Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ADGOFION AM EOS MORLAIS.

News
Cite
Share

ADGOFION AM EOS MORLAIS. Yn Eisteddfod Towyn, Meirionydd, yn 1871, y cyfarfyddais ag Eos Morlais gyntaf. Yr oedd yn eisteddfod bwysig. Llywyddid gan Samuel Holland, Ysw., A.S., oedd newydd ei ethol yn aelod dros Sir Feirionydd, yn olynydd i'r hen wrono Gastell Deudraeth—tad yr aelod presenol dros y Sir. Arweinid gan Tanymarian a Mynyddog. Yr oedd cor enwog Birkenhead yn canu yn yr eisteddfod a'r cyngherdd. Ar foreu dydd Llun yr oedd saith o honom yn cyfarfod yn Euston i fyn'd i'r eisteddfod. Yn y cwmni yr oedd Y Gohebydd," mewn iechyd lied dda yr adeg honno, ac yn ei hwyliau goreu. Yr oedd yno hefyd weinidog ieuanc o Sir Feirionydd ar y pryd, oedd wedi bod yn gwasanaethu un o eglwysi Annibynol Cymreig Llundain, sydd erbyn hyn yn henafgwr, ac yn weinidog am yr ail waith yn un o eglwysi mwyaf M organ wg. Da iawn genyf ddeall fod ei iechyd yn well nag y bu, a gobeithio y caiff fyw am lawer o flynyddau; mae yn un o'r cymeriadau mwyaf anwyl a hoff, ac yn un o bregethwyr goreu a pherffeithiaf ei enwad mewn iaith, cyfansoddiad, a thraddodiad. Rhwng yr oil cafwyd taith ddoniol a hwyliog, a buwyd yn son am lawer o flynyddau am y "prydnawn ddydd Llun "hwnnw yr oedd wedi myn'd yn fyrdwn i bobpeth. Digwyddai fod yn y cwmni eneth fechan oedd ers rhai dyddiau wedi pasio yr oedran i drafaelio heb docyn, ond men- trwyd myn'd a hi am y tro olaf y diwrnod hwnnw heb yr un. Eisteddai ar gyfer Y Gohebydd ym mhen pellaf y cerbyd, ac yr oedd yn hen arferiad diflas yn y dyddiau hynny o edrych tocynau braidd bob yn ail station, a phan glywid hwy yn gwaeddi All tickets ready," dywedai Y Goheb- ydd, Cysga Nel," gan feddwl fod yn hawddach iddi basio yn ei chwsg nag yn effro, a byddai hithau yn cysgu ac yn deffro ar fyr rybudd yn ol ei orchymyn, a rhwng pobpeth nid wyf yn cofio bod mewn taith mor ddoniol cynt na chwedyn. Cyrhaeddasom Cemmaes Road bron heb yn wybod i ni. Yr oedd rhai yn aros yno hyd boreu dranoeth, ereill yn myn'd i'r Dinas, ac yn dod i lawr erbyn y train cyntaf fore yr eisteddfod. Yr oedd Y Gohebydd i fod yn yr orymdaith i'r orsaf i gyfarfod y Llywydd, ond gan ei fod wedi gadael ei bethau yn yr orsaf, bu raid iddo Fyn'd i'r Van i Wisgo erbyn yr orymdaith, a bu raid i minau fyn'd yn valet iddo. Yn Glandovey Junction cyfarfyddwyd a Mynyddog, Ceiriog, Wilson Carno, Francis Defnewydd, a llu o hen gyfeillion, ond trwy fod y Cambrian fel arfer ymhell ar ol yr amser, yr oedd yr orymdaith wedi myn'd i'r Babell, a chafwyd cryn ddifyrwch gyda'r Gohebydd, oedd wedi rhoddi ei wasgod wen a'i silk hat yn ofer. Wedi cyrhaedd y babell, y peth cyntaf glywem oedd Tanymarian yn galw ar Eos Morlais i ddod ymlaen i ganu can yr eisteddfod; ar y gallery gwelwn bwt o ddyn bychan corphol, mewn dillad llwydion, yn cyfeirio tua'r esgynlawr ar gais yr arweinydd, a dyna lie 'roedd yntau yn wen i gyd pan yn gwrando ar v Brif Denor Cymru, yr adeg honno, yn canu am y tro cytaf yn y Gogledd. Yn y prydnawn yr oedd yno gystad- leuaeth i denor, a phob un yn cael dewis ei gan ei hun. Yr oedd Eos Bradwen ac amryw o gantorion goreu y Gogledd yn cystadlu, ond Morlais oedd y goreu o ddigon. Canodd "Anwyl yw Gwalia fy Ngwlad," a'r Beautiful Isle of the Sea." Yr oedd llawer yn teimlo dyddordeb ynddo, gan fod ei deulu yn hannu o Corris a Machynlleth, a chafodd dderbyniad gwresog dros ben, ac ar ol hyn byddai yn canu cymaint

Advertising

Advertising

ADGOFION AM EOS MORLAIS.