddynt ar lawer ystyr ym mhell o flaen eu hoes, dynion o gynheddfau cryfion yn feddyliol a moesol, dynion wedi deffro i weled angenion y genedl, dynion yn gwbl argyhoedd- edig y medrai y genedl, ond rhoddi iddi chwareu teg, gymeryd lie anrhydeddus ymhlith cenhed- loedd eraill, a bod iddi genhadaeth ym mywyd a hanes dynoliaeth. Y mae presenoldeb dynion felly mewn tref neu ardal yn lefeinio awyr y lie yn wastad. Par i'r rhai a fegir ynddi weled gweled- igaethau a breuddwydio breuddwydion, cynyrchir ynddynt benderfyniad i ymladd ag anhawsderau ac uchelgais am ragori, a rhagori nid er mwyn elw ac anrhydedd personol yn gymaint ag er mwyn gwasanaethu a dyrchafu y genedl y perthynant iddi. Yn awyrgylch Lenyddol a Gwladgarol Aberdar yr anadlodd Syr T. Marchant Williams gyntaf. Yn y dref honno y ganwyd ef yn y flwydd) n 1845. Nis gwyddom lawer o hanes ei ddyddiau boreuol, heblaw y rhaid ei fod wedi yfed yn helaeth pan yn bur ieuanc o ysbryd y dynion y cyfeiriwyd atynt a osodasant neillduolrwydd ar ei dref enedigol. Yn bur gynnar daeth dan addysg gwr a adawodd ddylanwad annileadwy arno, ac ar bawb arall a ddaeth i gyffyrddiad agos ag ef, y diweddar Mr. Dan Isaac Davies, gvvr nad yw Cymru erioed wedi sylweddoli na chydnabod yn briodol gymaint yw ei dyled iddo. 0 dan yr athraw medrus hwnnw gwnaeth y bachgen gynnydd mawr, a chynyrchwyd ynddo awydd anorchfygol am fyned rhagddo. Pan yn bedair- ar-bymtheg oed cawn ef yn fyfyriwr yng Ngholeg Normalaidd Bangor, lie yr arosodd am ddwy flynedd. Wedi gorphen ei gwrs ym Mangor bu yn ysgolfeistr yn Ysgol Frytanaidd Amlwch, yn y blynyddoedd o '65 hyd '67, pryd y dychwelodd yn ol i Fangor i fod yn Athraw yn y Coleg Normalaidd, ac yn Brif-feistr yr Ysgol Ymarferiadol. Llanwodd y safle honno am bum' mlynedd er boddlon- rwydd mawr. Ond yr oedd ei uchelgais ef ei hun heb ei boddloni. Gadawodd Fangor yn 1892, ac aeth i Goleg Aberystwyth, oedd wedi ei sefydlu ychydig cyn hynny. Graddiodd gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Llundain. Mae llawer o gondemnio ar radd Llundain gan liaws yn y blynyddoedd diweddaf, ond rhaid cyfaddef iddi symbylu mwy o fechgyn Cymru am gyfnod hir i geisio rhagori nag a symbylodd graddau Rhydychain a Chaergrawnt. Pan gwblhaodd Syr Marchant Williams y cwrs o addysg a dorrasai allan iddo ei hun, nid oedd nemawr ddrws agored iddo yng Nghymru i ymarfer ei dalentau. Magu dynion i lenwi cylchoedd pwysig mewn gwledydd eraill y bu ein gwlad ni am flynyddau lawer. Mae pethau wedi newid erbyn hyn, ond bydd ein cenedl yn hir yn teimlo effeithiau y modd y tlodwyd hi mewn amser a basiodd. Ac i Loegr y trodd y gwr ieuanc yr ysgrifenwn am dano ei wyneb. Pennodwyd ef yn Arolygwr o Dan Fwrdd Ysgol Llundain yn 1894, a daliodd y swydd bwysig a chyfrifol