Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
FEL yr hysbysir yng Ngholofn Y Dyfodol," bydd y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., Nut- field, yn pregethu pregeth angladdol i Esgob Llandaf yn Eglwys St. Benet nos Sul nesaf. Yr oedd yr esgob yn un o ymddiriedolwyr yr eglwys honno, ac y mae y Parch. Hartwell Jones yn un o'r rhai a enwir fel olynydd posibl Dr. Lewis yn Llandaf.
BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN A…
News
Cite
Share
BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN A LLANELLI. Dewis Ymgeisydd Rhyddfrydol. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Cymdeithasau Rhyddfrydol y Bwrdeisdrefi uchod ddydd Sadwrn i ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholiad sy'n agoshau. Yr oedd y cynulliad yn dra lliosog, a nodweddid y gweithrediadau gan gryn frwdfrydedd a pheth cynhwrf. Gwyr y wlad bellach fod llawer o Ryddfrydwyr blaen- llaw y ddwy dref yn anfoddlawn ar Mr. Alfred Davies, yr aelod presenol. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd bythefnos ynghynt enwasid tri o foneddigion heblaw Mr. Alfred Davies, sef Mr. Terrell, K.C., Major Jones, cynaelod, a Mr. W. Llewelyn Williams. Pendertynodd y cyfarfod hwnnw fod anfon at y pedwar i ofyn a oeddynt yn barod i ymrwymo i dderbyn dewisiad y Gym- deithas yn derfynol, ac i'w gwahodd i annerch y cyfarfod ddydd Sadwrn. Nid oedd oddigerth Mr. Terrell a Mr. Llewelyn Williams yn bresenol, ac ymrwymai y ddau i dderbyn dyfarniad y Gymdeithas. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Major Jones yn cynwys ymrwymiad cyffelyb, ond yn gofidio nas gallai y I y fod yn bresenol oherwydd afiechyd. Ysgrifenodd Mr. Alfred Davies yn osgoi pwnc yr ymrwymiad, a rheolodd y Cadeirydd, gan nad oedd yn ym- rwymo, nad ellid rhoddi ei enw gerbron. Parodd hynny i'w gyfeiliion ymgynhyrfu. Nid ystyrient yn deg ei osod ef ar yr un tir a'r rhai eraill a enwid, gan ei fod yn y sedd yn barod. Wedi cryn ymgyndynu gadawodd cyfeillion Mr. Davies yr ystafell, ond rhoddasant ar ddeall ei fod ef yn myned i sefyll gan nad pwy a ddewisid gan y cyfarfod hwnnw. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Terrell a Mr. Llewelyn Williams. Darllenwyd llythyr oddi- wrth Major Jones yn cynwys ei olygiadau ar y prif bynciau gwleidyddol. Yna cymerwyd pleidlais ar y tri. Safent fel hyn Mr. Llewelyn Williams 20 Mr. Terrell 18 Major Jones 15 Yna rhoddwyd enwau Mr. Llewelyn Williams a Mr. Terrell yn unig ger bron, a dyma'r can- lyniad :— Mr. Llewelyn Williams 35 Mr.Terrell 21 Syrthiodd enw Mr. Terrell i'r llawr wedyn, ac yr oedd y drydedd bleidlais cydrhwng Mr. Llewelyn Williams a Major Jones. Fel hyn y safent Mr. Llewelyn Williams 39 Major Jones 15 Yna cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo Mr. Llewelyn Williams i'r Gymdeithas Unedig i'w fabwysiadu yn ymgeisydd. Yr ydym yn llongyfarch Mr. Williams ar yr anrhydedd hwn sydd wedi ei osod arno ym mwrdeisdrefi ei sir enedigol. A gwnawn hynny nid yn gymaint ar gyfrif ei olygiadau politicaidd ag ar gyfrif ei wladgarwch a'i genedlaetholdeb. Mae yn genedlaetholwr i'r earn, wedi gwasan- aethu Cymru ym mhob modd dichonadwy ers blynyddoedd, yn gwybod angenion ei genedl, ac yn cydymdeimlo a hwy. Bydd ganddo frwydr galed i'w hymladd, a diau y bydd i'r ymraniad yn y gwersyll Rhyddfrydol beri rhai pethau annymunol. Ond y mae ynddo ystor o natur dda fydd fel olew ar lawer ton. Caiff ddymun- iadau goreu Cymry Llundain yn ei ymgeisiaeth.
PORTHI DENG MIL 0 BLANT TLODION.
