Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

"Ty Jem."

News
Cite
Share

"Ty Jem." A fuost ti, ddarllenydd, ar y brif-ffordd rhwng Llanymddyfri a Llambed? Os do, yr wyt yn adnabod yr hen Jem yn dda. Taith bleserus a rhamantus yw'r ugain milldir hyn, rhwng dyffryn swynol y Teify a glanau dolenog y Towy fel yr ymdreigla heibio i dref yr Hen Ficer. Dyma hewl drumpeg ein tadau, a mawr fu blinder y turnpike gates iddynt am genedlaethau. Ar hyd y ffordd hon y tyrrai merched a llanciau llawen o ddyffryn Towy i fyned i lan y mor yn Aberaeron bob haf, a bu'r hen goach mawr," a'r vans haf a'u cludent, yn destynau edmygedd preswylwyr ochrau'r ffordd am flwyddi lawer. Dyma'r ffordd hefyd yr elai gweision ffermwyr glanau'r Teifi a chanolbarth Ceredigion ar eu siwrneuon i'r Mynydd Du i gyrchu calch er gwrteithio eu tiroedd, cyn i'r relwe a gododd yr hen Ddafis Contractor-tadcu Dafis Llandinam yn awr—leihau y pellder a lladd yr ychydig arwriaeth oedd ym mywyd unig preswylwyr y lleoedd diarffordd hyn. 0 un i un mae hynodion ac arbenigion yr hen ffordd wedi gorfod cilio o flaen gwareiddiad, ac o'r ychydig hen gymeriadau a wnant y ffordd yn llawen, 'does yn aros ond Jem a'i gwesty unig. Rhaid dringo yn uchel, uchel, cyn cyrhaedd preswylfod yr hen Jem, ac wedi hir ddringo yn araf, naill o lanau'r Teify neu o ddyffryn y Cothi, mae y teithiwr yn flinderog a'r anifail yn lludd- edig, a'r naill fel y Ilall yn sirioli wrth weled fod cyfleusdra i gael diod a lluniaeth yn y fangre dawel hon. Uwchben drws y gwesty bychan dacw yr ysgrif, "Mountain Inn. Jemima Davies, Licensed to Sell, &c. ac yn croesawu pob ym- welydd wele'r hen ferch ei hunan gyda'i gwen siriol, a'i hedrychiad hanner direidus, a'i thafod ffraeth a pharod. Am rhyw driugain mlynedd hi yw unig dant llawen y teithiwr ar hyd y ffordd unig a maith hon, ac mae preswylwyr dwy sir yn ei hoffi ac yn ei hanwylo, oherwydd ei gwreiddioldeb a'i ffraethebau, a'r gonestrwydd syml sydd yn ei chroesawiad Cymreig ac mae Ty Jem fel ei gelwir (oherwydd 'does ond yr excisemon Seisnig yn ei alw yn Mountain Inn), yn fath o landmark arosol a ddynodai fod mwy na hanner y daith wedi ei throedio erbyn cyrhaedd copa'r mynydd lie y saif. Dau wron mawr yr hen Jem oeddent Gladstone a Thomas Gee. Addola y rhai hyn a chalon lawn, ac ar y mur uwchben y gadair lle'r eistedda mae darluniau o'r ddau arwr, a gwae y neb a feiddia siarad gair yn amharchus am yr un o honynt. Darllena'r Faner gyda chysondeb ar hyd y blynyddoedd, ac er cymaint ei pharch i'r papyr, mae hwnnw weithiau yn dod tan ei chondemniad am nad yw yn ddigon Radical- aidd i gydfyned a'i daliadau eithafol hi. Pan fu Gladstone ar ymweliad ag Abertawe yn yr 8o's aeth yr hen ferch yr holl ffordd yno er mwyn cael cipolwg ar y gwr a addolai, a llawer i awr a dreulia i adrodd hanes y daith honno a'r modd y darlunia yr hen wladweinydd, a sut y gwaeddodd hi "Bendith ar dy ben di, Gladstone bach," nes synu'r dorf: a byth oddiar hynny hawlia ryw fath o adnabyddiaeth a'r hen wron fel pe wedi bod yn siarad ag ef gannoedd o weithiau. .1- i 'v f+a.rnUT" oV rriirOl 1 TTTt* IVlae Cl tuiucsaw 11 nciuiwi ai g, v* nai x cyffredin yr un ag i uchelwr neu fonedd a alwant yn ei thy. Gesyd reolau arbenig ynglyn ag yfed, ac ni chaiff neb ond yn ol ei barn hi. Adwaenir hi gan bell ag agos am ei chwrw number one, ond nid oes yr un olwynwr, na gyrriedydd, na marchogwr