Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
O'R AMERICA.
News
Cite
Share
O'R AMERICA. Philadelphia, Pa., Ion. 9, 1905. Fv ANWYl. GYFEILLION YN LLUNDAIN,— Ofnaf fod rhai o honoch yn dechreu ameu fy nghyfeillgarwch a'm gwladgarwch, trwy fy mod wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar. Wel, nid oes dim perygl, amyr un o'r ddau beth yna. Digio dipyn wrth y Celt a ddarfum am wneyd "match" mor sal, fel yr oeddwn i yn meddwl, gyda ryw Sais. Ond mae y LONDON WELSHMAN yn dod bob wythnos i'm 11aw, ac 'rwyf yn dechreu lecio y gwr ieu J nc yn anghy- ifredin a wna'i ddim taflu dim ychwaneg yn erbyn y briodas, er fod fy nghariad cyntaf i yn gryf iawn at y Celt. Bu yn ffrind i mi b )b amser, ac yn barod iawn ei ddalenau i roddi gair ffafriol yn mhlaid rhyw achosion y byddwn i yn nglyn y a hwy. Dal i grwydro ac efengylu yr wyf, ac yn rhwym am amser etto, er fod tonau o hiraeth yn myned dros fy ysbryd ar adegau. Mae y son am y Diwygiad yn dod fel awelon o fryniau Gwynfa, ac yn perarogli yn hyfryd ar ein cydgenedl yn y wlad fclwr hon. Mae yma ryw anesmwythder yn y wrbd hon am ymweliad oddi wrth Dduw, a dyna fflam ofnadwy fydd pan ddaw America at Groes Crist." Mae yma eisioes gymaint o ogwydd at yr ysbrydol yn y genedl, a'r pethau hynny yn elfenau tan mor angherddol, pan ddaw Crist i'w danio, ac nid Dowie, Mrs. Eddie, a Joseph Smith. Mae yma un pdh yn rhoddi blinder i mi,- gweled yr Eglwysi Cymreig mor llwyd eu gwedd mewn llawer man, yr hen bobl yn meirw, a'r plant yn ddigrefydd, h.y., heb fedru iaith eu tadau, ac heb dorri eu cysylltiadau yn llwyr a hen grefydd eu tadau, ond mae miloedd o honynt wedi eu colli i bob pwrpas crefyddol. Hoffus ffrindiau, mae yn rhy hwyr i mi fyned i son am "Flwyddyn Newydd;" bydd yn dechreu myned yn hen cyn y gwelwch chwi y cyfarchiad hwn. Rwyf yn dilyn eich hanes yn fanwl a'r ddalenau y LONDON WELSHMAN, ac yn llawenhau wrth weled cyrddau y bobl ieuainc mor flodeuog. Byddwch amyneddgar am fy nychweliad. Gwlad enfawr yw hon i'w chroesi hyd a lied. R wyf yn cwrdd a miloedd o Gymru ym mhob man yr af. Neithiwr yn y capel, cwrddais a Mr., Mrs. a Miss Roberts, brawd y Parch. Wilson Roberts, ei briod a chwaer. Rwyf ar gychwyn i'w cartref. Ydwyf, yn gariadus, gwladgarol a cbenedl- garol, eich ffyddlon EI.LENOR WILLIAMS, Castle Street.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Mr. HENRY MORGAN, Surgeon Dentist, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. ARTIFICIAL TEE 1H fr..m 5 to 10/- COMPLETE SBTS (UPPtR AND LOWER), from £4. Teeth Extracted under Gas and Ether Spray. Old Sets of Teeth Remodelled. No Charge for Consultation SiaredLr < ymraeg os yn /Tty dymun
Pobl a Phethau yn Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yn Nghymru. YR oedd dau o wyr y Rhondda mewn ty bwyd yng Nghaerdydd un o'r dyddiau diweddaf, ac .archasant bysgod gyda'u te. Nid oedd y ddau bysgodyn a ddygpwyd iddynt o'r un faint, a rhoddodd y rhanwr y lleiaf o'r ddau i'w gyd- ymaith. O'r braidd y mae hyn yn deg ebe hwnnw. Beth sydd yn bod ?" gofynai y lIall. Yr ydych wedi cymeryd y pysgodyn mwyafi chwi" eich hunan ac wedi rhoddi y lleiaf i minnau," ydoedd