News
Cite
Share
PORTHI DENG MIL 0 BLANT TLODION. Y Sabbath diweddaf, a'r ddau cyn hynny, gwelais olygfeydd rhyfedd iawn, sef rhoddi ciniaw i dros fil o blant tlodion yn Notting Hill. Y mae y rhan hon o Lundain yn breswylfan llawer o weithwyr, ac y mae y caledi presenol yn cael ei delmlo yno yn llym iawn. Trwy gyd- weithrediad ein cydwladwr adnabyddus a haelionus, Mr. W. Price, ac ychydig o fonedd- igion y gymydogaeth, y maent wedi trefnu i roddi ciniaw a the i tua mil o blant, bob Sul hyd ddiwedd Chwefror. Y Sabbath cyntaf eis- teddodd 525 i giniaw twym, yn gynwysedig o gig eidion, cig dafad, tatws, &c., ynghyd a digon o laeth cynhes i'w yfed, ac ar ol hynny plum pudding moethus dros ben. Yr ail Sul am un o'r gloch, cafodd 578 wledd gyffelyb, ac yna am dri o'r gloch drachefn, eisteddodd 640 i de, bara ymenyn, a theisen o'r fath oreu. Y Sul diweddat cafodd 608 giniaw, a 599 de, felly, erbyn diwedd Chwefror bydd dros ddeng mil wedi cael ymborth. Teg yw dweyd fod yr ymborth oil o'r fath oreu ac wedi ei goginio yn dda a blasus, ac yn cael ei osod o'u blaen yn y fath fodd ag y gallai unrhyw un gyfranogi o honno. Yr oedd yr olwg ar y plant yn hawlio ein cydymdeimlad—rhai o honynt yn resynus o dylawd, eraill yn well, ond yr oil mewn hwyl i wneyd cyfiawnder a'r danteithion. Yr oedd yr olwg foddhaus oedd ar wynebau y boneddwyr a roddent y wledd, wrth weled y plant yn mwyn- hau'r bwyd, yn ddigon i wneyd unrhyw gybydd yn haelionus yn y fan, ac os digwydd i'r llinellau hyn ddyfod i sylw rhywun sydd heb wybod beth i wneyd a'i hunan neu ei aur, yr wyf yn ei wahodd i dalu ymweliad a'r lie ar unwaith—bydd yn iechyd i'w gorph a'i ysbryd. Yn ystafell fawr y public baths yn Lancaster Road y rhoddir y wledd bob Sul, yr hon a roddir yn rhad i'r gwasanaeth yma gan Gynghor Trefol Kensington. Y mae yn golygu gwaith mawr, ond y mae yno ugeiniau o wirfoddolwyr o'r ddau ryw yn barod ,i gynorthwyo. Gwelsom y Maer yno mor brysur a neb yn ceisio gwneyd y plant yn gysurus. Mae'n eglur fod y gofal hyn a gymmerir gan bobl arianog ein gwlad o'r tlodion y blynyddoedd diweddaf yn arwydd fod Duw yn parotoi calonau mawrion ein gwlad, ac yn eu tyneru i dderbyn dylanwadau sydd i fyned dros yr holl fyd, nad yw etto ond megys dechreu. T. A. P.
GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] WELSH CLASSES IN LONDON. To the Editor of "THE LONDON WELSHMAN." DEAR SIR,-It was with great pleasure that I read Marteltewi's" letter in your issue of Jan. 21st. He has taken up a subject which greatly interests many London Welshmen, myself among the number, who are desirous of improving or learning "hen iaith fy mam." Surely one of the London societies or a London Welsh patriot can take this branch of work up with the material so ready at hand; and with the co-operation and support of the pupils I feel certain that it would be an enormous success and help to many of our nation in town who have not had the privileges of some of our more fortunate countrymen. I am, Sir, yours faithfully, Watford. Ap GWILYML
[No title]
News
Cite
Share
MILE END.-Nos Fercher, Ionawr I8fed, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol y plant, Mr. Walter Hughes yn beirniadu y canu, a Mr* William Phillips, Essex Road (yn absenoldeb y Parch. Edward Owen, Barrett's Grove), yn beirniadu'r adroddiadau. A ganlyn wele enwau y buddugwyr :—Canu, dan wyth oed I, Mary Morris; 2, Matty Oliver. Am adrodd, Safon II. I, John Morris 2, Maggie Mary Williams, Canu, dan ddeuddeg oed: 1, Tommy Jenkins; 2, Bessie Thomas. Safon III.: 1, Bessie Thomas; 2, Ann Gwen Evans. Safon IV. Tommy Jenkins ac Annie Myfanwy Williams yn gydradd. Safon V. Mary Jenkins a Jennie Jones yn gydradd. Canu, dan un-ar-bymtheg oed: -1, Jennie Jones; 2, Mary Jenkins; 3, David Jones. Adrodd (agored i bawb) Goreu, Miss Jennie Jones. Prif atdyniad y cyfarfod ydoedd cystadleuaeth y Gadair Freichiau, yr hon a enillwyd gan Miss Annie Thomas, Morley Hall. Y mae beirdd cadeiriol yn bethau cyffredin, ond dyma y waith gyntaf i ni weled cantores yn cael ei chadeirio. Eisteddodd Miss Thomas yn y gadair, a'r beirdd yn dal y cleddyf uwch ei phen, gan waeddi, A oes Heddwch ? a'r dorf yn ateb gyda bloedd, Heddwch Rhoddwr y gadair ydoedd Mr. John Jones, Bethnal Green Road. Terfynwyd cyfarfod difyr a doniol gyda Hen Wlad fy Nhadau," Mr. Morgan Jones, Jewin Newydd, yn arwain.- CAASI.
