Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Gohebiaethau.

News
Cite
Share

Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] THE NATIONAL WELSH FESTIVAL. To the Editor of "THE LONDON WELSHMAN." SIR,-When I wrote you my letter above the nom-de- plume of Patriot," I fully anticipated that there would be a request for my name and address, and that antici- pation has been fulfilled. I, however, fail to quite grasp the object and meaning of Mr. Mason Williams's letter to you in your issue of last week. Am I to understand, that upon my name and address being known, I am to be subjected to a severe cross-examination and terrified into a recantation of my views or, on the other hand, does he intend to deal openly with the question through the columns of your paper ? The latter condition is the only one I can agree to, and upon a notification from him to this effect, I shall be prepared to disclose my name and address. Yours, &c., PATRIOT. EISTEDDFOD BOXING NIGHT. At Olygydd JI LONDON WELSHMAN." SYR,—Caniatewch i mi ofyn i ysgrifenyddion cyfar- fod Boxing Night yn y Memorial Hall, os byddant mor garedig a chyhoeddi, yn y WELSHMAN, y feirn- iadaeth ar y cyfieithiadau ynghyd a'r cyfieithiadau buddugol. Mae yn bur debygol i mi y bydd yn dda genych roddi lie iddynt, gan fod y ddau baragraph yn siarad ar destynau dyddorol, sef y Rhagrithiwr" ac Idleness." Nid wyf yn ystyried fod y cyfarfodydd yma yn dod i fynu a'u safon bnodol os na fydd yma ryw fath o addysgiaeth i'w roddi i'r cystadleuwyr. Eisieu dysgu sydd arnaf fi, a chan i mi anfon i mewn ar y ddau destyn, ac heb fod yn oreu ar un o honynt, mae yn amlwg i mi fod fy nysgeidiaeth ar gam yn rhywle. Yr wyf yn dymuno gwybod ym mha Ie. Ydwyf syr, yr eiddoch, GWINOLL. At Olygyddy "LONDON WELSHMAN." SYR,—Carwn wneyd sylw ar lythyr eich gohebydd James Owen, yn eich rhifyn diweddaf, ym mha un y ceisiai ddadansoddi nodyn a ymddangosodd yn y golofn Am Gymry Llundain yn eich rhilyn am yr wythnos flaenorol, yn ymwneyd a'r Eisteddfod uchod. Hwyrach," meddid yn y nodyn, mai gormod o gyfyngu sydd wedi dod arni (yr Eisteddfod). Pan yr apelir at holl Gymry Llundain am nodded, dylid rhoddi testynau mwy cyffredinol i gystadlu arnynt," &c. Yn y blynydd- oedd a aeth heibio yr oedd Eisteddfod Boxing Night yn sefydliad blynyddol poblogaidd yn ein mysg, a'r testynau ynglyn a'r cyfrywyn dra chyffredinol. Ond, yn ystod yr ychydig flynyddau diweddaf yr ydys wedi sylwi fod cryn dipyn o gyfyngu wedi bod ar y testynau, a diau fod hynny yn cyfrif, i raddau helaeth, am y difaterwch sydd ymhlith ein cydwladwyr ynglyn a'r wyl hon. Credaf mai gwastraff ar eich gofod a pheth di-alw-am-dano ydoedd Ilythyr eich gohebydd. Gwnaed ei hun yn fwy hyddysg a hanes yr Eisteddfod hon, ac yna feallai y ceir ganddo syniadau tecach ac eangach. Yr eiddoch, &c., CYMRO. At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." SYR,—Cwyna Mr. James Owen, King's Cross, yn eich rhifyn diweddaf o berthynas i nodiad o'm heiddo ynglyn a'r Eisteddfod uchod. Dywed fod o fewn fy saith llinell ddau haeriad anwireddus, ac yna a ymlaen, fel traeth- odwr ieuanc i geisio gwrthbrofi un o'r ddau. Goddefwch i mi sicrhau Mr. Owen ar y cychwyn mai nid ar antur, nac heb ymgydnabyddu a'r ffeithiau, yr wyf yn ysgrifenu i'r wasg un amser, ond mae'n amlwg mai nid dyna ei reol ef. Yn y lie cyntaf, os gwyr eich gohebydd rywbeth o hanes yr Eisteddfod hon boed iddo gydmaru y cynnull- iadau yn y blynyddoedd hyn a'r hyn a welid yn Exeter Hall ers talm; ac wedi iddo wneyd hynny a deall cywirdeb fy nodiad boed iddo fel dyn gymeryd ei bin a chydnabod ei anwybodaeth a'i angharedigrwydd o alw ffaith yn "haeriad." Yn ail, amheua'r "cyfyngu" sydd arni, ac ar y pen hwn â mor bell a cheisio dadleu tros ei farn. Yma eto y mae yn druenus o anwybodus. Cymerer y tri thraeth- awd fel engraifft i. Y Beibl; 2. Charles o'r Bala 3. Ann Griffiths. Y ddau olaf o'r tri yn brif gymeriadau Methodistaidd A oes eisieu ychwaneg o ffeithiau ar Mr. Owen? Da genyf ddeall i Mr. Owen ennill ar y traethawd, "Y Beibl," ac mae'n sicr fod ei wybodaeth o hanes hwnnw yn llawer mwy na'i wybodaeth o hanes yr Eisteddfod hon, neu yn wir rhyw gystadleuaeth hynod o wael ydoedd. Yr eiddoch, Y NODWR. PWY BIA'R DIWYGIAD ? At Olygyddy "LONDON WELSHMAN." SYR,—Yr ydych yn eich rhifyn diweddaf yn amheu cywirdeb y Daily News ynglyn a'r syniad mai'r Parch. F. B. Meyer oedd cychwynydd y mudiad ysbrydol presenol yn Nghymru, ond ni ddywedwch i bwy y perthyn y fraint o gyneu'r tan yn yr Hen Wlad. A oes sicrwydd pa le y dechreuodd y cynhyrfiadau presenol, a phwy oedd yr arweinwyr ynglyn a'r gwaith ? Dywed Mr. Evan Roberts ei hun mai plentyn y Diwygiad yw ef, felly rhaid fod y Diwygiad wedi dechreu cyn i Mr. Roberts ddechreu ar ei genhadaeth. Carwn gael ychydig o oleuni gennych ar ddechreuad yr hanes rhyfedd hwn. Yr eiddoch, PERERIN.

--Football.