honno am ddeng mlynedd. Ond cyn i'r tymhor Photo by\ [Ehiott &• Fry. SYR T. MARCHANT WILLIAMS. hwnnw ddod i ben penderfynodd gymeryd cam arall tuag ymlaen. Trodd i astudio y gyfraith, ac yn y flwyddyn 1885 galwyd ef i'r Bar, ac yfnunodd a Chylchdaith Deheudir Cymru. Cafodd cyn hir amryw bennodiadau, megis Deputy Clerk of Assize ac Assistant Charity Commissioner. Ond yn 1900 appwyntiwyd ef yn Ynad Cyflogedig Merthyr Tydvil. Yr oedd pellder mawr i'r Fainc honno o'r fainc yr eisteddai ami yn Ysgol Elfenol Aberdar, ond dengys ei lwyddiant beth a ellir gyrhaedd drwy uchelgais ac ymroddiad. Croesawyd ef yn wresog i'r cylch gan ei gyfoedion a'i hen gyd- nabod. Ac y mae' ei weinyddiad o gyfiawnder yn ystod y blynyddoed er yr appwyntiwyd ef i'w swydd wedi profi ei gymhwysderau i'w llenwi. Ryw flwyddyn yn ol anrhydeddodd y Brenhin ef drwy roddi arno Urdd Marchog, ac eistedda yr anrhydedd hwnnw yn llawn mor esmwyth arno ef ag y gwna ar fwyafrif o'r rhai a'i derbyniasant. Er nad yw Syr Marchant yn edrych ar holl gwestiynau Cymru heddyw yn union yr un fath efallai ag ) r edrychai arnynt pan oedd yn ieuangach, ac er nad yw yr oil o'i gyd-genedl fe ddichon yn barod i gydsynio a'i holl syniadau, eto fe gydnebydd pawb a'i hadwaenant ei fod yn wir wladgarol, ac yn amcanu yn yr oil a wnaeth ac a wna i lesoli ei bobl. Yn ystod yr holl flynyddau y bu yn trigo yn Llundain cafodd pob symudiad a sefydliad Cymreig yn y ddinas ef yn gyfaill a chynorthwywr parod ac ymrodd- gar. Yr oedd yn un o'r rhai a adgyfodasant Gymdeithas y Cymmrodorion ac a sefydlasant Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu am flynyddoedd lawer yn ysgrifenydd anrhydeddus y Gymdeithas Elusenol Gymreig-Cymdeithas sydd mewn ffordd ddistaw a didwrw wedi bod o wasanaeth dirfawr i gannoedd o Gymry a wasgwyd i gyfyngder gan amgylchiadau adfydus. Ynglyn a'r Gymdeithas honno gwelodd mai un o brif achosion tlodi a darostyngiad dynoliaeth yw ymyfed a meddwdod, a thaflodd ei holl ddylanwad o blaid dirwest a sobrwydd. Bu yn gadeirydd Pwyllgor Gweithiol y Cyngrhair Dirwestol Cenedlaethol, ac yn y cymeriad hwnnw gwnaeth wasanaeth mawr' i achos rhin- wedd a moesoldeb. Ni feddwn ofodi fanylu ar ei Ymroddiad ym Mhlaid Addysg Cymru. Yn y cysylltiad hwn nid yw bob amser wedi gweled lygad yn llygad a phawb a gydweithient ag ef. Ond ni pharodd unrhyw anghytundeb yng nghylch y modd goreu i weithredu iddo ef laesu yn ei ymdrechion i sicrhau rhagor o -gyfleusderau a manteision i ieuenctid y wlad a'i magodd. Bu ar un adeg yn Ysgrifenydd Gweithredol Coleg Gogledd Cymru. Mae yn awr yn aelod o Gorff Llywodraethol ac o Bwyllgor Gweithiol Prifysgol Cymru yn aelod o Gorff Llywodraethol ac o Gyngor Coleg Caerdydd, ac yn Warden Guild Graddedigion y Brifysgol,

Advertising