About the Revival.
News
Cite
Share
Shiwt ichi'n gweid felli,-gwneid ei waith ar i gwithe nhw, wedso 'chi ? Ie, ar ei gwaetha nhw—dyna'r ffaith. Rwyf wedi mynd i gredu fod yn rhaid i Dduw anfon rhyw fath o ysbrydolrwydd special i Lundan i'n cael ni i'n lie. Does dim all sefyll o flaen yr Ysbryd yn Nghymru, y mae ei ras yn anorch- fygol. Pie mae o heb ddod yma ? Ichi'n creti taw gorfodaeth yw hi gyda Diw ? "Ydw, gyda rhai." "Win ffili 'lan a gweld 'rin peth a chi. Ddin glan, ichi am fforso crefydd ar ddinion. a mwy na hin, ichi am weid taw Diw i hin si'n gwneid hini. Ichi am hela i' bant Riddid Ewillis o'r Diwygiad." "0 na, maddeuwch i mi, yr ydych yn fy nghamddeall. Y mae gras Duw yn drech ei ddawn na'n galluoedd eiddil ni, deallwch. Does yr un dyn byw na theimla fo ei ewyllys yn llawer iawn gwell, wedi cael ei threchu gan ras anorch- fygol Duw, rhowch chi yr enw a fynnoch chi arno-fforsio os mynwch chi." Lie 'rin ni, gwedwch, rhaid ini adel Jonathan Edwards i ddod o hid i Evan Roberts. Y Diwygiad oedd gyda ni yn te fe ? la, ond rhoswch, nid ydym yn crwydro rhyw lawer chwaith, hyn a garwn ei ddweyd, fod yn dda gennyf mai ffordd dipyn yn galed a gymer Duw i'n tynu ni oddiwrth ein pechodau. Y mae o yn bound o roi y fwyell bob amser wrth wraidd y pren. Symud y pechod hawdda i ni allu gwneyd hebddo fo y byddwn ni chwi wyddoch." "Yn ol yr hin wedsoch chi just 'nawr, gellir dishgwl i'r Ysbrid witho yr in peth yn Llinden ag yn Nghymri." Wrth gwrs wir, ond cofiwch, i siarad yn ddaearol, y mae ganddo, i bob golwg, waith mawr i'w wneyd yma. Mae yma ddisgwyl mawr am dano fo gan y bobl ora mae'n wir, ond mae yma lawer o betha go ryfadd eisio eu clirio i wneyd y ffordd yn glir iddo." Gwir, gwir, ond wneith e ar y gore a'r rhwystre pan y daw e." Gwnaiff, gwnaiff, ond beth ydan ni yn ei wneyd, frawd ? Hawdd iawn y gallwn ni gyrchu at ein gilydd i weddio am Ddiwygiad heb dreio diwygio ein hunain. Os ydw i'n deall yr Iachaw- dwriaeth yn iawn, yn ein helpu ni mae hi pan y byddwn ni yn methu. Mae gyno ni lawar eisio ei wneyd yma." "Ini'n waeth yma gwedwch na Chymri yn yr Hen Wlad ? Wel, mi fydda'i yn credu ein bod ni. Lie mae'n Sabboth ni ? Darn o hono fo sydd yn cael ei gadw gennym ni, gwyddoch hynny yn dda. Mi feiwn bobl ieuainc am fynd i rodiana, ac yr ydym ni ein hunain yn rhoddi esiampl ddrwg iddynt drwy agor ein masnachdai ar fore y dydd sanctaidd." B'wch ddishtaw ddin, gwell i chi bido gweid dim ar hin ne fe dinwch yr hoelion with in ich pen bob in o honin'. Fealla y maddeua nhw imi am ddyweyd fy meddwl, mae fy awydd mor fawr am gael tywallt- iad ar Gymry Llundan. Y bydolrwydd yma yw y drwg yn siwr i chi. Rhyfadd na wela' ni beth fel hyn." Yn wir, ichi'n crio'n ofnadw'n awr." Mi wn mai gwir lIed finiog ydyw, ond y mae yn rhaid ei ddweyd." Medir yr Ysbrid wneid y gwaith ene'n yn well no chi." Gwir y dywedwch, ddigith neb wrtho fo." Na, na. Ichi am y cwrdd nos yfori ? "Ydw, os bydd modd. D'wedwch 'mod i'n gofyn yn garedig am Mrs. Morgan." Gwnaf. Noshwath dda ichi." HEBER.