i gael rhagor nac un gwydraid o'r ddiod honno. Gan fod goriwaered mawr 'i bob cyfeiriad o'r gwesty, mae'n sicr mai rheol ddoeth yw hon. Adrodda ami i stori ddoniol am bobl yn ceisio ei denu i roddi rhagor na'r dogn arferol, ond Jem sy'n trechu bob amser. Un tro daeth prif ynad y rhanbarth heibio a hawliai ddau ddogn, ond nis cafodd hwy. Bygythiai a cheryddai hi yn arw gan ddweyd y' cofiai am dani pan y deuai i ofyn iddo am drwydded y tro nesaf. Unig ateb Jem oedd rhedeg am ei ffon a bygwth curfa dost i'r gwr, a thywallt anathema arno a'i dychrynodd am byth rhag gwneyd dim 'w herbyn ar y fainc. Daeth Mabon i'r ardal un tro, a phan glyw- odd yr hen Jem ei fod ger y drws, dyma hi yn syrthio ar ei wddf a'i dwy fraich yn dyn am dano gan ei foli am ei waith dros y tylawd. Er mwyn heddwch bu raid iddo-medd yr hanes- yfed iechyd da i'r hen greadures, a byth oddiar hynny y mae iddo le parchus ganddi yn rhestr dynion da yr hen fyd yma. Ceir ami i ddigrifwch uwchben ei brwdfryd- edd, ond mae yn ddiguro am ateb ffraeth. Un tro 'roedd nifer o honom yn mynd heibio, ac wedi galw am ddiod i ddyn ac anifail dyma un o'r cwmni oedd wedi clywed am ei hynod- rwydd yn ceisio tynu ysgwrs a hi. "Beth yw'r ddiod yma sy' genoch chi?" meddai ar ol ei phrofi. 0, number one, machgen i," atebai hithau yn foddhaus. Ie wir," meddai yntau yn gellweirus, un fach wan iawn yw hi hefyd." II Gwan gwaeddai'r hen ferch yn sarug. Y mae'n llawer rhy gryf i dy ben meddal di A bu raid i'r gwr dewi yn swn yr anathema a dywalltodd arno. Er fod llaw amser yn gwneyd ei 61 arni yn ddiweddar, a'r cam yn dechreu byrhau, y mae mor fyw ei hysbryd gwrthwynebol i Dori- aeth ag erioed Un diwrnod, aeth triawd o honom heibio ar daith tuag Ogof Twm Sion Catti, tua diwedd yr haf diweddaf. Dywedasom y byddai yn hwyr arnom cyn dych- welyd, ac er fod hanner nos gerllaw cyn cyrhaedd yn ol i'r lie, yr oedd yr hen lances wedi aros ar lawr i'n croesawu. Pregethwr dieithr oedd un o'r tri, a phan ddeallodd yr hen wraig hyn, dyma hi'n arllwys ei chwyn wrtho, ac yn dyweyd mai cam bychan oedd bellach rhyngddi a'r glyn. Aeth yn bur isel ei hysbryd, a dyma un o'r tri-a wyddai yn dda am ei gwrthwynebiad i Chamberlain-yn torri i fewn er troi yr ym- ddiddan 'Nawr mother Jem ebai, 'r'wyn mynd 'nol i Lunden fory. Er mwyn calonogi tipyn ar y Llywodraeth yma, gwaeddwch Chamberlain for ever. Wrth glywed yr enw, dyma hi yn anghofio ei holl lesgedd a'i phoenau, ac yn neidio ar ei thraed fel hogen ugain oed i ganol yr ystafell, a chyda'i llygaid yn melltenu, a'i braich ddeheu i fynny tua'r nefoedd, gwaeddai, Dim dim pe bawn yn gorfod mynd i uffern heno, ni alia i roi yr un gair o ganmoliaeth i'r Judas hwn, sydd am godi pris bwydydd y dynion tylawd." Brawychwyd y pregethwr yn fawr, ac 'roedd clywed y fath ddatganiad yn ddigon i wneyd hynny hefyd; ond dyma ei hynodrwydd hi- eithafion cosp i bawb a ddywedant ddim yn erbyn Gladstone a'i gredo. Chwareu teg i'r hen Jem. Pe buasai pawb wedi dal mor gadarn at y gredo Ryddfrydol a hi, buasai gwell golwg ar ein byd heddyw. Ei hunig ddymuniad yn awr yw cael gweled ys- gubo Toriaeth o'r Senedd a gorseddu Lloyd- George yn brif weinidog. Ar ysgwyddau hwnnw y mae wedi gosod mantell Thomas Gee ers talm; a'n dymuniad ninau yw ar iddi, gyda'i gwreiddioldeb, gael iechyd i weled y dydd gwyn hwnnw yn hanes ein gwlad. T. J.

Advertising

___n'___'----------------Football.