Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
- Colofn y Gan.
News
Cite
Share
Colofn y Gan. EISTEDDFOD ALBERT HALL.—FEL y gwelir ar dudalen arall, y mae dydd cynhal yr Eistedd- fod hon gerllaw. Y mae'n debyg y bydd yr wyl hon yn un boblogaidd iawn, oblegid y mae'r pwyllgor a'r ysgrifenydd gweithgar wedi gwneyd pob peth sydd yn bosibl er sicrhau llwyddiant y cyfryw. YN yr adran gerddorol gellir disgwyl gwledd dda, oblegid y mae nifer fawr o ymgeiswyr ar yr unawdau wedi anfon eu henwau i mewn, ac yng nghystadleuaeth y corau meibion y mae partion rhagorol yn myned i ymgystadlu, megis Cor Meibion Undebol Cynon, Aberdar; Cor Meibion yr Eryri, sir Gaernarfon Cor Merlin Morgan; Orpheus Glee Society, Manceinion; Cor Meibion y Rhondda; a Chor Resolven. "Homeward Bound" (D. C. Williams), yw'r dernyn a genir ganddynt, a diau y bydd yno gystadlu da am y wobr o gan' gini. BARRETT'S GROVE.—Hwn oedd y prif gyng- herdd yn y cylch Cymreig yr wythnos ddi- weddaf, pan y daeth cynulliad gweddol dda ynghyd i fwynhau noson gerddorol a llawen. Y dadgeiniaid oeddynt, Miss M. A. Williams, Madame Juanita Jones, Mr. Thomas Thomas, a Mr. David Evans. Afraid yw manylu dim eithr yn unig nodi ddarfod i'r cantorion oil ganu yn eu hwyliau arferol; ac yr oedd Miss Nellie Jones yn gwasanaethu yn ddeheuig wrth y ber- doneg. MILE END.Nos Fercher cynhaliwyd. ped- werydd swper goffi y tymhor ynglyn a'r eglwys hon, y te a'r coffi, &c., yn cael ei roddi gan Mr. a Mrs. Perkins. Caed noson hynod ddydd- orol o gan a gwledd. EGLWYS ST. PADARN.—Yr ydym newydd dderbyn rhaglen Eisteddfod a gynhelir mewn cysylltiad a'r Eglwys hon, yn y Myddelton Hall, Islington, yn mis Mawrth. Eisteddfod fechan, wrth gwrs, fydd hon, ond yn ol y rhaglen, ei phrif nodwedd fydd Cymreigiaeth. Y mae'r testynau cerddorol i gyd (oddigerth un, sef y dernyn i'r corau meibion o waith Mr. Vincent Davies) yn Gymraeg. SHIRL\ND ROAD.- Yr wythnos hon derbyn- iasom ychydig fanylion ynglyn a'r Eisteddfod a gynhelir mewn cysylltiad a'r lie hwn yn ystod y mis nesaf. Y mae testynau da yn yr adran gerddorol. Y mae Requiem Dr. Parry (gan J. H. Roberts) wedi bod yn destyn cystadleu- aeth mewn dwy eisteddfod eisoes yn ein plith a deallwn mai yr un dernyn fydd ganddynt yn Shirland Road. Hyderwn y ceir cystadleuaeth dda yno, er deffroi y corau cymysg yn ein mysg; ac yn sicr y mae y "Requiem" yn ddernyn tlws. ST. MARY'S, CAMBERWELL.—Tua therfyn y tymhor cynhelir Eisteddfod mewn cysylltiad a'r Eglwys, ac y mae rhaglen ddestlus wedi ei threfnu ynglyn a'r cyfryw. NoDDFA."—Nos Iau nesaf, cynhelir cyng- herdd yng Nghapel "Noddfa," Tottenham, ym mha un y cymerir rhan gan nifer o gantorion poblogaidd. Ar yr un noson cynhelir Eistedd- fod yng Nghapel Harecourt, a diau y bydd amryw Gymry ym mysg y cystadleuwyr. GWYL DEWI SANT.—Da oedd genym weled y Llyfr Gwasanaeth gogyfer a'r Wyl yn Sant Paul's. Y mae cryn ofal wedi bod ynglyn a detholiad yr emynau a'r tonau, &c. Hyderwn y gwna'r gwahanol gorau well ymdrech gyda'r Salm-donau eleni nag a wnaethant y llynedd. Dylid cael mwy o rehearsals" cyffredinol os am welliant yn y canu.