yr ateb. Beth a wnaethech chwi, ynte," gofynai y rhanwr eilwaith. "Gwneyd, mi fuaswn yn rhoi y mwyaf i chwi acyn cymeryd y Ileiaf fy hun," ebe'r cydymaith. Wei," ebe'r cyntaf, yr ydych wedi cael y lleiaf, a phaham yr ydych yn crintach ? Aeth y ddau yn ol i'r Rhondda gyda dau dren gwahanol. MAE Pwylleor yr Eisteddfod Genedlaethol syddiw chynnal yn Aber Pennar ym mis Awst wedi anfon allan gvlchlythyr yn apelio am dan- ysgrifiadau. Deallwn fod tua £500 wedi eu haddaw eisoes, yn cynwys y cyfraniadau a ganlyn:—Arglwydd Aberdar a Mr. D. A. Thomas, A.S., can' gini yr un Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, can' punt; a phump punt-ar-hugain gan ryw Gymro Americanaidd o'r enw Mr. John Jones. MAE y personau canlynol wedi addaw llyw- yddu yng nghyfarfodydd yr Eisteddfod: — Arglwydd Aberdar, Arglwydd Tredegar, Ar- glwydd Windsor, Syr William Thomas Lewis, Mr. D. A. Thomas, A.S., a Mr. H. E. Grey, Merthyr Vale. RHYDD Syr Alfred Thomas, A.S., y ciniaw blynyddol i aelodau y Blaid Seneddol Gymreig ar yr iyeg o Chwefror, yn y Devonshire Club. Iarll Spencer yw y Sais gwahoddedig i gyd- wledda eleni. EBE cyfaill o Lanbedr wrth un o swyddogion Llyfrgell Gymreig Aberystwyth, "Faint a war- iodd awdurdodau eich tre chwi ar lyfrau i'r .ddarllenfa y llynedd?" Hanner coron," ydoedd yr ateb parod. Dywedodd rhyw gellweiriwr a glywodd yr ymddiddan mai dyna y ddadl gryfaf a glywsai ef dros i Aberystwyth gael y Grant o'r Trysorlys tuagat Lyfrgell Gymreig. Y mae ei angen yno," meddal. YN wyneb y ffaith fod y chwioryddyn cymeryd rhan mor flaenllaw yn y Diwygiad presenol, mae yn ddyddoroli gofio ei bod dipyn yn wahanol yn '59. Dyna y pryd y daeth Cranogwen i sylw gyntaf. Ond y fath ydoedd y rhagfarn yn erbyn i ferched bregethu na gwneyd dim yn gyhoeddus gyda chrefydd, fel y gwrthodwyd iddi gael gwasanaeth yr un o gapelau Cymraeg Lerpwl; pan yr ymwelodd gyntaf a'r dref hono. Mewn neuadd y cadd le i gynal cyfarfod, a dim ond dau weinidog a drodd i mewn. BU'R Barnwr Kennedy yn traddodi anerchiad i Gymmrodorion y Rhondda, nos Sadwrn diweddaf. FE ddywedir mai hanner coron wariodd corphoraeth Aberystwyth tuag at lyfrau newydd i'w llyfrgell yn ysiod y llynedd, a phe barnem oddiwrth gyfarfodydd ) Cvnghor Trefol, mae'n sicr mai ar slang dictionary y gw ariwyd y pres.. DAW casgliad a all o weithiau Syr Lewis Morr.s allan o'r wasg yn fuan. Gyûa Haw yr -oedd Syr Lewis yn 72 oed ddechreu yr wythnos hon. YN ol y cyfrifiad diweddaraf y mae cynnydd aelodaeth yn eglwysi'r deheubarth yn driugain mil oddiar ddechreu'r Diwygiad. Dyna gyn- hauaf rhagorol mewn deng wythnos o amser ER oered yr hin y dyddiau hyn y mae llu mawr o aelodau newydd eglwysi'r Bedyddwyr yn cael eu trochi bob Sabboth yn afonydd Cymru, a daw tyrfaoedd mawrion i wylied y gweithred- iadau ac i weddio ar eu rhan. UN o ferched Diwygiad '59 yw Cranogwen, ac y mae mor fyw ei hysbryd heddyw ac mor frwd dros wella dynoliaeth a? oedd yn y diwyg- iad hwnnw. Ar y dechreu ni chai gymeryd rhan gyhoeddus yn y gwahanol bulpudau, a bu yn hir cyn cael clust y wlad. Erbyn heddyw, rhyfedd y gwahamaeth Y merched yw'r rhai mwyaf blaenllaw ym mhob cyfarfod bron. MAE