Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. ALBERT HALL.-Mae rhagolygon yr eistedd" fod fawr a gynhelir yma cyn diwedd y mis presenol yn gwella bob dydd. Boed i'r dinas- yddion gadw'r dyddiad yn rhydd er mwyn bod yn bresenol yn yr wyl eleni. Y CORAU.—Gwelir fod chwech o gorau meibion eisoes wedi anfon eu henwau i fewn, ac yr ydym yn lied debyg o gael cystadleuaeth wir rhagorol. CYFARFODYDD.—Lied gymysglyd yw rhag- leni'r cyfarfodydd Cymreig wedi bod yn ddiweddar. Mewn ami i gapel bu raid ad- drefnu'r bwriadau am yr wythnos ddiweddaf a throi y cyfan yn gyfarfodydd gweddi. Y CWRDD TE.OS gosodir o'r neilldu y cwrdd llenyddol a'r ddarlith, gwelwn fod y cwrdd te yn dal ei dir o hyd, a chaed cynulliadau boddhaus iawn yn y Boro' yr wythnos hon, yn ogystal ag yn Barrett's Grove yr wythnos ddiweddaf ac yn Jewin cyn hynny. GWERSI'R DIWYGIAD.—A ydyw ein harwein- wyr crefyddol yn Llundain yn dechreu canfod y gwersi pwysig a ddysgir iddynt yn y cynulliadau mawrion a fynychant ein cyfarfodydd gweddi y naill noson ar ol y Hall, os cedwir y drysau yn agored i'n crefyddwyr ieuainc ? Oni ddengys hyn yn un peth fod mwy o'r tueddfryd crefyddol yn y to ieuanc nag a gydnabyddir yn gyffredin gan ein blaenoriaid ? EISIEU MAN CYFARFOD.-Mae mwyafrif yr ieuenctyd hyn yn rhai digartref yn y ddinas yma, a rhaid yw iddynt fyned allan i rywle i geisio mwyniant bob nos, ond does yr un man ar eu cyfer genym ni yn y ddinas yma ond y cwrdd te a'r cwrdd gweddi achlysurol. Ai nid oes yn y cynulliadau hyn awgrym nerthol i ni geisio gael man canolog lie y gallent gydgwrdd ar hyd yr wythnos am awr gyfeillgar ? Y CLWB.—Bu pwyllgor ynglyn a'r mudiad o gael clwb i'r Cymry yn nhy Syr John Puleston dydd Jau yr wythnos ddiweddaf. Yn ol yr hyn a hysbyswyd i'r cyhoedd, yr oedd gwahanol farnau yn bodoli pa fath sefydliad sy arnom eisieu-y Cymry Cymreig am gael math o sefydliad cymdeithasol ar gynllun y Polytechnic, a'r Sais Gymry yn awyddus am gael clwb moethus a gorwych er mwyn dysgu ein pobl ieuainc sut i fod yn wyr byddigions." EIN MAWRION.Caed prawf yn y cwrdd nad yw o un dyben i ni ddisgwyl ar eraill i wneyd yr hyn a ddylem ni ei gyflawni. Roedd y cwrdd cyhoeddus wedi gofyn i bobl fawr fel Syr David Evans, yr Henadur Vaughan Morgan, a Mr. Peter Jones, Chelsea, ac eraill fod ar y pwyllgor-pobl na wyddant ond y peth nesaf i ddim am y gwir fywyd Cymreig yn y ddinas. Da oedd genym ddeall fod ynddynt ddigon o synwyr cyffredin i beidio derbyn y gwahoddiad. Os nad oes genym ni ddynion digon da yn ein plith ein hunain i wneyd y gwaith gwell yw peidio dechreu ar yr anturiaeth. Pwv DDYLAI SYMUD.—Credwn mai'r unig bobl i gymeryd at y fath fudiad a hwn yw'r Cymmrodorion. Mae'r Gymdeithas yn gref, yn anenwadol, a'i chysylltiadau a rhai o brif deuluoedd pob sir. Cynrychiola bob gradd o'r bywyd Cymreig, a phe'r aent o ddifrif at y gorchwyl gallent yn hawdd sefydlu math o gartref neu Institute canolog i ni, lie y gallai Cymry ieuainc y ddinas feithrin a chadw eu bywyd Cymreig yn ei burdeb ac allan o hudol- iaethau a pheryglon mawr y ddinas hon. Y CVMMRODORION. -Nos Iau yr wythnos ddiweddaf rhoddodd y Gymdeithas hon ei darlith gyntaf am y gauaf presenol. Mr. Brynmor Jones, K.C., oedd y gwr i agor y gwaith, a chaed traethiad maith a dysgedig ganddo ar berthynas yr hen Gyfreithiau Gwyddelig a Chyfreithiau Cymru, a'u dylanwad arnynt. Y Barnwr Vaughan Williams oedd yn llywyddu, a gwyr y gyfraith yn benaf oeddent yn siarad yn y cwrdd, gan fod y mater yn hytrach uwchlaw cyr- haedd ac archwiliadau llenyddol ac hanesyddol yr efrydydd cyffredin. Cyhoeddir y papur yn nghyfres llenyddiaeth y Gymdeithas ar derfyn y tymhor fel arfer. Y BRYTHONWYR.—Ar yr un noson ag y bu'r Cymmrodorion yn cynhal cwrdd caed cynulliad arbenig o aelodau y Gymdeithas hon yn eu hystafell gysurus yn 64, Chancery Lane. Yr oedd yn anffodus fod y ddwy Gymdeithas wedi trefnu eu cynulliadau ar yr un noson. Dengys hyn fod angen mwy o gyhoeddusrwydd ar y naill a'r Hall o'u trefniadau yn y dyfodol. Felly, gyfeillion, gwnewch ddefnydd o golofnau hysbysebol y papur hwn er mwyn sicrhau llwyddiant yn y cynulliadau dyfodol. EILUN-DDUWIAU ELPHIN.-Siarad am Eilun- dduwiau Cymru y bu Elphin o flaen y Brython- wyr am y noson, a chaed beirniadaeth lem ganddo ar ein diffygion cenedlaethol. Daw rhai pethau atom heb eu gwahodd, meddai Elphin, megys angeu a'r trethgasglydd, ond y genedl ei hun sydd yn gwahodd ac yn dewis ei duwiau. A duwiau'r Cymro oeddent y Bardd Cadeiriol, y Parchedig, yr Aelod Seneddol, y Sais, a "Ffug." Ei FFLANGELL.—Miniog yw brawddegau Elphin bob tro yr ymdrinia a'n gwendidau cenedl- aethol, ac nid yw ei fflangell byth yn rhy galed gan mai'r pechodau bychain hyn ydynt wreiddiau ein holl ddiffygion, a dylid ar bob cyfrif eu trin yn arw bob amser. Nid yr awen na'r gyng- hanedd" meddai, a rydd fri ar y bardd cadeiriol, eithr ennill y gadair. Cofnodir am yr ennill yn hir wedi i'r awdl fynd i ebargofiant." Etto am y parchedig," pan beidiai'r pregethwr a bod yn Dduw daw yn llawer gwell dyn." Am yr aelod Seneddol, honai mai hwn yw'r penaf o'r eilunod, ac er ei fod yn fawr ei barch a'i glod yn y wlad, etto y mae fel rheol yn llai na'r llygoden leiaf yn Nhy'r Cyffredin. Dim ond chwech aelod sydd genym, meddai Elphin, y gellir eu galw yn aelodau Cymreig. PANTYCELYN.—Dyma destyn anerchiad a roddwyd gan Elfed ger bron ei ddosbarth

Notes of the Week.