Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Notes of the Week.

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

iaith y werin. Mae barnwyr Seisnig wedi ein henllibio fel cenedl o anudonwyr, a hynny am na fedrent siarad a'r rhai a ddeuai o'u blaen yn eu hiaith eu hunain, ac am eu bod yn dibynu ar gyfreithwyr oeddynt yn rhy ddiog a di-dalent i n zn ddysgu Cymraeg na Saesneg yn iawn. Ond ynglyn a'n sefydliadau addysgol yn arbenig yr ydym yn awr yn llefain Cymraeg i Gymru." Beiddiwn ddweyd fod rhai o'n sefydliadau pennaf wedi cael eu hanalluogi i wneyd y gwasanaeth a ddylasent ac a allasent wneyd i'n cenedl oblegid gosod estroniaid na fedrent air o'n hiaith i'w rheoli. Pe bai dyn wedi ennill pob gradd sydd bosibl ei hennill yn holl Brif-ysgolion Lloegr a'r Cyfandir, os heb ddysgu yr iaith Gymraeg, nid yw yn gymwys i ofalu am unrhyw goleg nac ysgol yng Nghymru. Oni all siarad a'r plant yn yr iaith a ddeallant nid yw yn ddichonadwy iddo wybod beth yw eu cyrhaeddiadau, ac heb wybod eu cyrhaeddiadau nis gall drefnu y cwrs o addysg priodol iddynt. Mae hanes addysg Cymru er y pasiwyd Deddf 1870 yn dangos yn berffaith eglur mai yn yr ysgolion hynny lie y ceir athrawon ac athraw- esau yn medru iaith y plant y gwneir y gwaith mwyaf effeithiol o lawer, serch nad yw yr athrawon a'r athrawesau hynny yn meddu tystysgrifau o radd mor uchel ag eraill bob amser. Ac wrth alw am wybodaeth o'r iaith Gymraeg fel cymhwysder hanfodol i lanw y cylchoedd hyn nid ydym yn cau allan bersonau o genedl arall. Ceir engreifftiau heddyw o Saeson wedi dysgu ein hiaith yn gwneyd gwaith arddeichog yng Nghymru. Ni raid ond enwi Mr. Thomas Darlington, Arolygwr Ysgolion. Ond yr oedd efe wedi dysgu Cymraeg cyn cael ei appwyntio. A gwnaem hynny yn rheol gy- ffredinol a di-droi-yn-ol. Mae yn hen bryd rhoi terfyn ar yr hen arfer blentynaidd o ofyn i es- troniaid a wnant ddysgu iaith y bobl os pennodir hwy i swydd. Addawant i gyd, ac ant ymaith dan wenu yn wawdus wrth feddwl mor hawdd yw twyilo yr hen Gymry druain ag addewidion teg. Nid oes un o bob ugain o honynt byth yn meddwl am gyflawni yr hyn a addawodd, ac ni fedd yr awdurdodau ddigon o asgwrn cefn i alw sylw at y diffyg. Os yw dyn yn meddwl am lanly cylch o bwys yng Nghymru dylai gym- hwyso ei hun ar gyfer hynny drwy feistroli yr iaith. Ond ein rheswm pennaf dros wneyd gwybod- aeth o'r Gymraeg yn hanfodol yw, oblegid ein bod o galon gyda'r mudiad i ddysgu yr iaith yn yr holl ysgolion a'r colegau yn ddieithriad, ac nis gall rhai nad ydynt yn ei medru eu hunain byth wneyd hynny. Llawenychwn a llawenydd mawr am fod y dyddiau pan y cospid plant yn yr ysgolion am siarad yr unig iaith a fedrent siarad wedi myned heibio—byth i ddychwelyd yn ol hyni a obeithiwn. Gwyddom drwy brofiad am y gwaradwydd o orfod sefyll ar ben y fainc am awr, a chap mawr o bapur llwyd am ein pen, a'r gair hyll Welsh" wedi ei ysgrifenu arno mewn llythrenau breision. Dyna ein pennyd am siarad iaith ein mam. Yr amcan oedd gwneyd Saeson o honom. Gorfodid ni i ddysgu llythrenau, a sillau, a geiriau yr iaith honno o lyfrau, ond ni wyddem ystyr un o gant o honynt. Dysgasom gannoedd, os nad miloedd o linellau o farddoniaeth ar ein cof cyn bod yn ddeuddeg oed, a medrem eu hadrodd heb gamgynghanu sill, ond ni feddem y ddirnadaeth leiaf beth oedd un frawddeg yn feddwl. Ca plant y dyddiau hyn well chware teg, a cha plant y dyddiau a ddaw fwy o chware teg eto. Mae cynllun Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon yn cael ei fabwysiadu yn lied gyffredinol eisoes, a bydd- raid i bob Pwyllgor a Chynghor ei fabwysiadu cyn hir. Gwelwn fod rhai o'r ysgolfeistri yn codi lief yn ei erbyn, am y bydd yn ormod o ychwanegiad at eu gwaith. Y mae yn hen bryd i'r dosbarth hwn, sydd yn rhy fynych yn bur drahaus, ddeall mai yr ysgolfeistri a wnaeth- pwyd er mwyn y plant, ac nid y plant er mwyn yr ysgolfeistri. Os nad ellir dysgu Cymraeg heb adael rhyw gangen arall heibio, gwneler hynny yn ddistwr. Y mae llawer pwnc eithaf difudd yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion yn awr yn unig am ei bod yn arferiad i wneyd. Nid oes yr un cylch yn yr hwn y medd defod a Ilinyn coch fwy o awdurdod na'r cylch athrawol.