PREQETHWVR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREQETHWVR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— I I. 0, Parch. J. Crowle Ellis. 6.30, G. Hart well Jones, M.A., Nutfield. Eglwys Dewi Sant, Paddington- 11.0 a 6.30, Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0 a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- I I. ° a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0 a 6 30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45,, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. J. Tudno Williams, MIA' 6.30, Wilton Square 10.30, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, G. H. Harvard, M.A. Falmouth Road 10.45, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Parch. R. O. Williams. 6.30, D. Oliver. Shirland Road 10.45, Supply Wood Green. 6.30, Holloway 10.30, Parch. D. Oliver. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, Supply Willesden Green. 6.30, Parch. F. Knoyle, B.A. StTatford 11.0, 6.30, Parch. J. Wilson Roberts. Claoham Junction 11.0, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, Mr. Evans, Penuwch. Walham Green 11.0, 6.30, Parch. J.Tudno Williams, M.A. Willesden Green 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, Lewisham 11.0, a 6-30, Tottenham I I. 0, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, J. Garnon Owen. Walthamstow 11.0, Mr. Evans, Penuwch. 6.30, Parch. LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, Supply Shirland Road. 6.30, YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross— i i. o Parch. Llewelyn Bowyer. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.° a 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea— 11.0 a 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.0, Mr. Caradog Jones. 6.30, Parch. Llewelyn Bowyer. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 6.30, Mr. Caradog Jones. Battersea Town Hall- ILO a 6.30, Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Parch. Cynog Williams, Heol-y- felin, Aberdare. Little Alie Street, Aldgate- I I. ° a 6.3°, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham- I I. ° a 6.30, Parch. W. Rees. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, H. Edwards. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Mr. H. Edwards. 6.30, Mr. D. N. Evans. Poplar, Duff Street- 3.0 a 6.30, Parch. T. Jones. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa. erbyn Dydd Mawrth y fan beitef.
Y DYFODOL'
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL LDymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1905. Chwf. 7. Cymdeithas y Brythonwyr, 63, Chancery Lane, Papur, Jack Glangors," Mr. J. T. Evans. .8. Undeb Cymdeithasau Cymreig Llundain. Dadl yn Little Alie Street. „ 9. Stratford. Darlith gan y Parch. S. E. Prytherch. „ 9. Cyngherdd "Noddfa," Tottenham, yn y Town Hall, Lower Edmonton. 12. Cyfarfod Pregethu Stratford. 16. Annual Eisteddfod, Harecourt Chapel, Canonbury. „ 16. Eglwys St. Padarn, Holloway, Swper Goffi yn yr Emmanuel Mission Hall. Chwf. 16. Cyngherdd Mawreddog Cangen Ysgol Harlesden yn Shirland Road. 21. Little Alie Street. Cyfarfod Cystadleuol. 23. Eisteddfod Gadeiriol yn y Royal Albert Hall. 25. Cyngherdd Cenedlaethol yn Heol-y-Castell. 28. Gwasanaeth Cymraeg yn St. Paul. 28. Cymanfa Unedig yr Ymneillduwyr yn y City Temple. Mrth. i. Ciniaw Cenedlaethol Cymreig yn yr Hotel Cecil. „ 9. Cyfarfod Cystadleuol Morley Hall, yn Jewin Newydd. 16. Cyfarfod Cystadleuol Wilton Square. 23. Cyngherdd Blynyddol Ysgol Camden Town. 23. Eisteddfod Eglwys St. Padarn, Hornsey Road, yn Myddelton Hall, Upper Street, N. 30. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. Ebrill 6. Cyngherdd a The Blynyddol Little Alie Street 6. Sibley Grove, East Ham. Cyfarfod Cystad- leuol. 13. Cymanfa Ganu y M.C. yn Tewin. 24. Eglwys St. Mary, Camberwell, Eisteddfod Fawreddog.
The Children's Column.
News
Cite
Share
The Children's Column. My DEAR NIECES AND NEPHEWS, I was almost afraid that the task of Jan. 21st was too hard for you, and it has proved to be so. Well, I hope not one of you will grieve much on that account. It is good to know what we do not know occasionally, good not for the pupil only, but for the teacher as well. Shall I tell you a bit of a secret. I remember that I was given some work to do in school when I was a young boy-it is many years ago-and I could not do it. I nearly broke my heart, for I had been able to learn all previous lessons without much trouble. I did not break my heart, however, but I understood how to be humble, and my teacher was more considerate with me afterwards. We also shall understand one another better in future. Now for the answers :— i. Gwenhwyfar, Myrddin, Cleddyf Caled- fwlch, Afallon. 2. Da, givell, goreu; drzvg, gwaetkt gwaethaf; hen, hyn, hynaf; ieuanc, ieu- angach, ieuangaf; mawr, mwy, mwyaf bach, llai, lleiaf. 3. Beyond, below, near side, up, down, go away. In No. 2 there ought to be perhaps an equal degree, for instance :—cynddrwg (as bad as), ieuanged (as young as), &c But you will hear of that again. My task to you this time will be an easy one7 I do not want to tax your little brains over much. i. Write short sentences, each containing one of the following pronouns :-Mi, myfi, efe, hi, hwyt hwythau. 2. Fill up the missing vowels in the follow- ing Welsh names :—D*frd* **ddgr*gf C*st*ll D*n*s*br*n, C*rs I**chn *str*dm**r*g, P*nt*c*I*n.* 3. Which are the most popular holiday resorts in Wales ? Name half-a-dozen of them. Do not forget to send your answers by Thursday, and your old Wncwl will be very sad if he does not hear from every one of you this week. Remember the address, c/o LONDON WELSHMAN, 45, St. Martin's Lane, W.C.
Advertising
Advertising
Cite
Share
HENRY BOWN, HiGH-CLASS PHOTOGRAPHER, 43, NEW KENT ROAD (close to Falmouth Road); 298, CLAPHAM RD.; 31 & 33, JAMAICA RD. (Dockhead), Under personal supervision of the Proprietor. Cabinets from 7/6. Enlargements made from own negative. Well recommended by Welshmen who have patronised me IF YOU WANT A GOOD PHOTO GO TO H. BOWN. Special attention to those coming up to the Eisteddfod.