Mr. Charles Morley, A.S., wedi bod yn bur wael am beth amser ond daw'r newydd ei fod yn graddol wella. Gwr tawel, neillduedig, yw Mr. Morley, a 'does ond ychydig iawn o Gymry yn ei adwaen yn ol y cnawd. MAE perthynasau y diweddar prif-fardd pendant, Gwilym Cowlyd, yn gwneyd trefniadau ar hyn o bryd i werthu yr holl lyfrau a adawyd ganddo. Fel y mae'n hysbys, yr oedd Gwilym yn un o'r llyfrwerthwyr hynotaf yn Ngogledd Cymru, ac roedd ei faelfa yn Llanrwst yn gynyrchfan i lawer o chwilotwyr am hen greiriau. Yr oedd wedi llanw amryw ystafelloedd o dan yr hen neuadd drefol gyda'i lyfrau, ac ni wyddis beth oedd ganddo i gyd. Y bwriad yn awr yw eu trefnu ) n rheolaidd, a gwneyd rhestr gyflawn o'i gasgliad. Ond gan fod Mr. J. H. Davies, M.A., a Syr John Williams wedi bod ar ymweliad a'r lie droion prin yr ydym yn credu eu bod wedi gadael llawer o drysorau ar ol. YN yr Alban y mae Mr. Lloyd-George yr wythnos hon, a daw'r hanes ei fod yn cael cyfarfodydd rhagorol a gwrandawiad astud gan wyr y North.' Yr oedd rhai pobl wedi credu mai dim ond rhyw fath o awdurdod ar bwnc Addysg yn unig oedd y gwr ieuanc o Gaer- narfon, ond yn ei areithi i u ) n yr Alban y mae wed iprofi ei fod yn llawer mwy hyddysg ym mhwnc y tollau a chyflwr y fasnach Brydeinig nag hyd yn oed Mr. Chamberlain ei hunan. Y PARCH. W. A. Roberts, Bettws-y-Coed, sydd wedi ei ddewis yn weinidog ar eglwys Annibynol Talysarn, Caernarfon. Nid oes bugail wedi bod ar yr eglwys hon oddiar ymadawiad y diweddar Barch. J. Rowlands. GAN fod ysbryd y Diwygiad yn cau y clybiau cymdeithasol ar hyd aIled wlad y mae mudiad ar droed i sefydlu nifer o leoedd cyhoeddus lie y gellir cael cyfarfodydd adloniadol, yn ogystal a llawer o gysuron cartrefol. Os am gael parhad o'r mudiad presenol rhaid trefnu am rywbeth a wrthweithia ddylanwad hudolus y dafarn. GWAITH hawdd sydd gan y Barnwr Lawrence ar gylchdaith y Deheubarth y dyddiau hyn. Yn Nghaerfyrddin ddechreu yr wythnos cafodd ei anrhegu a phar o fenyg gwynion am nad oedd yr un achos i ddwyn ger ei fron. Y MAK meddyg o ardal Bethesda wedi ennill cryn enwogrwydd iddo ei hun drwy dystiolaethu o flaen yr ynadon, fel prawf o feddwdod, i'r cyhuddedig dorri allan i brydyddu. Mewn cysylltiad a hyn ymddangosodd y llinellau doniol a ganlyn yn y Daily Chronicle y dydd o'r blaen :— It really seems a little hard, Because a person is a bard, That doctors should be led to think Him very much the worse for drink, Full many a songster, I aver, Is quite the strict teetotaller. Myself, for instance, many a time Have scoured my Walker for a rhyme, I've written things in sportive mood, (I made them scan whene'er I could) And several, the reverse of solemn, Were printed in this very column Yet, when I wrote those little lays, No bottks stood around on tra\s; I co.dd have mouthed, without confusion, The mystic British Constitution." I wrote the whole degrading bosh Exclusively on lemon squash. Then take my rivals—Swinburne, Kipling— No one accuses rhem of tippling Each would refuse, with visage shocked, ah Neither could mix the simplest cocktail. And, if you still need proof to show it, Sir Wilfred Lawson is a poet. P. G. W.